Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (Llawn amser) (DipAU)
Mae Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar yn rhaglen Dip AU arloesol, lawn amser, dwy flynedd o hyd i rai sydd â diddordeb mewn darganfod sut mae plant ifanc yn datblygu ac yn dysgu.
Cyflwynir y cwrs mewn amgylchedd cefnogol a diddorol ac mae’n archwilio pob agwedd ar les a datblygiad cyfannol plant. Mae amser wedi’i gynnwys er mwyn i chi allu gwirfoddoli mewn sefydliadau blynyddoedd cynnar, os y dymunwch er mwyn datblygu a chyfoethogi’ch datblygiad proffesiynol a’ch cyflogaeth yn y dyfodol.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
- Cymraeg
- Dwyieithog
Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd myfyrwyr yn archwilio amrywiaeth eang o bynciau’n ymwneud ag addysg a gofal blynyddoedd cynnar, gyda ffocws ar agweddau ar blentyndod megis datblygiad cyfannol, lles, chwarae, llythrennedd, diogelu plant, dysgu yn yr awyr agored a chynhwysiant. Mae cyfleoedd i ddatblygu gwybodaeth am arfer a damcaniaeth addysg a gofal blynyddoedd cynnar, a fydd yn rhoi i fyfyrwyr ddealltwriaeth lawn a chytbwys o’r pwnc. Yn ogystal â chynnwys academaidd, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â gweithgareddau dysgu sy’n archwilio’r agweddau ymarferol ar ddarpariaeth y blynyddoedd cynnar drwy ddysgu ymarferol, gan wneud cysylltiadau rhwng damcaniaeth ac arfer.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Ymwrthodiad
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Caerfyrddin
Mae amrywiaeth o lety yng Nghaerfyrddin ac rydym yn gwarantu llety ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn 1af, gyda llety ar gael i fyfyrwyr yr 2il a’r 3edd flwyddyn hefyd. Wedi’ch lleoli ar gampws Caerfyrddin byddwch chi reit ynghanol popeth, gydag opsiynau sy’n addas i bob cyllideb.
Gwybodaeth allweddol
-
Cynnig nodweddiadol ar gyfer y cwrs hwn yw 88-104 o bwyntiau UCAS.
Bydd rhaid i bob ymgeisydd ddarparu dogfen datgeliad manylach boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Mae’r radd hon yn ddelfrydol i bobl sy’n gadael ysgol sy’n astudio amrywiaeth o gyrsiau gan gynnwys Safon Uwch, BTEC, CACHE a Bagloriaeth Cymru. Gellir cysylltu’r pynciau cwrs hyn i ddatblygiad a gofal plant; fodd bynnag, mae’r radd hefyd yn briodol ar gyfer y rheiny nad oes ganddynt unrhyw gymwysterau gofal plant penodol ac sydd wedi astudio pynciau fel iaith, y celfyddydau, cerddoriaeth, drama, mathemateg, y gwyddorau neu’r dyniaethau.
Mae’r Blynyddoedd Cynnar yn annog a rhoi gwerth ar geisiadau gan fyfyrwyr sy’n dychwelyd i addysg.
Rydym hefyd yn cynnig llwybr dysgu hyblyg (gweler y radd Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar 2 flynedd) a ddyluniwyd er mwyn gallu ei astudio gyda’r nos ac ar benwythnosau, ar gyfer y rheiny sydd eisoes yn meddu ar brofiad helaeth o weithio yn y sector blynyddoedd cynnar.
Yn rhan o’r broses gwneud cais bydd myfyrwyr yn cael cyfle i fynychu diwrnodau ymweld. Mae hyn yn rhoi cyfle i ymgeiswyr ymweld â’r campws, gwrdd â’r darlithwyr a gofyn cwestiynau am y radd a chael taith o gwmpas y safle gydag un o’n myfyrwyr presennol.
Yn ystod diwrnodau ymweld, mae darlithwyr y cwrs bob tro’n ymddiddori mewn profiadau’r ymgeiswyr o wirfoddoli a gweithio gyda phlant, er enghraifft, ar leoliadau ysgol / coleg. Mae’r tîm hefyd yn hoffi clywed am ddiddordebau, hobïau a chyfrifoldebau ymgeiswyr.
-
Mae’r rhaglen yn cael ei hasesu 100% drwy waith cwrs. Nid oes unrhyw arholiadau. Rydym ni wedi gweld bod defnyddio ystod amrywiol o ddulliau asesu’n cynyddu sgiliau cyflogadwyedd. Mae cyflogwyr yn chwilio am raddedigion sy’n gallu datrys problemau ac sydd ag ystod o sgiliau cyflogadwyedd trosglwyddadwy. Mae’r asesu’n rhoi cyfleoedd i ddatblygu sgiliau megis y gallu i weithio mewn tîm, cyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig, ar yr un pryd â defnyddio ystod o ddulliau o rannu gwybodaeth yn cynnwys papurau briffio, posteri academaidd, dadleuon grŵp a thrafodaethau proffesiynol. Hefyd ceir cyfleoedd am brofiadau gwaith ymarferol, gan gefnogi cyflogadwyedd, datblygiad proffesiynol a gyrfaoedd.
Mae astudiaeth ddwyieithog a chyfrwng Cymraeg yn ganolog i’n darpariaeth; gallwch ddewis cofrestru ar y rhaglen cyfrwng Cymraeg neu gyfrwng Saesneg a gallwch gyflwyno’ch aseiniadau yn y naill iaith neu’r llall.
-
Mae’n rhaid i fyfyrwyr wneud cais am, a chael Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Y Drindod Dewi Sant. Mae’r ffi’n cael ei bennu gan y DBS; ar hyn o bryd, y ffi yw tua £44.
Mae’n rhaid i fyfyrwyr gael cyfwerth â 700 awr o brofiad ymarferol mewn lleoedd fel lleoliadau blynyddoedd cynnar. Bydd costau teithio a chostau lluniaeth yn sgil hyn. (Dim ond yn berthnasol i raglenni Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar)
Gall myfyrwyr orfod talu costau ychwanegol oherwydd mae’n rhaid iddynt fynychu rhai darlithoedd modwl gyda dillad addas ar gyfer astudio yn yr awyr agored.
O bryd i’w gilydd, yn amodol ar ymchwil cefndir myfyriwr ar gyfer pynciau aseiniad, efallai y bydd angen iddynt deithio i leoliadau blynyddoedd cynnar.
Mae’r Blynyddoedd Cynnar yn trefnu profiadau astudio gorfodol a gweithgareddau cyfoethogi i fyfyrwyr. Bydd yr Ysgol yn talu am y costau teithio ac astudio a gyfyd yn sgil hyn. Fodd bynnag, ar gyfer rhai ymweliadau, bydd rhaid i fyfyrwyr gyflenwi eu lluniaeth eu hunain.
Yn ogystal â hyn, mae’r Ysgol Blynyddoedd Cynnar yn trefnu cyfleoedd dewisol i fyfyrwyr gael cymwysterau ychwanegol yn ystod rhan olaf eu rhaglen, er enghraifft Iechyd a Diogelwch, Amddiffyn. Bydd y rhain yn gofyn i’r myfyrwyr dalu costau; a chaiff y gost ei phennu gan y darparwr.
Mae’r rhaglen hefyd yn cynnig cyfleoedd dewisol i fyfyrwyr gymryd rhan mewn ymweliadau tu hwnt i’r campws er enghraifft Caerdydd, Llundain, Sweden a Chanada. Rhaid i’r myfyrwyr dalu cost yr ymweliadau dewisol hyn.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae graddedigion yn mynd ymlaen i yrfaoedd mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys:
- Cymorth anghenion dysgu ychwanegol
- Arweinydd ar ôl ysgol
- Gwarchodwr plant
- Rolau elusennau plant (e.e. Barnardo’s)
- Swyddog Cymorth Cymunedol
- Hwylusydd Teuluoedd
- Swyddog Cymorth Teuluoedd
- Swyddog Rhianta
- Cymorth Bugeiliol
- Gweithwyr chwarae
- Arweinwyr Ystafell
- Rheolwr Lleoliad
- Gweithwyr Ieuenctid
Astudiaethau Pellach
Mae rhai o’n hisraddedigion yn mynd ymlaen i astudiaethau pellach eraill. Mae rhai myfyrwyr wedi mynd ymlaen i’n rhaglenni MA ein hunain, gan gynnwys ein MA Llythrennedd Cynnar ac MA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar.
Mae rhaglenni ôl-radd fel y rhain yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr uwchsgilio, a dyfnhau eu dealltwriaeth o blant ifanc a’u teuluoedd. Mae’r cyfryw astudiaethau wedi galluogi i fyfyrwyr ôl-raddedig symud ymlaen yn eu maes gwaith presennol ac i eraill symud ymlaen i yrfaoedd newydd.
Llwybr i mewn i addysgu
Yn fyfyriwr Blynyddoedd Cynnar YDDS, byddwn yn sicrhau y cewch gyfweliad ar gyfer y rhaglen TAR Cynradd, ar yr amod y byddwch yn bodloni’r gofynion cymwysterau mynediad. Wrth wneud cais ar gyfer y rhaglen TAR Cynradd fe fyddwn, ar y cyd ag Addysg Gychwynnol Athrawon, yn eich cefnogi drwy proses gwneud cais a chyfweld ffug.
Astudiaethau ôl-radd a llwybrau amgen
Bydd graddedigion hefyd yn gallu mynd ymlaen i nifer o gyrsiau ôl-radd yn eu maes penodol; mae dosbarth gradd da mewn Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar yn bodloni’r gofynion mynediad ar gyfer llawer o lwybrau ôl-radd.
Isod, ceir ychydig esiamplau o lwybrau y mae graddedigion blaenorol wedi’u cymryd.
- Teulu a Chymunedau
- Nyrsio
- Therapi Chwarae
- Polisi a Llywodraeth
- Ymchwil
- Gwaith Cymdeithasol
- Therapi Lleferydd ac Iaith