Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Iechyd A Gofal Cymdeithasol - Cadwa Le Ar Ddiwrnod Agored
Mae ein rhaglenni Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau a fydd yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i chi i gael effaith gadarnhaol fel gweithiwr proffesiynol yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, p’un a oes gennych ddiddordeb mewn dod yn weithiwr iechyd proffesiynol neu’n ymchwilydd yn y maes.
Byddwch yn graddio nid yn unig gyda chymhwyster, ond hefyd gyda’r hyder i gamu i fyd gwaith, wrth i ni eich herio’n academaidd i ddatblygu i fod y gweithiwr iechyd proffesiynol gorau posibl.
Pam astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn PCYDDS?
Clearing
Dewch i ymweld â ni mewn Diwrnod Agored neu Noson Agored
Darganfyddwch fwy am eich cwrs, cwrdd â myfyrwyr presennol, y tîm addysgu, ac archwilio ein campws a’n cyfleusterau proffesiynol.
Spotlights
Cyfleusterau
Ystafelloedd dosbarth modern yw mannau cysegredig y rhaglenni hyn, sydd â thechnoleg glyweledol ac sydd wedi’u dylunio i hyrwyddo dysgu gweithredol, gyda digonedd o le ar gyfer cydweithio mewn grwpiau ac addysgu’n rhyngweithiol.
Mae mynediad i lyfrgelloedd ar bob campws yn creu canolfannau ymchwil a dysgu. Gyda mynediad i gasgliadau helaeth o lyfrau, cyfnodolion a chronfeydd data i’ch cefnogi yn eich gweithgareddau academaidd. Mae ein llyfrgelloedd, sy’n cynnwys ardaloedd eistedd cyfforddus, yn fannau delfrydol ar gyfer astudio a chydweithio.
Beth sy’n gwneud PCYDDS yn unigryw?
Dechreuwch eich antur gyda gradd israddedig yn PCYDDS. Cewch eich trochi mewn pwnc sy’n eich ysbrydoli – gan archwilio gwahanol lwybrau gyrfaol ac opsiynau ar gyfer eich dyfodol ar hyd y daith. Beth bynnag fo’ch uchelgeisiau, gwnawn ni eich helpu i fwrw ati’n syth, gyda’ch goliau mewn golwg yn gadarn.
Ein Staff
Ein Staff
Archwiliwch ein proffiliau staff i ddysgu am arbenigedd, cyflawniadau, a theithiau proffesiynol yr academyddion sy’n llunio ac addysgu ein cyrsiau. Mae’r straeon hyn yn amlygu’r angerdd a’r ymroddiad sy’n helpu i gyfoethogi profiadau ein myfyrwyr ac yn gyrru arloesi yn eu meysydd.