Skip page header and navigation

Profiad Crefyddol (Rhan amser) (MRes)

Dysgu o Bell
3 Blynedd Rhan amser

Mae’r cwrs Profiad Crefyddol (MRes) yn astudiaeth newydd gyffrous, sy’n addas ar gyfer unrhyw un sy’n ceisio ehangu eu gwybodaeth yn y meysydd academaidd amlddisgyblaethol sy’n gysylltiedig ag astudio profiad crefyddol.


Mae’n cynnwys gwerth 60 credyd o fodiwlau a addysgir a thraethawd hir 120 credyd, hyd at 30,000 o eiriau. 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Dysgu o bell
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Rhan amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae'r rhaglen yn seiliedig ar gronfa o arbenigedd sydd wedi’i sefydlu ym maes anthropoleg crefydd a meysydd cysylltiedig yn y Gyfadran.
02
Bydd myfyrwyr yn elwa o ddiwylliant ymchwil byrlymus y Gyfadran a’r Ganolfan Ymchwil Profiad Crefyddol yn enwedig.
03
Bydd myfyrwyr yn elwa o’r cyfle unigryw i weithio gydag archif Alister Hardy, sydd yn y ganolfan ymchwil.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae gan y rhaglen ffocws unigryw ar anthropoleg crefydd, gan annog myfyrwyr i archwilio’n fanwl ystod o bynciau sy’n ymwneud â phrofiad crefyddol o safbwyntiau cyfoes a hanesyddol, damcaniaethol a methodolegol. Mae astudio profiad crefyddol yn faes ymchwil sydd wedi’i hen sefydlu yn y brifysgol, ac mae ein tîm academaidd wedi cyfrannu at y maes trwy gyfrwng cyhoeddiadau, ymchwil arbenigol, ac wrth gymryd rhan mewn cynadleddau rhyngwladol. 


Mae’r rhaglen yn gysylltiedig â Chanolfan Ymchwil Profiad Crefyddol Alister Hardy, sydd wedi’i lleoli ar gampws Llambed. Mae’n galluogi mwy o gydweithredu, a chydweithio, gyda Chymdeithas Alister Hardy er Astudio Profiad Ysbrydol. Bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i ddefnyddio Archif Alister Hardy gyda’i chasgliad unigryw o adroddiadau personol am brofiad crefyddol. Mae’r gronfa ddata ar gael ar-lein ar wefan Canolfan Ymchwil Profiad Crefyddol Alister Hardy, lle cedwir Archif Alister Hardy o brofiadau crefyddol a gofnodwyd.


Cyflwynir y rhaglen fel rhaglen astudio dysgu o bell yn llawn-amser ac yn rhan-amser.  Mae holl gynnwys y modiwlau ar gael trwy Amgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE) y Brifysgol a bydd myfyrwyr yn cael eu cefnogi trwy gydol eu hastudiaethau trwy gyswllt rheolaidd gyda’u tiwtoriaid modiwl, naill ai un i un (trwy e-bost, Skype, ffôn), mewn grwpiau (gan ddefnyddio cyfryngau megis Skype), neu drwy fforymau trafod modiwlau yr Amgylchedd Dysgu Rhithwir. 


Bydd yr holl fyfyrwyr yn cael eu cefnogi drwy gydol eu hastudiaethau yn enwedig yn ystod cyfnod Ymchwil eu rhaglen sydd gyfystyr â 120 credyd. Cynhelir ysgol haf flynyddol i raddedigion ar gyfer myfyrwyr ymchwil lle cânt fwynhau darlithoedd a seminarau sy’n ymdrin â materion sy’n ymwneud â dysgu cyffreinol a gwybodaeth sy’n benodol i’r pwnc a chyfle i ymgysylltu â nifer o’n myfyrwyr ymchwil.

Gorfodol

Traethawd Hir Mhres (Crefydd)
Profiad Crefyddol Heddiw
Theori a Methodoleg wrth Astudio Crefyddau

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Fel arfer mae gofyn bod gan ymgeiswyr radd israddedig dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch er mwyn astudio’r rhaglen hon. Mae’r Gyfadran yn annog myfyrwyr sydd â chymhwyster proffesiynol cyfatebol a phriodol neu brofiad proffesiynol sylweddol a pherthnasol i ymgeisio’n ogystal. 


    Gellir derbyn ceisiadau gan ymgeiswyr sydd heb radd hefyd, ar yr amod bod ganddynt o leiaf tair blynedd o brofiad proffesiynol sy’n berthnasol ac yn briodol i’r rhaglen a’u bod yn gallu dangos lefel foddhaol o sgiliau ysgrifennu / dadansoddi.

  • Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu o draethodau a gwerthusiad ysgrifenedig byr, a darnau myfyriol. Mae’r Traethawd Hir rhwng 25,000 a 30,000 o eiriau.

  • Mae’r amcangyfrifon yn seiliedig ar y dybiaeth bod myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau. Gall myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu drafftiau o waith. Gall myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau cysylltiedig ychwanegol. 

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Cynlluniwyd y rhaglen i ddenu myfyrwyr sydd â diddordeb mewn datblygu eu sgiliau cyffredinol yn ogystal â’u sgiliau sy’n benodol i’r pwnc. Mae’n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr sydd wedi graddio’n ddiweddar symud ymlaen i weithio ar lefel 7 yn eu maes astudio arbenigol ac yn helpu i’w paratoi ar gyfer gyrfaoedd ym myd addysg a meysydd eraill yn ogystal ag ymchwil.


    Mae’r rhaglen hefyd yn cynnig datblygiad proffesiynol parhaus rhagorol i athrawon ar wahanol gyfnodau yn eu gyrfa, gweinidogion sydd â gofal bugeiliol ar hyn o bryd sy’n ceisio datblygiad proffesiynol pellach a phobl eraill sydd â diddordeb. Yn ogystal, bydd y rhaglen yn apelio at fyfyrwyr sy’n dymuno astudio oherwydd diddordeb personol neu ymrwymiad i’w ffydd.

Mwy o gyrsiau Athroniaeth, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol

Chwiliwch am gyrsiau