Skip page header and navigation

Sioe Haf: Celf Gain Stiwdio, Safle a Chyd-destun

Celf Gain Stiwdio, Safle a Chyd-destun

Decretive image

MULTOCULAR

Mae gan ein cwrs gradd Celf Gain:Stiwdio, Safle a Chyd-destun yng Ngholeg Celf Abertawe PCYDDS enw da sefydledig fel canolfan ragoriaeth yn y celfyddydau gweledol yng Nghymru, Lloegr ac yn rhyngwladol. 

Mae ein cwrs yn rhoi mynediad i fyfyrwyr i’w gofodau stiwdio pwrpasol eu hun yn ogystal ag ystod o gyfleusterau ardderchog ar gyfer cyfryngau traddodiadol a digidol, gan gynnwys gweithdai pren, metel a serameg, stiwdios ac offer wedi’u seilio ar lensys a sain, ystafell arlunio bywyd pwrpasol, ac ystafelloedd Mac gyda meddalwedd lefel broffesiynol.

Mae myfyrwyr yn cael eu haddysgu gan artistiaid rhyngwladol adnabyddus wrth eu gwaith, gan ddod â’r byd proffesiynol yn agosach at eu profiad addysgol. Mae gan ein cwrs berthynas waith ardderchog gydag orielau ac amgueddfeydd lleol a chenedlaethol, lle mae cyfleoedd i gymryd rhan mewn preswylfeydd, interniaethau a gweithgareddau hyfforddiant mentora i gefnogi’u huchelgeisiau.

Ein Gwaith

Sommer Ashbie

Mae Sommer Ashbie yn artist y mae ei harfer yn canolbwyntio ar hiraeth a’r profiad dynol. Gan weithio yn bennaf â phaent, mae’n cyfleu ymdeimlad personol o hiraeth am y gorffennol wrth ystyried sut mae’r cof yn parhau i lywio a siapio ei phresennol. Mae ei gwaith yn symud trwy ofod seicolegol, lle mae atgofion sy’n aml yn anffurfiedig neu’n dameidiog yn aros yn yr isymwybod ac yn dylanwadu ar hunaniaeth a chanfyddiad. Yn ei gwaith presennol, mae Ashbie yn troi ei sylw at blentyndod, gan ymchwilio i syniadau o ddiniweidrwydd a’r ymdeimlad o berthyn. Mae hi’n ystyried y ffyrdd niferus y gall atgof ddod i’r amlwg, o deimladau o hiraeth i eiliadau o lawenydd a dealltwriaeth dawel. Wrth ganolbwyntio ar y profiadau cynnil hyn, sy’n aml yn cael eu hanwybyddu, mae hi’n datgelu sut maen nhw’n cronni i lunio ymdeimlad o’r hunan. Trwy’r dull hwn, mae’n annog gwylwyr i adfyfyrio ar eu hatgofion eu hunain a chydnabod effaith barhaol eiliadau diaros.

Student work display

Stephen ‘Bertie’ Bassett

Mae Stephen yn artist â’i waith wedi’i wreiddio yn ei arsylwadau o’r dirwedd a’i brofiad o’r atmosffer mewn mannau penodol. Yn hytrach na chynrychioliadau gweledol o leoedd, mae’n ymateb i rinweddau byrhoedlog golau, tywydd, lliw, sain a symudiad sy’n diffinio amgylchedd.

Mae gweithio ar draws y ddau gyfrwng hyn yn caniatáu i Stephen archwilio eu rhinweddau mynegiannol gwahanol. Mae dyfrlliw yn cynnig uniongyrchedd a hylifedd, gan annog elfen ddigymell wrth i bigmentau symud a rhyngweithio ar draws yr wyneb. Mae olewau, i’r gwrthwyneb, yn darparu cryfder, dyfnder, a’r cyfle i haenu ac ailweithio, gan alluogi datblygiad graddol perthnasoedd lliw a gweadau cymhleth. Gyda’i gilydd, mae’r prosesau hyn yn adlewyrchu natur newidiol y dirwedd ei hun, weithiau’n dyner ac atmosfferig, weithiau’n feiddgar a deinamig. Mae pob darn o waith yn datblygu i fod yn adlewyrchiad o sut y gellid teimlo tirwedd yn ogystal â’i weld.

Student work display

Aimee Brown

Mae Aimee Brown yn archwilio galar a cholled trwy wrthrychau, blodau a serameg mae’n eu ffeindio. Mae ei harfer yn archwilio absenoldeb a hiraeth, gan greu cofnodion parhaol o golled a chysylltiadau â’r broses alaru. Mae cyfres o deils seramig yn adlewyrchu natur galar, gydag argraffiadau yn awgrymu olion ysbrydol o fodolaeth.

Mae’r thema hon yn parhau yn y gwaith In Memoriam, sy’n cyflwyno blodau arwahanol gamau o bydru. Mae’r gwaith yn cymharu blodau’n pydru ag absenoldeb anwylyd, gan archwilio cylch naturiol bywyd a marwolaeth. Gan gyfuno harddwch gweledol ac arogl blodau, mae’r darn yn creu profiad i’r holl synhwyrau sy’n adlewyrchu natur lethol galar.

Mae blodau yn parhau i fod yn ganolog i waith Aimee, gan symboleiddio absenoldeb trwy bresenoldeb a’n hatgoffa am y rhai a adewir ar gerrig beddi fel mynegiant cyhoeddus o gofio a gofal.

Student work display

Levi Collins

Mae gwaith celf Collins yn archwilio ofnau, ac emosiynau trwm trwy’r defnydd o gysyniadau a delweddau abstract. Mae Collins yn defnyddio cymysgedd o baent acrylig, pasteli a siarcol i archwilio sut nad yw popeth yr ydym yn ei brofi fel pobl yn ddu a gwyn. Mae Collins yn defnyddio motiffau fel llygaid i archwilio’r teimlad cyson o gael eich gwylio a bod dan bwysau gan gymdeithas allanol a beth a ddisgwylir gan artistiaid.

Student work display

Nia Davies

Mae Davies yn archwilio’r broses o drawsnewid a haenu deunyddiau naturiol er mwyn prosesu ei phrofiadau a’i hemosiynau personol. 

Mae’r gwaith ‘Haenau’ yn cyfuno ei chariad at serameg a pheintio sy’n dod at ei gilydd i ffurfio gwaith sy’n adlewyrchu ei hatgofion a’i theimladau. Mae’r darn serameg mawr yn gweithredu fel cragen amddiffynnol, gyda phwythau gwifren yn drosiad am drwsio creithiau seicolegol a ddelir gan y corff, gan nodi ei phrofiadau byw. Yn ogystal, mae’r creithiau hyn i’w gweld yn yr haenau o baent sydd wedi cracio a chwalu o ffurf lapiedig y papur, sy’n ein hatgoffa’n barhaus am frwydrau meddyliol Davies. Haenau sy’n dangos trwy graciau bywyd nad yw’n berffaith, lle mae profiadau anffodus yn pylu ond byth wir yn diflannu.

Trwy’r deunyddiau hyn sydd wedi’u plethu, mae Davies yn adfyfyrio ar gof, bregusrwydd ac iachâd, gan wahodd ei gwylwyr i ddod o hyd i’w hystyron eu hunain o fewn arwynebau haenog y gwaith.

Student work display

Eve Ellis-Delve

Mae Eve Ellis-Delve yn artist amlddisgyblaethol, sy’n gweithio ar draws cyfryngau fideo, gosodwaith a chelf sain. Mae ei gwaith yn ystyried cyflyrau bodolaeth, perthyn a’r ffin symudol rhwng bydoedd naturiol ac adeiledig. Mae ei chefndir mewn crefydd yn parhau i lywio archwiliad parhaus o gred, hunaniaeth a lle.

Mae gwaith Delve yn hunangofiannol ddwfn, gyda phob darn yn adlewyrchu moment neu sefyllfa benodol yn ei bywyd. Mae hi’n aml yn gosod ei hun yng nghanol y gwaith, gan gymryd arni ansawdd portread byw, un sy’n dogfennu nid yn unig sut mae hi’n gweld y byd, ond sut mae hi’n bodoli ynddo.

Drwy ddulliau trochol a synhwyraidd, mae Delve yn archwilio beth mae’n ei olygu i feddiannu gofod, gan lywio’r ffiniau rhwng amgylcheddau organig ac adeiledig, gan gwestiynu sut mae tirweddau digidol yn ail-lunio ein dealltwriaeth o natur, hunaniaeth a thiriogaeth.

Student work display

Ffion Harding-Thomas

Mae Harding-Thomas yn defnyddio gosodwaith ffabrig i brosesu trawma, galar ac iachâd, gan ganolbwyntio ar ei phrofiadau a’i phroses iacháu ei hun trwy gydol y flwyddyn ddiwethaf, gan ddefnyddio ffabrigau rhwyllgog ysgafn wedi’u cyferbynnu â waliau pinc llachar sy’n ei hatgoffa o ystafell wely gyntaf ei phlentyndod. Mae’r cymysgedd o iachâd a dicter gweddilliol yn rhyfela drwy gydol y gosodiad. 

Achosodd ystafell wely fach berffaith binc lawer o ddifrod anadferadwy, gyda charpedi lelog trwchus a glitter llachar wedi’i gymysgu â phaent wal. Roedd yr ystafell wely yn cynnig cymysgedd erchyll o ddiogelwch a chreulondeb wedi’i lapio mewn bô pinc perffaith.

Mae’n blaenoriaethu ffabrigau sy’n orau cynrychioli ei theimladau, gan ddefnyddio ffabrigau gwyn teneuach i gyfleu ei theimladau o ysgafnder a’r rhyddhad o dderbyn ar ôl prosesu ei thrawma dros y tair blynedd diwethaf. Mae’r ffabrig anadlol yn adlewyrchu ei gallu newydd i anadlu’n rhydd ar ôl blynyddoedd o alar trwm. 

Student work display

Beth Jenkinson

Mae BEFF ar gael mewn pob llun a lliw!

  • Mae hi’n gallu modelu
  • Mae hi’n gallu gwneud campau acrobatig
  • Mae hi’n gallu rhedeg
  • Mae hi’n gallu troelli
  • Mae hi’n gallu peintio wynebau 
  • Mae hi’n gallu cropian
  • Mae hi’n gallu rhedeg stondin lemonêd
  • Efallai y byddai’n gallu gwneud olwyn dro?
  • Mae hi’n gallu gwneud unrhyw beth!
  • Mae hi’n newid, edrychwch!!!

Mae BEFF yn chwalu disgwyliadau a rheolau distaw a wnaed gan bobl i amddiffyn eu hunain rhag eu cywilydd. Mae hi’n ffeindio ei ffordd trwy’r byd rhyfedd hwn gyda cheinder a gwisgoedd di-chwaeth, ac mae hi wrth ei bodd yn rhannu ei dillad!

Student work display

Branwen Jones

Mae arfer Branwen Jones yn archwilio gwead materol bywyd bob dydd a sut mae hanesion a gwleidyddiaeth wedi’u hymgorffori yn y gofod hwn. Gallai’r rhain fod yn hanesion tarddiad, cynhyrchiad, masnach a defnydd – boed yn fasnachol neu’n bersonol – neu hanesion gwaredu a llygredd y dyfodol.

Gan weithio gyda chyfryngau cerflunio, lluniadu, gwneud printiau, animeiddio, a fideo, mae gwaith cyfredol Jones yn archwilio hanesion trefedigaethol nwyddau bob dydd, gan adfyfyrio ar broses a deunydd.

Mae’r broses o gastio wedi cael ei defnyddio ers canrifoedd i wneud copïau o gerfluniau a sypiau o nwyddau diwydiannol. Yn y pen draw, llwyddodd Ewrop i ddatgodio a chopïo dull Tsieina ar gyfer cynhyrchu porslen, ac yna dyfeisiodd lled-borslen, dewis rhatach ar gyfer masgynhyrchu llestri pridd. Mae’r haenau cymhleth hyn o ystyr yn cael eu hefelychu gan resi niferus o nwyddau lled-borslen plaen.

Student work display

H Balicka

Mae H Balica yn archwilio’r Goedwig fel tirwedd gynrychioliadol o’r meddwl anymwybodol. Maent yn tynnu ar ddamcaniaethau archdeipaidd, ac ysgrifennu ac agwedd abswrdaidd Samuel Beckett, er mwyn rhyngweithio â syniadau o ddiffyg cyfeiriadedd, twf a mynd ar goll yn ddiddiwedd. 

Trwy ffabrig wedi’i baentio a gosodwaith ymdrochol, mae Balicka yn creu amgylcheddau sy’n adlewyrchu natur dameidiog breuddwydion. Mae eu harfer yn ymchwilio i’r tensiwn rhwng gwelededd a thywyllwch, gan wahodd gwylwyr i lywio arwynebau haenog a ffurfiau newidiol. Yma, mae’r goedwig yn annog mewnsylliad, lle gall meddyliau anymwybodol gael eu colli o fewn y drysle o goed.

Os fyddi di’n gofyn i’r dail am gyfarwyddiadau, dylet ddisgwyl bod mwy ar goll,

Oherwydd bydd y dail yn torri’n deilchion,

wrth iddynt ddisgyn yn dawel i mewn i’r hunllef hwnnw roeddet ti’n meddwl dy fod wedi’i anghofio.

Mae’n oer yma.

Bydded i ti ryfeddu am byth, rwyt yn flinedig

Student work display

Tilly Lewis

Mae Tilly Lewis yn ymchwilio i gnawd a chorff, gan ddefnyddio natur anrhagweladwy dyfrlliw i archwilio noethni a natur ddynol. Mae ei harfer yn mynd yn erbyn cynrychioliadau prif ffrwd o’r corff, gan ddargyfeirio rhagdybiaethau bod cnawd yn cyfateb i ryw, neu fod noethni yn golygu pornograffi.

Mae natur druenus y corff (corff benywaidd yn benodol) yn aml yn aflonyddu ar gynulleidfaoedd. Mae Lewis yn cael ei denu at yr aflonyddwch hwn a thermau fel ‘ffiaidd’ rydyn nei’n eu rhoi i’r corff, ochr yn ochr â thasgau rydyn ni’n eu gwneud i gydymffurfio â safonau cymdeithasol a diwylliant purdeb.

Gan ddefnyddio paent a dŵr fel cyfrwng dogfennol, mae hi’n defnyddio ei ffurf fel offeryn, yn fodd i greu argraff ddilys o’r corff, gan ymgolli’n llwyr yn y broses baentio.

Student work display

Mair Phillips

Mae gwaith yr artist yn gasgliad o beintiadau dyfrlliw bach o eglwysi Cymreig sy’n rhan o’i threftadaeth a’i hatgofion. Mae pob paentiad yn cynnig safbwynt gwahanol o lawer o eglwysi gwahanol y maent wedi ymweld â nhw. Mae’r paentiadau’n cael eu gwneud mewn arddull peintio ysgafn ac awyrog lle mae’r artist yn caniatau i’r paent gael ei feddwl ei hun. Mae gwaith Phillips yn adlewyrchu’r teimlad heddychlon y mae hi’n ei deimlo a’i gofio wrth feddwl am fod mewn eglwys ac mae hi wedi trosi’r teimlad hwnnw i’w paentiadau.

Student work display

Anastasia Sevcova

Mae arfer Anastasia yn archwilio’r berthynas rhwng yr amgylchedd, emosiwn a phrofiad dynol trwy baentio, lluniadu a gwneud printiau. Wedi’i wreiddio mewn arsylwi ac ymateb greddfol, mae ei gwaith yn archwilio gofod, materoldeb, a’r tensiwn rhwng trefn ac anrhefn, bywioldeb a breuder.

Yn ei gwaith cyfredol, mae’r goedwig yn drosiad am fywyd mewnol: trwchus, anhrefnus, a ffrwythlon, lle mae meddyliau ac emosiynau yn plethu fel gwreiddiau a changhennau. Trwy ddarluniadau o goedwigoedd a gerddi lleol, mae Anastasia yn ennyn dryswch cyffredinol yn ogystal â dryswch emosiynol, wrth gydnabod tyfiant o fewn cymhlethdod. Drwy bortreadu bywyd yn parhau trwy aflonyddwch, boed yn naturiol neu wedi’i wneud gan ddyn, mae hi’n cipio darlun o gydfodolaeth anhrefn a bywioldeb, gan ddatgelu gwydnwch, harddwch a gobaith tawel o fewn disgwyliadau toredig.

Student work display

Kesia Tucker

Mae arfer Kesia Tucker yn archwilio’r berthynas rhwng deunydd, yr amgylchedd a defod trwy brosesau sydd wedi’u gwreiddio yn y byd naturiol. Gan ddefnyddio pigmentau, inciau, a deunydd organig naturiol, mae hi’n  trin gwneud fel gweithred alcemegol, gan archwilio sut mae deunyddiau elfennol yn ennyn gofodau cudd, sanctaidd, a throthwyol. Mae ei gwaith yn cael ei siapio gan yr ymatebion synhwyraidd ac emosiynol y mae tirweddau yn eu deffro, yn enwedig chwilfrydedd, rhyfeddod, a thensiwn yr anhysbys.

Mae’r corff hwn o waith yn canolbwyntio ar yr elfennau clasurol: daear, dŵr, tân ac aer, a gynrychiolir trwy gynfasau wedi’u gwneud yn gyfan gwbl o ddeunyddiau naturiol. Yn ganolbwynt i hyn mae gwaith cerfluniol sy’n cynrychioli ether: ffurf serameg gwydr a helyg wedi’i wehyddu sy’n cynnwys gwrthrychau wedi’u darganfod a’u gwneud â llaw, wedi’u hymsuddo’n rhannol mewn dŵr. Dros amser, gall y lliwiau naturiol newid, gan adlewyrchu natur fyw, gylchol eu tarddiad.

Student work display

Galeri Arddangosfa