Ymwybyddiaeth Ofalgar a Llesiant ar gyfer Ymarferwyr Proffesiynol (PGCert)
Mae’r rhaglen hon yn cynnig y cam nesaf ar ôl cwblhau cwrs 8 wythnos, a chyfle i ddatblygu eich dysgu ym maes eich gweithgarwch proffesiynol, beth bynnag yw hynny. Byddwch yn ystyried sut y gall ymagweddau seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar at lesiant gyfoethogi ffyrdd personol, cyfundrefnol a chymunedol ehangach o fod yn yr 21ain Ganrif. Er mai dysgu ar-lein ydyw, mae sesiynau galw heibio arfer wythnosol wedi’u llunio i greu ymdeimlad o gymuned ymhlith myfyrwyr, lle bynnag rydych chi.
Manylion y cwrs
- Ar-lein
- Dysgu o bell
- Saesneg
- Cymraeg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r rhaglen yn ffocysu ar feysydd allweddol o arfer personol, arfer seiliedig ar drugaredd a diwylliant a chymunedau.
Mae’n dechrau gyda’r unigolyn, yng nghyd-destun eu gweithle, yn ymestyn i ystyried ymagwedd seiliedig ar drugaredd ac yna’n ehangu i gynnwys diwylliant a chymunedau, gyda chynaliadwyedd yn ffocws drwyddi draw.
Mae’n ymgysylltu â’r arfer da ac unplygrwydd sy’n sail i ymagweddau at ymwybyddiaeth ofalgar, yn ogystal â’r agenda gwleidyddol ehangach lle bo ymwybyddiaeth ofalgar yn ceisio dylanwadu ar bolisi.
Mae’r rhaglen yn cysylltu theori, arfer ac ystyriaeth o effaith proffesiynol i gyfoethogi llesiant personol ac yn y gweithle.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Fel arfer, rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd anrhydedd.
Bydd cymwysterau galwedigaethau a phrofiad hefyd yn cael eu hystyried.
Yn ogystal, rhaid bod ymgeiswyr wedi cwblhau cwrs 8 wythnos o’r rhestr a ganlyn, (a all gael ei ddiweddaru):
- Lleihau Straen yn seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar (MBSR)
- Mindfulness-based Cognitive Therapy (MBCT)
- Sylfaeni Dotb
- Ymwybyddiaeth Ofalgar Tawelwch Meddwl mewn Byd Gorwyllt
- Ymwybyddiaeth Ofalgar ar gyfer Arweinwyr Addysg (MEL)
- Y Presennol ar gyfer Oedolion
Bydd rhaid bod ymgeiswyr sy’n ymgymryd â Modwl HBMW7001, Yr Ymarferydd Ystyriol (Ysgolion) hefyd wedi cael hyfforddiant mewn un o’r canlynol, (a allai gael ei ddiweddaru):
- Addysgu dotb (Prosiect Ymwybyddiaeth Ofalgar mewn Ysgolion)
- Addysgu pawsb (Prosiect Ymwybyddiaeth Ofalgar mewn Ysgolion)
- Y Presennol
- Ymwybyddiaeth Ofalgar i Bobl Ifanc
-
Nid oes dim arholiadau ar y rhaglen hon. Llunnir asesiadau i alluogi myfyrwyr i arddangos eu dealltwriaeth academaidd yng nghyd-destun datblygiad personol a gweithgarwch proffesiynol. Byddant yn cynnwys rhai o’r canlynol:
- Astudiaeth Achos
- Traethodau adfyfyriol
- Aseiniad ysgrifenedig
- Cyflwyniad
-
Bydd costau ychwanegol yn cynnwys prynu gwerslyfrau hanfodol a mynychu cynhadledd flynyddol.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Bydd y rhaglen hon yn galluogi i ymarferwyr proffesiynol ddyfnhau eu gwybodaeth a’u sgiliau yn y maes hwn a’u cymhwyso i’r maes gwaith hwn. Fel y cyfryw, gall gyfoethogi dilyniant gyrfaol ar adeg pan fo cynnydd yn y galw am arbenigedd mewn ymwybyddiaeth ofalgar a llesiant mewn llawer o feysydd.
Gall hyn gynnwys:
- Addysg
- Gwaith Ieuenctid
- Y Sector Iechyd
- Adnoddau Dynol
- Cwnsela
- Diwydiannau creadigol