Willl yn PCYDDS
Enw: Wiliam Martin
Cwrs: BA (Anrh) Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth
Astudiaethau Blaenorol: Dylunio cynnyrch 3D
Tref eich cartref: Porthcawl
Profiad Will ar BA (Anrh) Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth
Beth yw eich hoff beth am gampws Abertawe?
Y Stiwdio Dylunio Modurol. Yn bersonol, rydw i wrth fy modd yn gallu cael fy ngweithle fy hun, a chael rhywle y gallaf weithio ar fy mhrosiectau mewn lleoliad mwy proffesiynol gyda chyd-fyfyrwyr. Mae hefyd yn rhoi digon o gyfle i gwrdd â grwpiau blwyddyn eraill a chael adborth gan diwtoriaid y tu allan i amser darlithoedd.
Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Wrth fynd i’m diwrnod agored cyntaf yn PCYDDS, cefais fy syfrdanu gan y cyfleusterau a pha mor angerddol a phroffesiynol oedd tiwtoriaid fy nghwrs, ac ar ôl gweld/clywed am waith myfyrwyr blaenorol a straeon llwyddiant, roedd dewis PCYDDS yn hawdd.
Beth ydych chi’n mwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?
Y tu allan i’m hastudiaethau, gyda’r ffrindiau a gyfarfûm ar fy nghwrs, rydym yn aml yn mynd ar wibdeithiau lleol i wahanol draethau, neu i fyn di gerdded o amgylch Bannau Brycheiniog, sy’n lleol iawn i’n campws.
Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?
Ar ôl i mi raddio, byddwn wrth fy modd yn mynd i mewn i’r diwydiant. Trwy brosiect byw ychwanegol gyda’r cwrs, fe wnes i ddarganfod fy mod yn mwynhau dylunio cychod hwylio yn ogystal â dylunio modurol neu CAD, ac yn y dyfodol byddwn wrth fy modd yn gwneud rhywbeth tebyg.
Beth yw eich hoff beth am y cwrs?
Y tiwtoriaid a’r cyfleoedd. O’i gymharu â phrifysgolion eraill, rwy’n hoffi sut mae gan y cwrs ddosbarthiadau llai, sy’n rhoi llawer mwy o gyfleoedd i chi siarad â’r darlithwyr, Sergio a Vibhor, ac yn cynnig arddull addysgu llawer mwy personol. Rwyf hefyd wrth fy modd â sut mae llawer o gyfleoedd trwy’r cwrs, trwy brosiectau ychwanegol neu fyw gyda chwmnïau i wella a dangos eich hun.
A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?
Byddwn yn argymell PCYDDS yn fawr, rwy’n credu bod y cyfleusterau yma yn eithriadol ac yn cynnig nid yn unig cyfleusterau anhygoel ar gyfer y cwrs, ond llawer o fannau i astudio neu ymlacio gyda ffrindiau. Mae’r tiwtoriaid yma hefyd yn angerddol a phroffesiynol iawn ac rwy’n credu bod y dosbarthiadau llai yn fonws ychwanegol. Rwy’n credu hefyd bod yna lawer o gyfleoedd i gael eich gweld yn y diwydiant neu i wella eich gwaith yn gyffredinol.