Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn atgyfnerthu ei safle fel arweinydd byd-eang ym maes gwyddor cynaliadwyedd, wrth i ffigurau blaenllaw o Glymblaid UNESCO-MOST BRIDGES ymgynnull yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (COP31) yn Antalya, Türkiye, rhwng 9 a 20 Tachwedd 2026.

Headshot of Luci Attala

Bydd yr Athro Luci Attala, Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithredol Clymblaid Fyd-eang BRIDGES, a Chyfarwyddwr y Swyddfa Rhaglenni Rhyngwladol (IPO) a Hyb BRIDGES y DU, sydd ill dau wedi’u lleoli yn PCYDDS, yn ymuno â gwyddonwyr o fri rhyngwladol, llunwyr polisi a phenaethiaid sefydliadau i drafod heriau hinsawdd allweddol ym Mharth Glas swyddogol COP31.

Panel ‘A Time of Great Consequence’ yn COP31

Bydd yr Athro Attala yn siarad mewn digwyddiad ochr lefel uchel yn COP31 o’r enw A Time of Great Consequence: Bridging Knowledge Systems for Collective Action in a Time of Planetary Transformation. Cynhelir y digwyddiad yn dilyn cyhoeddi ‘A Time of Great Consequence: A Manifesto for Bridging Knowledge and Action’.

Datblygwyd y maniffesto ar y cyd gan Glymblaid UNESCO-MOST BRIDGES a phartneriaid rhyngwladol allweddol, gan gynnwys Labordy Dyfodol Byd-eang Julie Ann Wrigley ym Mhrifysgol Talaith Arizona (ASU) a Chlwb Rhufain. Mae’n galw am drawsnewid sylfaenol yn y ffordd y caiff gwybodaeth fyd-eang ei chreu, ei hintegreiddio a’i throi’n gamau ymarferol i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Ymhlith y siaradwyr nodedig eraill fydd:

  • Denise Pires De Carvalho, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyffredinol dros Wyddorau, UNESCO.
  • Peter Schlosser, Is-lywydd a Chyfarwyddwr Cyffredinol, Labordy Dyfodol Byd-eang Julie Ann Wrigley, ASU.
  • Amanda Ellis (Cadeirydd), Cyfarwyddwr Gweithredol, Sefydliad Byd-eang ASU ar gyfer Cynaliadwyedd ac Arloesi Asia a’r Môr Tawel; cyn-Lysgennad y Cenhedloedd Unedig.
  • Steven Hartman, Cyfarwyddwr Gweithredol Sylfaenol, Clymblaid UNESCO-MOST BRIDGES.
  • Iveta Silova, Athro a Deon Cyswllt Ymgysylltu Byd-eang, Coleg Addysg Mary Lou Fulton, ASU.

Hybu gweithredu byd-eang dros yr hinsawdd o Gymru

Drwy ei rôl fel cartref Hyb BRIDGES y DU a’r Swyddfa Rhaglenni Rhyngwladol (IPO), mae PCYDDS yn gweithredu fel canolfan ryngwladol ar gyfer ymchwil drawsddisgyblaethol. Mae’r glymblaid yn dod â’r gwyddorau naturiol a chymdeithasol ynghyd â’r dyniaethau, y celfyddydau, a systemau gwybodaeth traddodiadol a brodorol, er mwyn datblygu atebion ymarferol ar gyfer lliniaru newid hinsawdd, addasu iddo a chryfhau cydnerthedd yn ei wyneb.

Mae’r maniffesto yn nodi dechrau cyflwyno cyfres ehangach o offer strategol ar gyfer 2026–2027 o fewn rhaglen Rheoli Trawsnewidiadau Cymdeithasol (MOST) UNESCO. Mae’r offer hyn yn darparu pecyn cymorth hyblyg ar gyfer gweithredu, y gellir ei addasu i gyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhanbarthol. Eu nod yw pontio’r bwlch rhwng syniadau damcaniaethol lefel uchel a’r gwaith ymarferol o roi polisïau ar waith ar lawr gwlad.

Wrth siarad cyn sesiwn COP31, pwysleisiodd yr Athro Luci Attala pa mor frys yw cydweithio trawsddisgyblaethol:

“Yn PCYDDS ac o fewn clymblaid BRIDGES, rydym yn dangos sut y gall dod â thraddodiadau gwybodaeth amrywiol ynghyd – o wyddoniaeth a thechnoleg i ddiwylliant dynol a threftadaeth leol – greu atebion cadarn ac ymarferol i gymunedau lleol a byd-eang fel ei gilydd.”

COP 31 poster with details about the A Time of Great Consequence: Bridging Knowledge Systems for Collective Action in a Time of Planetary Transformation event

Manylion digwyddiad ochr COP31

Bydd rôl arweiniol PCYDDS yn cael ei hamlygu yn ystod digwyddiad ochr swyddogol ym Mharth Glas COP31:

Mae angen cofrestru ymlaen llaw a meddu ar fathodyn achredu dilys UNFCCC COP31 ar gyfer mynediad i’r Parth Glas.

Ynglŷn â Chlymblaid UNESCO-MOST BRIDGES

Mae BRIDGES yn glymblaid ryngwladol sy’n cael ei harwain gan y dyniaethau ac sy’n gweithredu o fewn Rhaglen Rheoli Trawsnewidiadau Cymdeithasol (MOST) UNESCO. Mae’n gweithio gyda phartneriaid rhyngwladol i hybu ymchwil ryngddisgyblaethol a thrawsddisgyblaethol, datblygu polisïau a gweithredu lleol mewn ymateb i heriau amgylcheddol byd-eang.


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon