Skip page header and navigation

Mae  Adran Gyfrifiadura Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r tîm Allgymorth Recriwtio Myfyrwyr (SRO) drwy gydol y flwyddyn i gynnal gweithdai mewn ysgolion ledled Cymru. Mae’r mentrau hyn wedi cynnwys cynnal ymweliadau ysgol ar y campws a chyfrannu at ddigwyddiadau ar raddfa fawr fel y digwyddiad Synergedd Sgiliau yn Arena Abertawe.

A group of adults and children in a gaming room.

Ym mis Awst, bu’r Swyddog SRO, Elisha yn cydweithio â’r adran i ehangu cyfleoedd allgymorth gyda chymunedau lleol. Yn rhan o hyn,  croesawodd PCYDDS 30 o  oedolion a phlant yn ddiweddar i gymryd rhan mewn  digwyddiad Cyfrifiadura ymarferol  dan arweiniad darlithwyr mewn Dylunio Gemau ac Animeiddio ac Effeithiau Gweledol (VFX). Yn ogystal mwynhaodd y cyfranogwyr ymweliad arbennig gan gydymaith robotig PCYDDS, Spot y ci.

Yn rhan o’r digwyddiad, creodd teuluoedd eu dyluniadau cymeriad unigryw eu hunain. Dros yr wythnosau nesaf, bydd y cymeriadau hyn yn cael eu cynhyrchu yn fewnol gan PCYDDS, gan ganiatáu i gyfranogwyr weld eu creadigaethau yn dod yn fyw mewn ffordd ddiriaethol, a gan wneud y profiad hyd yn oed yn fwy cofiadwy.

Croesawyd cyfranogwyr i’r campws gan staff a fagwyd yn yr un gymuned.

Meddai Richard William Morgan, Darlithydd mewn Dylunio Gemau: Mae digwyddiadau fel hyn wedi’u cynllunio i ysbrydoli pobl o bob oed, gan godi ymwybyddiaeth o’r llwybrau sydd ar gael mewn addysg, gyrfaoedd a thechnolegau creadigol. Mae’r fenter hefyd yn cefnogi teuluoedd i ymgysylltu â dysgu gydol oes, gan annog oedolion a phlant fel ei gilydd i ysbrydoli ei gilydd, dychwelyd i addysg, ac archwilio cyfleoedd newydd.

“Rwy’n gwybod o brofiad pa mor bwysig yw hi i bobl ifanc a theuluoedd yn ein cymuned deimlo’n gysylltiedig â chyfleoedd mewn addysg a diwydiant. Roedd gweld plant a rhieni yn gweithio ochr yn ochr, yn dychmygu a chreu gyda’i gilydd, yn wirioneddol ysbrydoledig. Mae digwyddiadau fel hyn yn helpu i ddangos nad yw Cyfrifiadura a Dylunio Gemau allan o gyrraedd, maen nhw’n hygyrch, yn greadigol, ac yn llawn posibiliadau.”

Dywedodd Elisha, Swyddog Allgymorth Recriwtio Myfyrwyr: “Dywedir wrthym yn aml i godi dyheadau, ond nid dyma’r her. Yr hyn sy’n wirioneddol bwysig yw gwella mynediad at gyfleoedd. Mae’r digwyddiadau hyn yn ymwneud â chwalu rhwystrau, sbarduno chwilfrydedd, a chaniatáu i bobl weld eu hunain mewn mannau nad oeddent efallai wedi ystyried eu bod ar eu cyfer nhw. Mae cefnogi teuluoedd i ymgysylltu â PCYDDS yn helpu i adeiladu rhwydwaith cymorth ar draws cenedlaethau, lle mae oedolion a phlant yn ysbrydoli ei gilydd i gyflawni.”

Mae PCYDDS wedi ymrwymo i greu cyfleoedd cynhwysol sy’n cysylltu cymunedau ag addysg, yn ysbrydoli creadigrwydd, ac yn adeiladu llwybrau ar gyfer y dyfodol.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon