Gwaith gyda Phobl Ifanc (Rhan amser) (BA Anrh)
Gan ganolbwyntio ar bobl ifanc, ac o safbwynt y gwyddorau cymdeithasol, mae’r rhaglen BA Gwaith gyda Phobl Ifanc yn bwrw golwg manwl ar ystod eang o heriau cyfredol a chyfoes y mae pobl ifanc yn eu hwynebu.
Yn aml ystyrir bod y newid i fod yn oedolyn yn gymhleth ac yn heriol i lawer o bobl ifanc, a gall rhai o’r heriau sy’n wynebu pobl ifanc gynnwys:
- Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod
- Camddefnyddio Sylweddau
- Llinellau Cyffuriau
- Trawma
- Hawliau Plant
- Iechyd a Llesiant
Mae’r rhaglen radd newydd gyffrous hon yn un o gyfres o raglenni yn y Drindod Dewi Sant sy’n ymwneud â phobl ifanc ac mae’n archwilio’r heriau hyn, gan gydnabod sut mae’r cyfnod hwn o newid ym mywyd person ifanc hefyd yn bennod gyffrous o ddatblygu, ac o gyfleoedd newydd sy’n gallu ehangu eu gorwelion.
Gwneir cysylltiadau rhwng theori, polisi ac arfer mewn modd cymhwysol er mwyn galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, yn ogystal ag archwilio ffyrdd o gefnogi pobl ifanc drwy fodwl lleoliadau yn eu hail flwyddyn.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Rhan amser
- Saesneg
- Cymraeg
- Dwyieithog
Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd y radd BA (Anrh) Gwaith gyda Phobl Ifanc yn galluogi myfyrwyr i weithio gyda phobl ifanc, cymunedau a theuluoedd, ac i ddeall sut i fodloni anghenion pobl ifanc yn y 21ain ganrif. Trwy safbwynt y gwyddorau cymdeithasol, bydd y rhaglen yn archwilio arfer gyda phobl ifanc a’u cymunedau mewn modd cymhwysol, gydag ymrwymiad eglur i gyfiawnder cymdeithasol ac arfer gwrth-ormesol.
Mae’r cwrs yn cyflwyno myfyrwyr i ffyrdd o weithio gyda phobl ifanc ar nifer o broblemau sy’n gyfredol iawn yn y gymdeithas sydd ohoni, megis Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant, Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, Digartrefedd, Camddefnyddio Sylweddau, Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed, Tlodi a Gordewdra ymhlith pobl ifanc, ac mae’n archwilio’r rhain mewn modd cymhwysol, gan dynnu ar ymchwil cyfredol ac arfer gorau er mwyn paratoi graddedigion i fod yn effeithiol ac adfyfyriol iawn yn eu dewis feysydd. Mae’r rhaglen yn cyd-fynd yn gyflawn ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i “ddatblygu a chryfhau darpariaeth benodol wedi’i hanelu at gefnogi a gwella canlyniadau ar gyfer pobl ifanc sy’n fwy agored i niwed neu sydd ar y cyrion” (LlC, 2019, t.13).
Sylwer nad yw’r radd BA Gwaith gyda Phobl Ifanc yn cynnig cymhwyster proffesiynol mewn Gwaith Ieuenctid. Ar ôl cwblhau’r rhaglen BA Gwaith gyda Phobl Ifanc, gall graddedigion gofrestru ar y Diploma Ôl-raddedig Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol (Ardystiad ETS) sy’n cynnig cymhwyster mewn Gwaith Ieuenctid a gydnabyddir gan JNC. Fodd bynnag, os hoffai myfyrwyr astudio gradd Israddedig sy’n cynnig cymhwyster proffesiynol mewn Gwaith Ieuenctid, y cwrs BA Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol (Ardystiad ETS) fydd y dewis iawn i chi.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 Credits)
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Gorfodol
(20 credydau)
(40 Credydau)
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Gorfodol
(20 credydau)
(40 Credydau)
(40 Credydau)
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Course Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Caerfyrddin
Mae amrywiaeth o lety yng Nghaerfyrddin ac rydym yn gwarantu llety ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn 1af, gyda llety ar gael i fyfyrwyr yr 2il a’r 3edd flwyddyn hefyd. Wedi’ch lleoli ar gampws Caerfyrddin byddwch chi reit ynghanol popeth, gydag opsiynau sy’n addas i bob cyllideb.
Gwybodaeth allweddol
-
- Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr ddarparu dogfen datgeliad manylach foddhaol ar gyfer y Gweithlu Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Gofynion mynediad y rhaglen yw rhwng 80 a 96 pwynt a throsodd, fodd bynnag, mae mynediad i’r rhaglen yn amodol ar deilyngdod yr unigolyn.
-
Lluniwyd asesiadau i adlewyrchu gofynion y maes gwaith gyda phobl ifanc, a datblygu sgiliau cyflogadwyedd eang yn y myfyrwyr. Nid oes unrhyw arholiadau.
-
Gorfodol:
Costau DBS.Costau Angenrheidiol:
Costau teithio i ac o leoliadau (un lleoliad yn yr ail flwyddyn).Dewisol:
Bydd myfyrwyr sy’n penderfynu manteisio ar y cyfle i astudio dramor am un semester ar Lefel 5 yn gorfod talu costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â hyn. Gall gweithgarwch preswyl posibl ar Lefel 6 gynnwys costau ychwanegol -
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.
-
Mae cyfle hefyd i fyfyrwyr astudio dramor yn rhan o’u hastudiaethau yn yr ail flwyddyn, yn y Ffindir neu Columbia Brydeinig.
-
Mae ystod o gyfleoedd o ran gyrfa a chyflogadwyedd i raddedigion y radd hon o fewn maes sy’n ehangu’n gyflym. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Cymorth Ieuenctid ym mhrosiectau Awdurdodau Lleol yn ogystal ag o fewn sefydliadau gwirfoddol a sefydliadau elusennol;
- Gwaith gyda sefydliadau sy’n canolbwyntio ar broblemau penodol gan gynnwys camddefnyddio sylweddau, digartrefedd ymhlith pobl ifanc ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr;
- Cyfiawnder Ieuenctid;
- Mentor Cymheiriaid Pobl Ifanc;
- Gweithiwr Cymorth Person Ifanc;
- Eiriolwr dros Bobl Ifanc;
- Ymgysylltu â’r Gymuned;
- Cymorth i Deuluoedd ar gyfer pobl ifanc ag anableddau;
- Gall graddedigion hefyd ymgymryd ag astudiaethau pellach ôl-raddedig, gan gynnwys Diploma Ôl-raddedig/MA Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol (Ardystiad ETS) yn y Drindod Dewi Sant sy’n cynnig cymhwyster proffesiynol mewn Gwaith Ieuenctid, er mwyn galluogi graddedigion i gael eu cyflogi’n Weithwyr Ieuenctid mewn ystod o leoliadau.