Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Israddedig  -  Addysg Gynradd gyda SAC (BA)

Addysg Gynradd gyda SAC (BA)

Ymgeisio Drwy UCAS - Llawn Amser

Bydd graddedigion y cwrs hwn yn meddu ar yr wybodaeth, sgiliau, gwerthoedd ac anianawd i gyflawni statws athro cymwysedig (SAC) a bod yn athro proffesiynol, yn barod i weithio yng Nghymru a thu hwnt.

* Bydd y radd hon yn cael ei hailddilysu a’i hadolygu yn y flwyddyn academaidd 2023/24 i sicrhau bod cynnwys y cwrs yn parhau’n gyfredol. Pe bai unrhyw newidiadau’n cael eu gwneud i gynnwys y cwrs o ganlyniad i’r adolygiad, bydd pob ymgeisydd yn cael eu hysbysu unwaith y bydd y newidiadau wedi’u cadarnhau.

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

Addysg Gynradd gyda SAC (BA)
Cod UCAS: X123
Ymgeisio drwy UCAS

Primary Education QTS (BA) (cwrs cyfrwng Saesneg)
Cod UCAS: X120
Ymgeisio drwy UCAS


Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cadw Lle ar Ddiwrnod Blasu Cais am Wybodaeth
E-bost Cyswllt: TeacherEd@uwtsd.ac.uk

Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs yma?

  • Daeth Y Drindod Dewi Sant yn 1af yng Nghymru am Addysg (Guardian League Table 2022).

  • Mae graddedigion yn gyflogadwy iawn fel athrawon cymwysedig.

  • Llwybrau Cymraeg a Saesneg ar gael.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Mae’r cynnwys craidd yn cynnwys:

  • Lleoliad amgen – cyfle i brofi addysg yn ei hystyr ehangach;
  • Pontio – y broses lle bo gwybodaeth ymarferol a damcaniaethol yn cwrdd, a chaiff y dull trawsnewidiol ei gyflawni;
  • Modylau gorfodol – cynnwys sy’n cael ei gyd-adeiladu a’i gyd-ddarparu (pedagogaidd a chysylltiedig â phwnc) y rhaglen a fydd yn sail i astudiaeth israddedig;
  • Dewisol – profiad yn yr ysgol ac a gefnogir gan y Brifysgol lle gall myfyrwyr ddewis dilyn trywydd ymholi mwy arbenigol er mwyn dyfnhau eu gwybodaeth o’r cwricwlwm.
  • Cynhadledd partneriaeth – y cyfle i rannu arfer gorau mewn digwyddiad cynhadledd er mwyn gallu trawsnewid y bartneriaeth;
  • Statws Athro Cymwysedig – llwybr proffesiynol gorfodol sy’n arwain at ddyfarniad statws athro cymwysedig;
  • Datblygu Sgiliau’r Gymraeg – llwybr proffesiynol gorfodol i ddatblygu hyder a gallu graddedigion wrth siarad Cymraeg.

Bydd cyfanswm o 24 awr wedi’i leoli mewn ysgol i gael profiad addysgu proffesiynol.

Pynciau Modylau

Blwyddyn Un – Lefel 4 

  • Cylch 1 Astudiaethau Craidd: Y Dysgwr: pwy ydw i’n ei addysgu? (20 Credyd)
  • Cylch 1 Astudiaethau Proffesiynol ac Addysgegol: Arwain y Dysgu: beth, sut a pham ydw i’n addysgu? (30 Credyd)
  • Cylch 1 Astudiaethau Craidd: Dysgwyr, Ysgolion a Chymunedau: ble’r ydw i’n addysgu? (30 Credyd)
  • Cylch 1 Astudiaethau Proffesiynol ac Addysgegol: Ymchwilio i’r Dysgu: beth, sut a pham ydw i’n addysgu? (20 Credyd)
  • Dysgu yn yr Oes Ddigidol (20 credyd; modwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion).

Blwyddyn Dau – Lefel 5 

  • Cylch 2 Astudiaethau Craidd: Y Dysgwr: pwy ydw i’n ei addysgu? (30 Credyd)
  • Cylch 2 Astudiaethau Proffesiynol ac Addysgegol: Arwain y Dysgu: beth, sut a pham ydw i’n addysgu? (30 Credyd)
  • Cylch 2 Astudiaethau Craidd: Dysgwyr, Ysgolion a Chymunedau: ble’r ydw i’n addysgu? (30 Credyd)
  • Cylch 2 Astudiaethau Proffesiynol ac Addysgegol: Ymchwilio i’r Dysgu: beth, sut a pham ydw i’n addysgu? (30 Credyd).

Blwyddyn Tri – Lefel 6  

  • Cylch 3 Astudiaethau Craidd: Y Dysgwr: pwy ydw i’n ei addysgu? (30 Credyd)
  • Cylch 3 Astudiaethau Proffesiynol ac Addysgegol: Arwain y Dysgu: beth, sut a pham ydw i’n addysgu? (30 Credyd)
  • Cylch 3 Astudiaethau Craidd: Dysgwyr, Ysgolion a Chymunedau: ble’r ydw i’n addysgu?
  • Cylch 3 Astudiaethau Proffesiynol ac Addysgegol: Ymchwilio i’r Dysgu: beth, sut a pham ydw i’n addysgu? (30 Credyd).

Mae pob modwl yn orfodol.

Asesiad

Mae cynllun y rhaglen yn darparu’r cyfle i asesiadau gael eu cysylltu’n agos ag arfer ystafell ddosbarth a thynnu ar brofiad a geir o brofiad personol. Mae’r dull hwn yn sefydlu’r cysylltiadau rhwng dysgu deallusol a dysgu trwy brofiadau ymhellach.

Er enghraifft, bydd rhaid i fyfyrwyr gynllunio, cynnal, gwerthuso a rhannu prosiect ymchwil agos i arfer a fydd yn effeithio’n uniongyrchol ar ddysgwyr. Lle bynnag y bo’n bosibl, caiff aseiniadau eu cyflwyno a’u marcio’n electronig i hwyluso adborth amserol ac effeithiol.

Mae elfennau asesu’n cynnwys aseiniadau ysgrifenedig, poster digidol, portffolios, fideo unigol a phrosiect ymchwil.

Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Mae’r modwl ‘Dysgu yn yr Oes Ddigidol’ (20 credyd) ar lefel 4 yn un o’r modylau Priodoleddau Graddedigion.

Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau. 

Yr Athrofa

Dathlwch eich Llwyddiant

Gwybodaeth allweddol

Meini Prawf Mynediad

Pwyntiau UCAS

Rhaid i ymgeiswyr sicrhau 115 o bwyntiau UCAS.

Cymwysterau TGAU

  • Gradd C (gradd 4 yn Lloegr) neu uwch mewn TGAU Saesneg – Iaith neu Cymraeg – Iaith neu safon gyfwerth.
  • Gradd C (gradd 4 yn Lloegr) neu uwch mewn TGAU Mathemateg neu TGAU Rhifedd neu safon gyfwerth.
  • Gradd C (gradd 4 yn Lloegr) neu uwch mewn TGAU Gwyddoniaeth neu safon gyfwerth.

I gael gwybodaeth bellach am safonau cyfwerth â gradd C, darllenwch y Canllawiau am Gyfwerthedd TGAU.

Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd – CRB

Os cewch eich derbyn ar ein rhaglen, bydd rhaid ichi gael gwiriad clirio uwch DBS (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd - CRB, Swyddfa Cofnodion Troseddol gynt) cyn gynted â phosibl. Mae ffi ynghlwm wrth y gwasanaeth ac fe ddylech sicrhau eich bod yn dewis y gwasanaeth ‘diweddaru’ (update service).

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: dbs@uwtsd.ac.uk

Cyfleoedd Gyrfa

Wrth gwblhau rhaglenni presennol yn llwyddiannus, mae myfyrwyr yn gyflogadwy iawn fel athrawon cymwysedig.

Bydd graddedigion wedi’u paratoi gan set gref o sgiliau meddwl beirniadol, dadansoddol a datrys problemau sy’n adlewyrchu sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn eu hystyried yn ddymunol iawn.

Bydd graddedigion yn gweithio mewn rolau sy’n galw am sgiliau cydymffurfiaeth ddigidol, rhifedd a llythrennedd cadarn ynghyd â sgiliau cydweithio, rheoli amser a gweithio mewn amgylchedd cymhleth. Bydd natur y cynnwys ar draws y rhaglen – o ran darpariaeth ac asesiad – yn darparu graddedigion gyda phrofiad o gyflwyno gwaith trwy amrywiaeth o gyfryngau. Mae’r rhain yn sgiliau trosglwyddadwy iawn a ddefnyddir mewn amrywiaeth o opsiynau cyflogaeth.

Costau Ychwanegol

Costau Ychwanegol

Mae gan ein myfyrwyr fynediad i ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sy’n ddigonol yn y rhan fwyaf o achosion i gwblhau eu rhaglen astudio. Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr yn gorfod talu costau sy’n ychwanegol i ffioedd dysgu’r brifysgol na ellir eu hosgoi. Mae’r rhain fel a ganlyn:

Costau Gorfodol

  • Teithio i ysgolion lleoliad a’r Brifysgol
  • Teithio oddi ar y safle i ddarpariaeth arbenigol (yn cynnwys ysgolion a darparwyr hyfforddiant eraill)
  • Teithio i ysgolion ar gyfer ‘Diwrnodau Pontio’ a mentrau carfan gyfan eraill yn ôl y calendr
  • Defnydd o liniadur (mae MS Office yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr).


Achoswyd o Reidrwydd

  • Prynu adnoddau addysgu
  • Teithio i leoliadau ‘dewisol’
  • Teithio i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyfoethogi.

    Dewisol

  • Teithiau astudio dewisol
  • Costau argraffu.
Cyrsiau Cysylltiedig
Dyfyniadau Myfyrwyr

Steffan Rhys Thomas
Penderfynais astudio’r cwrs ar ôl ymchwilio iddo, a darganfod y profiadau eang a chyfoethog cynigir y radd, gan gofio mai ymgeisio am swydd athro cynradd yn y sector Cymraeg oedd fy uchelgais yn y pen draw. Golyga’r profiadau a chynnwys y cwrs mi fyddaf â sylfaeni cadarn wrth ddechrau gweithio fel athro newydd gymhwyso yn y dyfodol agos, o ganlyniad i elfennau megis cyfnodau o brofiadau addysgu proffesiynol mewn ystod eang o ysgolion, le geir cyfleoedd i addysgu plant am gyfnod sylweddol o amser, a chwblhau amrywiaeth o dasgau disgwyliedig ar gyfer athro. Mantais enfawr yw astudio’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg o ganlyniad i fodwl craidd ‘Gloywi Iaith’ a darparwyd gan diwtoriaid arbenigol i sicrhau cynnydd ieithyddol personol ar gyfer pob unigolyn, i ddatblygu’n gramadeg personol a’n ymwybyddiaeth o reolau iaith, gan gofio’r pwysigrwydd mai ni fydd modelau iaith y disgyblion yn y pen draw

Teleri Wilson
Gan fy mod wedi derbyn fy addysg gynradd ac uwchradd i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg, roedd hi’n gam naturiol i mi barhau gyda fy astudiaethau yn y brifysgol drwy’r iaith Gymraeg. Ar ôl treulio cyfnod ar brofiad gwaith mewn ysgolion, roeddwn yn hollol sicr fy mod am yrfa yn y byd addysg ac roedd yr holl sylwadau a chanmoliaeth am raglen addysg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi gwneud y penderfyniad yn un hawdd i mi wrth ddewis prifysgol. Mae astudio drwy’r Gymraeg yn cynnig nifer o fanteision yn enwedig gan fy mod yn rhan o grŵp blwyddyn gymharol fach sydd wedi fy ngalluogi i wneud ffrindiau gyda phob aelod o’r cwrs ac mae’r darlithwyr bob amser yn barod i ateb unrhyw gwestiynau neu bryderon sydd gennych. Mi fydden yn sicr yn annog unrhyw un sy’n ystyried astudio cwrs addysg drwy’r Gymraeg i fynd amdani ac mi fydd o fantais fawr i chi yn y dyfodol wrth ymgeisio am swydd.

Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau

Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid i helpu i gefnogi eich astudiaeth. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i'n hadran

Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau

Llety

Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth.

Gwybodaeth Pellach

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am astudio yng Nghaerfyrddin, gallwch ymweld â ni ar Ddiwrnod Agored.