Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Israddedig  -  Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (BA)

Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (BA)

Ymgeisio Nawr

Mae’n bosibl astudio'r cwrs hwn ar gampws SA1 Abertawe neu ar ein campws yng Nghaerfyrddin, yn ddibynnol ar ba leoliad sy’n well gan y myfyriwr.

Mae Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar yn rhaglen radd arloesol, lawn amser dros dair blynedd i’r rheini sydd â diddordeb mewn darganfod sut mae plant ifanc yn datblygu ac yn dysgu.   Cyflwynir y cwrs mewn amgylchedd cefnogol a deniadol ac mae'n archwilio pob agwedd ar les a datblygiad cyfannol plant. Mae amser wedi’i gynnwys i’ch galluogi i wirfoddoli mewn sefydliadau blynyddoedd cynnar, os dymunwch hynny, er mwyn datblygu a chyfoethogi’ch datblygiad proffesiynol a chyflogaeth yn y dyfodol.   

Os oes gennych gymhwyster blynyddoedd cynnar eisoes ac yn dymuno ychwanegu at eich cymhwyster i radd BA (Anrh) lawn, mae mynediad uniongyrchol yn bosibl gyda’r radd hon a gellir trafod hyn gyda’r Tiwtor Derbyn.

Social Care Wales Logo

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (BA)
Cod UCAS: M5Y2
Ymgeisio drwy UCAS

Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (Dip HE)
Cod UCAS: M5Y5
Ymgeisio drwy UCAS

Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (Cert HE)
Cod UCAS: M5Y6
Ymgeisio drwy UCAS


Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cadw Lle ar Ddiwrnod Blasu Gofyn Am Fwy o Wybodaeth Blog Myfyrwyr
E-bost Cyswllt: g.tinney@uwtd.ac.uk
Enw'r cyswllt:: Dr Glenda Tinney


£9,000
£13,500

Pam dewis y cwrs

  1. Rydym yn canolbwyntio ar eich datblygiad fel gweithwyr proffesiynol y blynyddoedd cynnar a byddwn yn eich paratoi am yrfa foddhaol a chyffrous ar draws ystod o ddisgyblaethau'n cynnwys addysgu a gwaith cymdeithasol.
  2. Mae astudio dwyieithog a chyfrwng Cymraeg yn ganolog i’n darpariaeth.
  3. Dosbarthiadau o faint bach, aseiniadau arloesol sy’n cyfoethogi sgiliau cyflogaeth a dim arholiadau.
  4. Dysgu ymarferol yn cysylltu damcaniaeth gydag ymarfer.
  5. Profiadau myfyrwyr- ehangu gorwelion drwy ymweliadau, siaradwyr gwadd, a chyfleoedd hyfforddi ychwanegol. Rydym yn cynnig ystod o gymwysterau ychwanegol i gyfoethogi'ch sgiliau a’ch gwybodaeth gan gynnwys wythnos cyflogadwyedd arbennig.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd myfyrwyr yn archwilio amrywiaeth eang o bynciau'n ymwneud ag addysg a gofal blynyddoedd cynnar, gyda ffocws ar agweddau ar blentyndod megis datblygiad cyfannol, lles, chwarae, llythrennedd, diogelu plant, dysgu yn yr awyr agored a chynhwysiant.  Mae cyfleoedd i ddatblygu gwybodaeth am arfer a damcaniaeth addysg a gofal blynyddoedd cynnar, a fydd yn rhoi i fyfyrwyr ddealltwriaeth lawn a chytbwys o’r pwnc.   Yn ogystal â chynnwys academaidd, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â gweithgareddau dysgu sy’n archwilio'r agweddau ymarferol ar ddarpariaeth y blynyddoedd cynnar drwy ddysgu ymarferol, gan wneud cysylltiadau rhwng damcaniaeth ac arfer.   

Bydd y dysgu’n digwydd drwy drafodaethau grŵp, gweithdai, ymweliadau astudio yn ogystal â darlithoedd er mwyn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o ystod o bynciau perthnasol.  Hefyd mae ymweliadau preswyl dewisol ag ardaloedd eraill o’r DU a thramor.

Pynciau Modylau

Addysgir y rhaglen drwy ddull addysgu bloc arloesol, sy’n caniatáu i fyfyrwyr ganolbwyntio’n fanwl ar un pwnc ar y tro.

Rydym wedi gweld bod y dull hwn yn llwyddiannus wrth gefnogi myfyrwyr i ennill gwell dealltwriaeth o gynnwys y pwnc. Mae myfyrwyr yn astudio chwe phwnc ar bob lefel o’r rhaglen, pob un yn seiliedig ar wybodaeth a dealltwriaeth hanfodol o agweddau penodol ar addysg a gofal blynyddoedd cynnar.

Mae myfyrwyr yn astudio amrywiaeth eang o bynciau yn ymwneud ag addysg a gofal blynyddoedd cynnar, gyda ffocws ar agweddau ar blentyndod megis datblygiad cyfannol, llesiant, chwarae, llythrennedd, diogelu, dysgu yn yr awyr agored a chynhwysiant. Mae arweinyddiaeth hefyd yn ffocws allweddol, gan ddatblygu sgiliau arwain y blynyddoedd cynnar.

Lefel 4 (Tyst AU, Dip AU a BA)

  • Chwarae plant: Damcaniaeth ac Arfer (20 credyd; gorfodol)
  • Datblygiad Dynol (20 credyd; gorfodol)
  • Dysgu yn yr Oes Ddigidol (20 credyd; gorfodol; modiwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
  • Amlieithrwydd, Aml-feddwl (20 credyd; gorfodol)
  • Y 1,000 Diwrnod Cyntaf (20 credyd; gorfodol)
  • Yr Ymarferydd Proffesiynol (20 credyd; gorfodol).

Lefel 5 (Dip AU a BA)

  • Ennyn Parch a Rhyfeddod – Mathemateg, Gwyddoniaeth a’r Awyr Agored (20 credyd; gorfodol)
  • Iaith a Llythrennedd yn yr Oes Ddigidol (20 credyd; gorfodol)
  • Arweinyddiaeth a Gwaith Tîm yn y Blynyddoedd Cynnar (20 credyd; gorfodol)
  • Ymchwil ar gyfer Dysgu (20 credyd; gorfodol)
  • Diogelu: Arfer, Deddfwriaeth a’r Tîm Aml-ddisgyblaeth (20 credyd; gorfodol)
  • Llesiant, Gofal a Byw yn Iach (20 credyd; gorfodol).

Lefel 6 (BA)

  • Arweinyddiaeth Gatalytig – Hawliau, Gwydnwch a Newid Cymdeithasol (20 credyd; gorfodol)
  • Cwricwla’r Blynyddoedd Cynnar (20 credyd; gorfodol)
  • Arweinyddiaeth Gynhwysol Gweithio gyda’n gilydd i Gefnogi Teuluoedd (20 credyd; gorfodol)
  • Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar gyfer Systemau Ansawdd (20 credyd; gorfodol)
  • Adennill Paradwys? Cynaliadwyedd yn y Blynyddoedd Cynnar (20 credyd; gorfodol)
  • Cynorthwyo Plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (20 credyd; gorfodol).
Asesiad

Mae’r rhaglen yn cael ei hasesu 100% drwy waith cwrs. Nid oes unrhyw arholiadau.   Rydym ni wedi gweld bod defnyddio ystod amrywiol o ddulliau asesu’n cynyddu sgiliau cyflogadwyedd.  Mae cyflogwyr yn chwilio am raddedigion sy’n gallu datrys problemau ac sydd ag ystod o sgiliau cyflogadwyedd trosglwyddadwy.  Mae’r asesu’n rhoi cyfleoedd i ddatblygu sgiliau megis y gallu i weithio mewn tîm, cyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig, ar yr un pryd â defnyddio ystod o ddulliau o rannu gwybodaeth yn cynnwys papurau briffio, posteri academaidd, dadleuon grŵp a thrafodaethau proffesiynol.   Hefyd ceir cyfleoedd am brofiadau gwaith ymarferol, gan gefnogi cyflogadwyedd, datblygiad proffesiynol a gyrfaoedd.

Mae astudiaeth ddwyieithog a chyfrwng Cymraeg yn ganolog i’n darpariaeth; gallwch ddewis cofrestru ar y rhaglen cyfrwng Cymraeg neu gyfrwng Saesneg a gallwch gyflwyno’ch aseiniadau yn y naill iaith neu’r llall.

Dolenni Perthnasol

Gwybodaeth allweddol

Meini Prawf Mynediad

Cynnig nodweddiadol ar gyfer y cwrs hwn yw 88-104 o bwyntiau UCAS.

Bydd rhaid i bob ymgeisydd ddarparu dogfen datgeliad manylach boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Mae’r radd hon yn ddelfrydol i bobl sy'n gadael ysgol sy'n astudio amrywiaeth o gyrsiau gan gynnwys Safon Uwch, BTEC, CACHE a Bagloriaeth Cymru. Gellir cysylltu’r pynciau cwrs hyn i ddatblygiad a gofal plant; fodd bynnag, mae’r radd hefyd yn briodol ar gyfer y rheiny nad oes ganddynt unrhyw gymwysterau gofal plant penodol ac sydd wedi astudio pynciau fel iaith, y celfyddydau, cerddoriaeth, drama, mathemateg, y gwyddorau neu’r dyniaethau.

Mae'r Blynyddoedd Cynnar yn annog a rhoi gwerth ar geisiadau gan fyfyrwyr sy’n dychwelyd i addysg.

Rydym hefyd yn cynnig llwybr dysgu hyblyg (gweler y radd Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar 2 flynedd) a ddyluniwyd er mwyn gallu ei astudio gyda’r nos ac ar benwythnosau, ar gyfer y rheiny sydd eisoes yn meddu ar brofiad helaeth o weithio yn y sector blynyddoedd cynnar.

Yn rhan o’r broses gwneud cais bydd myfyrwyr yn cael cyfle i fynychu diwrnodau ymweld. Mae hyn yn rhoi cyfle i ymgeiswyr ymweld â’r campws, gwrdd â’r darlithwyr a gofyn cwestiynau am y radd a chael taith o gwmpas y safle gydag un o’n myfyrwyr presennol.

Yn ystod diwrnodau ymweld, mae darlithwyr y cwrs bob tro’n ymddiddori mewn profiadau’r ymgeiswyr o wirfoddoli a gweithio gyda phlant, er enghraifft, ar leoliadau ysgol / coleg. Mae’r tîm hefyd yn hoffi clywed am ddiddordebau, hobïau a chyfrifoldebau ymgeiswyr.

Cyfleoedd Gyrfa

Gyrfaoedd Blynyddoedd Cynnar

Mae graddedigion yn mynd ymlaen i yrfaoedd mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys:

  • Cymorth anghenion dysgu ychwanegol
  • Arweinydd ar ôl ysgol
  • Gwarchodwr plant
  • Rolau elusennau plant (e.e. Barnardo’s)
  • Swyddog Cymorth Cymunedol
  • Hwylusydd Teuluoedd
  • Swyddog Cymorth Teuluoedd
  • Swyddog Rhianta
  • Cymorth Bugeiliol
  • Gweithwyr chwarae
  • Arweinwyr Ystafell
  • Rheolwr Lleoliad
  • Gweithwyr Ieuenctid

Astudiaethau Pellach

Mae rhai o’n hisraddedigion yn mynd ymlaen i astudiaethau pellach eraill. Mae rhai myfyrwyr wedi mynd ymlaen i’n rhaglenni MA ein hunain, gan gynnwys ein MA Llythrennedd Cynnar ac MA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar.

Mae rhaglenni ôl-radd fel y rhain yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr uwchsgilio, a dyfnhau eu dealltwriaeth o blant ifanc a’u teuluoedd. Mae’r cyfryw astudiaethau wedi galluogi i fyfyrwyr ôl-raddedig symud ymlaen yn eu maes gwaith presennol ac i eraill symud ymlaen i yrfaoedd newydd.

Llwybr i mewn i addysgu

Yn fyfyriwr Blynyddoedd Cynnar YDDS, byddwn yn sicrhau y cewch gyfweliad ar gyfer y rhaglen TAR Cynradd, ar yr amod y byddwch yn bodloni’r gofynion cymwysterau mynediad. Wrth wneud cais ar gyfer y rhaglen TAR Cynradd fe fyddwn, ar y cyd ag Addysg Gychwynnol Athrawon, yn eich cefnogi drwy proses gwneud cais a chyfweld ffug.

Astudiaethau ôl-radd a llwybrau amgen

Bydd graddedigion hefyd yn gallu mynd ymlaen i nifer o gyrsiau ôl-radd yn eu maes penodol; mae dosbarth gradd da mewn Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar yn bodloni’r gofynion mynediad ar gyfer llawer o lwybrau ôl-radd.

Isod, ceir ychydig esiamplau o lwybrau y mae graddedigion blaenorol wedi’u cymryd.

  • Teulu a Chymunedau
  • Nyrsio
  • Therapi Chwarae
  • Polisi a Llywodraeth
  • Ymchwil
  • Gwaith Cymdeithasol
  • Therapi Lleferydd ac Iaith
Costau Ychwanegol
  • Mae’n rhaid i fyfyrwyr wneud cais am, a chael Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Y Drindod Dewi Sant. Mae'r ffi'n cael ei bennu gan y DBS; ar hyn o bryd, y ffi yw tua £44.
  • Mae’n rhaid i fyfyrwyr gael cyfwerth â 700 awr o brofiad ymarferol mewn lleoedd fel lleoliadau blynyddoedd cynnar. Bydd costau teithio a chostau lluniaeth yn sgil hyn. (Dim ond yn berthnasol i raglenni Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar)
  • Gall myfyrwyr orfod talu costau ychwanegol oherwydd mae’n rhaid iddynt fynychu rhai darlithoedd modwl gyda dillad addas ar gyfer astudio yn yr awyr agored. 
  • O bryd i’w gilydd, yn amodol ar ymchwil cefndir myfyriwr ar gyfer pynciau aseiniad, efallai y bydd angen iddynt deithio i leoliadau blynyddoedd cynnar. 
  • Mae’r  Blynyddoedd Cynnar yn trefnu profiadau astudio gorfodol a gweithgareddau cyfoethogi i fyfyrwyr. Bydd yr Ysgol yn talu am y costau teithio ac astudio a gyfyd yn sgil hyn. Fodd bynnag, ar gyfer rhai ymweliadau, bydd rhaid i fyfyrwyr gyflenwi eu lluniaeth eu hunain.
  • Yn ogystal â hyn, mae’r Ysgol Blynyddoedd Cynnar yn trefnu cyfleoedd dewisol i fyfyrwyr gael cymwysterau ychwanegol yn ystod rhan olaf eu rhaglen, er enghraifft Iechyd a Diogelwch, Amddiffyn. Bydd y rhain yn gofyn i’r myfyrwyr dalu costau; a chaiff y gost ei phennu gan y darparwr. 
  • Mae’r rhaglen hefyd yn cynnig cyfleoedd dewisol i fyfyrwyr gymryd rhan mewn ymweliadau tu hwnt i'r campws er enghraifft Caerdydd, Llundain, Sweden a Chanada. Rhaid i’r myfyrwyr dalu cost yr ymweliadau dewisol hyn.
Dyfyniadau Myfyrwyr

Kirsty Goff, lefel 6, a raddiodd yn 2018

“Rydw i mor falch fy mod wedi dod fan hyn, ni fuaswn i eisiau bod yn unman arall yn gwneud unrhyw gwrs arall.”

Emma Blofield, a raddiodd yn 2017

 “Mae astudio’r radd wedi bod yn help enfawr i mi, nid yn unig wrth adeiladu ar fy ngwybodaeth a’m sgiliau ond hefyd drwy fy ngalluogi i gredu ynof fi fu hun. Gyda chymorth y Brifysgol, ffrindiau hen a newydd, fy nheulu cefnogol a’m hawydd personol i lwyddo, cwblheais y radd yn llwyddiannus gan raddio gyda gradd dosbarth cyntaf!”

Anna Latham, myfyrwraig Lefel 6, a raddiodd yn 2018

“Bu’n wythnos wych o gyfleoedd a dysgu, diolch! Rwy’n teimlo ei fod yn fraint ac anrhydedd enfawr i astudio yn YDDS, ac rwy’n credu bod y rhaglen Blynyddoedd Cynnar heb ei hail! Diolch yn fawr iawn am eich hymrwymiad anhygoel a’ch gwaith caled wrth ddarparu cwrs mor wych, gan gynnwys y gweithgareddau allgyrsiol, ac am gynnig cymaint o gefnogaeth ac anogaeth i ni fyfyrwyr”

Aimee Cousins

 “Mae’r darlithwyr eu hunain yn astudio a chanddynt gariad amlwg at y pwnc. Maent yn rhoi hyder i chi! Rwyf nawr yn deall pam ein bod yn gwneud yr hyn rydym yn ei wneud – o ran theori. Er enghraifft, rydym yn gwybod y theori fathemategol a gwyddonol, tu ôl i flociau pren (Frobebel).”

Beth nesaf: Rwyf nawr yn gweithio i ‘Action for Children’. Mae’r cwrs wedi fy helpu i wneud gwahaniaeth i blant ifanc drwy ddefnyddio mentrau Dechrau’n Deg.

Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau

Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau. Mae myfyrwyr sy'n dewis astudio'r cwrs hwn drwy gyfrwng y Gymraeg yn gallu ymgeisio am ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Llety

Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth

Gwybodaeth Pellach

Os hoffech ddysgu rhagor am astudio yng Nghaerfyrddin neu Abertawe, gallwch ymweld â ni ar ddiwrnod agored.