Skip page header and navigation

Cytgord a Chynaliadwyedd: Theori ac Arfer (Rhan amser) (MA)

Caerfyrddin
36-72 Mis Rhan amser

Mewn cyfnod o argyfwng i’n planed, sut mae symud tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy? Yn 2009 dywedodd y Cenhedloedd Unedig fod angen i ni fyw mewn cytgord â byd natur. Yna yn 2015, cyfeiriodd y Cenhedloedd Unedig at Gytgord fel canlyniad i weithredu ei Nodau Cynaliadwyedd yn llwyddiannus.

Mae’r cysyniad o Gytgord i’w gael mewn athroniaeth orllewinol, syniadaeth Tsieineaidd, safbwyntiau cynhenid ar y byd a thraddodiadau crefyddau a dysgeidiaethau doethineb eraill. Mae’n gweld y blaned, gan gynnwys y ddynoliaeth, fel rhan o un cyfanwaith organig. Mae amrywiadau diweddar ar y ddamcaniaeth hon yn cynnwys Ecoleg Ddofn a Damcaniaeth Gaia.

Mae’r rhaglen arloesol hon yn archwilio cwestiynau ynglŷn â chynaliadwyedd, gan ddechrau gyda’r dybiaeth bod pobl, cymdeithas a byd natur i gyd yn rhan o rwydwaith o gysylltiadau lle na ellir deall unrhyw ran ar wahân i’r cyfanwaith. Mae opsiynau astudio yn amrywio o ecoleg ac ysbrydolrwydd i gyfiawnder cymdeithasol a busnes a chymunedau cynaliadwy, gan ganiatáu i fyfyrwyr ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau sy’n arwain at draethawd hir yn seiliedig ar brosiect ymchwil dan oruchwyliaeth, gan gyfrannu at ein dealltwriaeth o’r ffyrdd i greu byd cynaliadwy.

Bydd y rhaglen yn ddefnyddiol i weithwyr proffesiynol ym maes cynaliadwyedd ac ecoleg sy’n ymwneud ag atebion integredig a safbwyntiau eang.

Mae’r rhaglen hefyd yn rhan o ddatblygiadau ehangach yn PCYDDS, gan gynnwys ei statws fel Canolfan Fyd-eang UNESCO ar gyfer y Gynghrair BRIDGES. Ei nod yw integreiddio’r dyniaethau, y gwyddorau cymdeithasol, a safbwyntiau gwybodaeth lleol a thraddodiadol yn well gydag ymchwil, addysg a gweithredu ar gyfer cynaliadwyedd byd-eang. 

Mae’r rhaglen wedi’i hysbrydoli gan yr angen i ystyried buddiannau a llesiant cenedlaethau’r dyfodol, sydd wedi’u hymgorffori yn neddfwriaeth flaengar ‘Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol’ Cymru.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Cyfunol (ar y campws)
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
36-72 Mis Rhan amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae amgylchedd dysgu cyfoethog ac ysgogol yn meithrin twf academaidd a chwilfrydedd ymhlith myfyrwyr.
02
Mae ein staff yn weithgar ym maes ymchwil, sy’n sicrhau eu bod nhw’n cael y wybodaeth gyfredol am y datblygiadau diweddaraf yn eu priod feysydd ac yn cyfrannu mewnwelediadau gwerthfawr.
03
Gyda dosbarthiadau bach, mae myfyrwyr yn elwa ar gael sylw mwy personol, gan greu amgylchedd sy'n addas i gael rhyngweithiadau ystyrlon a phrofiadau dysgu effeithiol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r rhaglen arloesol hon yn archwilio’r problemau mae ein planed a’n cymunedau yn eu hwynebu o amrywiaeth o safbwyntiau ymarferol a damcaniaethol. Mae’r rhaglen yn unigryw o ran ei natur amlddisgyblaethol, sy’n caniatáu i fyfyrwyr fabwysiadu amrywiaeth o lwybrau a safbwyntiau.

Gan ddefnyddio dogfen y Cenhedloedd Unedig ar ‘Gytgord ym Myd Natur’ ac Agenda 2030 ar gyfer Datblygu Cynaliadwy, sy’n diffinio Cytgord fel canlyniad polisïau cynaliadwy llwyddiannus, mae’r rhaglen yn archwilio’r hyn a olygir wrth Gytgord ac yn gofyn sut y gall ddarparu athroniaeth ar gyfer cynaliadwyedd, gan osod yr holl ddewisiadau polisi ac ymddygiad yn eu cyd-destun ehangaf posibl.

Mae athroniaeth ac arfer Cytgord yn cydnabod cyd-gysylltiad a chydberthynas pob peth. Mae’n “fynegiant o gyfanrwydd, yn ffordd o edrych arnom ein hunain a’r byd yr ydym yn rhan ohono. Mae’n ymwneud â chysylltiadau a pherthnasoedd.” Mae gan gytgord wreiddiau dwfn mewn athroniaeth glasurol. Cytgord sydd wrth wraidd syniadaeth Tsieineaidd, yn enwedig Daoaeth a Chonffiwsiaeth, sydd wrth wraidd traddodiadau ysbrydol mawr y byd – Bwdhaeth, Islam, Iddewiaeth a Christnogaeth – a meddylfryd cynhenid, lle mae bodau dynol a byd natur yn rhan o un cyfanwaith. Mae’r cysyniad o gydberthynas a bod yn gydgysylltiol bellach yn cael ei fynegi trwy Ddamcaniaeth Gaia ac egwyddorion ‘Ecoleg Ddofn’, lle mae pobl, byd natur a’r blaned yn rhan o un ‘maes’.

Mae’r emosiynol, y deallusol a’r corfforol i gyd yn gysylltiedig. Mae gennym gysylltiad â’n hamgylcheddau, yr amgylchedd naturiol a’r amgylchedd adeiledig, ac mae pob rhan o’n cymunedau a’u hamgylcheddau yn gysylltiedig. 

Mae’r maes llafur yn pwysleisio theori (sut ydyn ni’n deall materion a phroblemau cyfoes?) ac arfer (sut ydyn ni fel unigolion a chymunedau yn gweithredu i ddatrys y problemau hyn?). Mae’n mynd i’r afael â’r amgylchedd cymdeithasol ac economaidd (cyfiawnder cymdeithasol, cymunedau cyfartal, yr amgylchedd adeiledig, modelau busnes cynaliadwy) a’r amgylchedd naturiol (cyfranogiad dynol yn y byd naturiol, a’i ymgysylltiad ag ef).

Bydd y rhaglen yn caniatáu i chi ddilyn llwybrau gwahanol gan arbenigo mewn deilliannau ymarferol, megis busnes, gweithredu cymunedol, llesiant a chyfiawnder cymdeithasol, gan bwysleisio theori, ac archwilio eich perthynas â byd natur a’r amgylchedd. Byddwn yn cyfeirio at faterion cysylltiedig megis iechyd a llesiant a bwyd a ffermio.

Gallwch gofrestru’n rhan-amser (tair neu bedair blynedd ar gyfer MA) neu’n llawn amser (dwy flynedd ar gyfer MA), ac astudio ar gyfer Tystysgrif (dau fodiwl), Diploma (pedwar modiwl) neu MA (pedwar modiwl a thraethawd hir).

Gorfodol

Athroniaeth ac Arfer Ymchwil Cymdeithasol

(30 credydau)

Prosiect Traethawd Hir: Cytgord ar waith

(60 credydau)

Cytgord: Theori ac Arfer

(30 credydau)

Dewisol

Her Cynaliadwyedd

(30 credydau)

Cynhyrchu/Atgynhyrchu Anghyfartaledd yn Gymdeithasol

(30 credydau)

Cymunedau Cynaliadwy

(30 credydau)

Daearyddiaeth Sanctaidd

(30 credydau)

Ecoleg ac Ysbrydolrwydd

(30 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Carmarthen Accommodation

Llety Caerfyrddin

Mae amrywiaeth o lety yng Nghaerfyrddin ac rydym yn gwarantu llety ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn 1af, gyda llety ar gael i fyfyrwyr yr 2il a’r 3edd flwyddyn hefyd.  Wedi’ch lleoli ar gampws Caerfyrddin byddwch chi reit ynghanol popeth, gydag opsiynau sy’n addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • Mae gan y rhaglen ei Pholisi Derbyn ei hun sy’n cadw at ofynion Polisi Derbyn y Brifysgol a Pholisi’r Brifysgol ar Gydraddoldeb ac Amrywiaeth. Mae system gynllunio gadarn yn cael ei rhoi ar waith gyda’r Gwasanaethau Cymorth ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd ag anableddau canfyddedig ac anghenion dysgu ychwanegol. 

    Yn draddodiadol mae angen gradd gyntaf 2:1 neu ddosbarth 1af neu’r cymhwyster galwedigaethol cyfatebol a phrofiad perthnasol ar fyfyrwyr er mwyn cael eu derbyn i astudio’r cwrs.  Mae’r Ysgol yn annog myfyrwyr sydd ag amrywiaeth o gymwysterau galwedigaethol a phrofiadau perthnasol i wneud cais; efallai y bydd angen cyflwyniad ysgrifenedig er mwyn dangos eich bod yn gymwys ar gyfer gwaith lefel 7 cyn i chi gael eich derbyn.

    Gofynion Cyffredinol

    • gradd gychwynnol o Brifysgol Cymru;
    • gradd gychwynnol a ddyfarnwyd gan gorff dyfarnu graddau cymeradwy arall;
    • cymhwyster nad yw’n radd y tybir ei fod o safon foddhaol at ddibenion derbyn;
    • gellir derbyn ymgeisydd sydd heb radd hefyd ar yr amod ei fod ef/hi wedi bod mewn swydd gyfrifol, sy’n berthnasol i’r cwrs, am o leiaf dwy flynedd. 

    Caiff pob cais ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun, felly gellir cynnig lleoedd ar sail cymwysterau a meini prawf mynediad ansafonol, gan gynnwys aeddfedrwydd, cymwysterau proffesiynol a phrofiad perthnasol.  Rydym yn argymell bod ymgeiswyr sydd â chymwysterau ansafonol yn cyflwyno curriculum vitae byr gyda’u ffurflen gais.

    • Dim arholiadau
    • Traethodau ysgrifenedig
    • Cyflwyniadau ar-lein 
    • Adroddiadau myfyriol 
    • Cyflwyniadau seminar
    • Adroddiad ar-lein/Blog
    • Prosiect neu draethawd hir 15,000 o eiriau
  • Cyfrifoldeb y myfyrwyr yw talu cost gwerslyfrau hanfodol, a chost cynhyrchu traethodau, aseiniadau a thraethodau hir sy’n ofynnol i gyflawni gofynion academaidd pob rhaglen astudio. Os yw myfyrwyr yn dymuno casglu data fel rhan o’u traethawd hir efallai y bydd angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn casglu data. Bydd costau pellach hefyd ar gyfer y canlynol, na ellir eu prynu gan y Brifysgol:

    • Llyfrau
    • Dillad
    • Gwaith maes
    • Argraffu a chopïo
    • Deunydd ysgrifennu
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Nod y rhaglen hon yw datblygu annibyniaeth ddeallusol ac ymgysylltiad beirniadol myfyrwyr mewn cysylltiad â chytgord a chynaliadwyedd trwy archwilio tystiolaeth ac arfer. Er nad rhaglen alwedigaethol yw hi’n bennaf, mae’n paratoi myfyrwyr i symud i gyfeiriad galwedigaethol. Bydd graddedigion sy’n cwblhau’r radd hon mewn sefyllfa dda i gychwyn gyrfa mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys, er enghraifft:

    • Swyddog Cynllunio
    • Agenda Cydraddoldeb
    • Sefydliadau Gwirfoddol a rhai’r 3ydd Sector
    • Llunwyr Polisi
    • Addysg a Dysgu Gydol Oes
    • Arfer Cynaliadwy
    • Busnesau
    • Cyd-destun amlasiantaethol
    • Gweithio gyda
      • Phlant a phobl ifanc
      • Cymunedau a Grwpiau mewn Perygl o gael eu Hallgáu
    • Cyfiawnder Cymdeithasol
    • Adfywio Cymunedol
    • Eiriolaeth
    • Arfer Entrepreneuraidd

    Gall graddedigion hefyd ddewis mynd ymlaen i gwblhau graddau ymchwil ôl-raddedig e.e. PhD a Doethuriaethau Proffesiynol.
     

Mwy o gyrsiau Athroniaeth, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol

Chwiliwch am gyrsiau