Addysg Gynradd gyda SAC (Llawn amser) (BA Anrh)
Bydd graddedigion y cwrs hwn yn meddu ar yr wybodaeth, sgiliau, gwerthoedd ac anianawd i gyflawni statws athro cymwysedig (SAC) a bod yn athro proffesiynol, yn barod i weithio yng Nghymru a thu hwnt.
* Bydd y radd hon yn cael ei hailddilysu a’i hadolygu yn y flwyddyn academaidd 2023/24 i sicrhau bod cynnwys y cwrs yn parhau’n gyfredol. Pe bai unrhyw newidiadau’n cael eu gwneud i gynnwys y cwrs o ganlyniad i’r adolygiad, bydd pob ymgeisydd yn cael eu hysbysu unwaith y bydd y newidiadau wedi’u cadarnhau.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
- Cymraeg
Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Mae'r rhaglen hon yn amodol ar ailddilysu.
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r cynnwys craidd yn cynnwys:
- Lleoliad amgen – cyfle i brofi addysg yn ei hystyr ehangach;
- Pontio – y broses lle bo gwybodaeth ymarferol a damcaniaethol yn cwrdd, a chaiff y dull trawsnewidiol ei gyflawni;
- Modylau gorfodol – cynnwys sy’n cael ei gyd-adeiladu a’i gyd-ddarparu (pedagogaidd a chysylltiedig â phwnc) y rhaglen a fydd yn sail i astudiaeth israddedig;
- Dewisol – profiad yn yr ysgol ac a gefnogir gan y Brifysgol lle gall myfyrwyr ddewis dilyn trywydd ymholi mwy arbenigol er mwyn dyfnhau eu gwybodaeth o’r cwricwlwm.
- Cynhadledd partneriaeth – y cyfle i rannu arfer gorau mewn digwyddiad cynhadledd er mwyn gallu trawsnewid y bartneriaeth;
- Statws Athro Cymwysedig – llwybr proffesiynol gorfodol sy’n arwain at ddyfarniad statws athro cymwysedig;
- Datblygu Sgiliau’r Gymraeg – llwybr proffesiynol gorfodol i ddatblygu hyder a gallu graddedigion wrth siarad Cymraeg.
Bydd cyfanswm o 24 awr wedi’i leoli mewn ysgol i gael profiad addysgu proffesiynol.
Gorfodol
(20 credydau)
(30 credydau)
(20 credydau)
(30 credydau)
(20 credydau)
Gorfodol
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
Dewisol
Gorfodol
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
Dewisol
Course Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Caerfyrddin
Mae amrywiaeth o lety yng Nghaerfyrddin ac rydym yn gwarantu llety ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn 1af, gyda llety ar gael i fyfyrwyr yr 2il a’r 3edd flwyddyn hefyd. Wedi’ch lleoli ar gampws Caerfyrddin byddwch chi reit ynghanol popeth, gydag opsiynau sy’n addas i bob cyllideb.
Gwybodaeth allweddol
-
Pwyntiau UCAS
Rhaid i ymgeiswyr sicrhau 115 o bwyntiau UCAS.
Cymwysterau TGAU
- Gradd C (gradd 4 yn Lloegr) neu uwch mewn TGAU Saesneg – Iaith neu Cymraeg – Iaith neu safon gyfwerth.
- Gradd C (gradd 4 yn Lloegr) neu uwch mewn TGAU Mathemateg neu TGAU Rhifedd neu safon gyfwerth.
- Gradd C (gradd 4 yn Lloegr) neu uwch mewn TGAU Gwyddoniaeth neu safon gyfwerth.
Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd – CRB
Os cewch eich derbyn ar ein rhaglen, bydd rhaid ichi gael gwiriad clirio uwch DBS (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd - CRB, Swyddfa Cofnodion Troseddol gynt) cyn gynted â phosibl. Mae ffi ynghlwm wrth y gwasanaeth ac fe ddylech sicrhau eich bod yn dewis y gwasanaeth ‘diweddaru’ (update service).
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: dbs@uwtsd.ac.uk
-
Mae cynllun y rhaglen yn darparu’r cyfle i asesiadau gael eu cysylltu’n agos ag arfer ystafell ddosbarth a thynnu ar brofiad a geir o brofiad personol. Mae’r dull hwn yn sefydlu’r cysylltiadau rhwng dysgu deallusol a dysgu trwy brofiadau ymhellach.
Er enghraifft, bydd rhaid i fyfyrwyr gynllunio, cynnal, gwerthuso a rhannu prosiect ymchwil agos i arfer a fydd yn effeithio’n uniongyrchol ar ddysgwyr. Lle bynnag y bo’n bosibl, caiff aseiniadau eu cyflwyno a’u marcio’n electronig i hwyluso adborth amserol ac effeithiol.
Mae elfennau asesu’n cynnwys aseiniadau ysgrifenedig, poster digidol, portffolios, fideo unigol a phrosiect ymchwil.
-
Mae gan ein myfyrwyr fynediad i ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sy’n ddigonol yn y rhan fwyaf o achosion i gwblhau eu rhaglen astudio. Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr yn gorfod talu costau sy’n ychwanegol i ffioedd dysgu’r brifysgol na ellir eu hosgoi. Mae’r rhain fel a ganlyn:
Costau Gorfodol
- Teithio i ysgolion lleoliad a’r Brifysgol
- Teithio oddi ar y safle i ddarpariaeth arbenigol (yn cynnwys ysgolion a darparwyr hyfforddiant eraill)
- Teithio i ysgolion ar gyfer ‘Diwrnodau Pontio’ a mentrau carfan gyfan eraill yn ôl y calendr
- Defnydd o liniadur (mae MS Office yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr).
Achoswyd o Reidrwydd- Prynu adnoddau addysgu
- Teithio i leoliadau ‘dewisol’
-
Teithio i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyfoethogi.
Dewisol
- Teithiau astudio dewisol
- Costau argraffu.
-
Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid i helpu i gefnogi eich astudiaeth. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau.
-
Wrth gwblhau rhaglenni presennol yn llwyddiannus, mae myfyrwyr yn gyflogadwy iawn fel athrawon cymwysedig.
Bydd graddedigion wedi’u paratoi gan set gref o sgiliau meddwl beirniadol, dadansoddol a datrys problemau sy’n adlewyrchu sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn eu hystyried yn ddymunol iawn.
Bydd graddedigion yn gweithio mewn rolau sy’n galw am sgiliau cydymffurfiaeth ddigidol, rhifedd a llythrennedd cadarn ynghyd â sgiliau cydweithio, rheoli amser a gweithio mewn amgylchedd cymhleth. Bydd natur y cynnwys ar draws y rhaglen – o ran darpariaeth ac asesiad – yn darparu graddedigion gyda phrofiad o gyflwyno gwaith trwy amrywiaeth o gyfryngau. Mae’r rhain yn sgiliau trosglwyddadwy iawn a ddefnyddir mewn amrywiaeth o opsiynau cyflogaeth.