Skip page header and navigation

Sioe Haf: Patrymau Arwyneb a Thecstilau

Patrymau Arwyneb a Thecstilau

Flower fabric design

Cyflwyniad

Hoffai tîm rhaglen Patrymau Arwyneb a Thecstilau longyfarch Dosbarth 2026 ar eu Sioe Raddio a chasgliadau terfynol hyfryd. 

Mae wedi bod yn bleser i’r tîm Patrymau Arwyneb a Thecstilau ddod i’w hadnabod dros y blynyddoedd diwethaf, eu gwylio’n esblygu fel dylunwyr medrus iawn, a chofleidio eu hunaniaethau dylunio unigol. Maent yn gosod eu hunain ar wahân fel rhai sydd â’r gallu i weithio’n dda fel aelod o dîm a datrys problemau ac mae hyn, ynghyd â’u talent helaeth, yn argoeli ar gyfer dyfodol disglair. 

Mae uchafbwyntiau’r grŵp hwn yn cynnwys Prosiectau Byw anhygoel gydag Anglepoise a aeth â nhw i Ŵyl Ddylunio Llundain, a gweithio ar brosiect dathlu gyda Laura Ashley, “100 Years of an Icon X Surface Pattern and Textiles,” ynghyd â rhestr drawiadol o interniaethau.  

Mae’r myfyrwyr hyn wedi profi eu hunain i fod yn ddylunwyr patrymau arwyneb a thecstilau amryddawn a thalentog ac ni allwn aros i weld beth byddant yn mynd ymlaen i’w wneud fel graddedigion. 

Pob lwc, Ddosbarth 26! 

Ein Gwaith

Sarah Davies

Lore of Nature

Fel dylunydd patrymau arwyneb a thecstilau sy’n arbenigo mewn addurniadau mewnol, rwy’n cael fy ysbrydoli gan y byd naturiol.  Mae Lore of Nature yn brosiect rwy’n angerddol amdano sy’n mynegi fy nghysylltiad â newidiadau tymhorol. Mae fy ysbrydoliaeth yn deillio o hiraeth a fy arsylwadau parhaus o natur. Fy nod yw crisialu’r trawsnewidiadau hardd o liw mewn planhigion a blodau gan ddefnyddio dyfrlliw, gan dalu teyrnged i ddarluniau botanegol traddodiadol. Rwy’n blaenoriaethu ymwybyddiaeth amgylcheddol yn fy ngwaith, gan ystyried effaith fy neunyddiau a’m prosesau, ac mae’n well gennyf ffabrigau naturiol oherwydd eu hansawdd a’u gwytnwch. Ar gyfer y prosiect hwn, fe wnes i ddogfennu unrhyw ddeunyddiau gwastraff i hyrwyddo tryloywder yn fy mhroses ddylunio a gwella fy ymdrechion cynaliadwyedd mewn gwaith yn y dyfodol. 

Student work display

Scarlett Davies

Bringing the Outside 

Mae Bringing the Outside In yn archwilio’r cysylltiad rhwng pobl, natur a llesiant, gan ganolbwyntio ar gynaliadwyedd a rôl cefn gwlad wrth gefnogi iechyd meddwl. Fel rhywun sy’n profi gorbryder, rwy’n gweld bod amgylcheddau gwledig yn darparu ymdeimlad o dawelwch a sicrwydd emosiynol. Fy nod yw creu gwaith sy’n parchu ac yn diogelu’r amgylcheddau naturiol sy’n ei ysbrydoli. Mae fy ngwaith yn tynnu sylw at sut y gall amlygiad gweledol i natur leihau straen a gorbryder, gan atgyfnerthu pwysigrwydd dod ag elfennau o’r byd naturiol i fannau byw bob dydd. Rwyf wrth fy modd yn gallu mynegi ac archwilio fy nghreadigrwydd trwy batrwm, gan ddefnyddio lliw fel ffordd arall o greu egni a chyferbyniad rhwng fy nghasgliadau. 

Student work display

Natalyn Dorn

Synthetic Coast

Mae Synthetic Coast yn gasgliad o ddyluniadau ar gyfer addurniadau mewnol a nwyddau cartref wedi’i ysbrydoli gan lygredd cefnforoedd, casgliadau arfordirol, ac effaith gwastraff plastig ar amgylcheddau morol. 

Wedi’i gynllunio ar gyfer mannau fel acwaria, siopau eco, a chaffis arfordirol, mae’r prosiect yn cyfuno delweddau glan môr gyda gweadau a ffurfiau sydd wedi’u dylanwadu gan wastraff a gasglwyd ar y traeth ac arfordiroedd llygredig. Trwy ddylunio patrymau arwyneb a thecstilau, nod y casgliad yw creu addurniadau mewnol sy’n denu’r llygad tra’n annog ymwybyddiaeth o gynaliadwyedd ac effeithiau niweidiol plastigau ar gefnforoedd, bywyd gwyllt a thirweddau arfordirol.

Student work display

Sophie Drew

Glowgrove: The Understory

Yng nghasgliad Sophie Drew Designs mae lliw, patrwm a dychymyg yn dod at ei gilydd i greu gwaith eclectig, llawn personoliaeth.  Rwy’n creu dyluniadau amlbwrpas ar gyfer addurniadau mewnol, ffasiwn, a nwyddau cartref tra’n cynnal estheteg mynegiannol unigryw.

Mae Glowgrove: The Understory yn gasgliad o addurniadau mewnol ar gyfer Gwanwyn/Haf 2027 i blant a phobl hŷn sydd â diddordeb mewn pethau plant, wedi’i ysbrydoli gan y bydoedd dychmygus y mae plant yn eu creu. Mae ecosystemau coetiroedd yn trawsnewid yn dirweddau rhyfeddol llawn ffyngau anarferol o fawr, fflora neon llachar, a manylion cudd UV-adweithiol wedi’u hysbrydoli gan y sbectrwm anweledig a welir gan beillwyr. Mae golygfeydd wedi’u paentio â llaw yn cyfuno â darluniau monocrom sy’n deillio o ffurfiau naturiol i greu amgylcheddau trochol, chwareus. Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys décor rhyngweithiol, gan gynnwys papur wal yn darlunio coetir â Nadroedd ac Ysgolion, sy’n cyfuno hiraeth, creadigrwydd, a chwarae grymus i ddod â llawenydd, chwilfrydedd a lliw i’r cartref.

Student work display

Blossom Evans

Ephemeral Moments 

Rwy’n Ddylunydd Patrymau Arwyneb sy’n creu patrymau haniaethol a dychmygus wedi’u hysbrydoli gan bopeth o’m cwmpas. Mae fy nghasgliad diweddaraf, ‘Ephemeral Moments’, yn archwilio patrymau a rhythmau sy’n digwydd yn naturiol i greu papur wal mewnol a thecstilau y gellir eu defnyddio i greu gofodau trochol, bioffilig yn y cartref trwy batrwm a lliw. 

Trwy chwilio am y patrymau hyn sy’n aml yn cael eu hanwybyddu, profais eiliadau byr  o heddwch mewn natur ac archwilio’r rhain i adeiladu patrymau llonyddol a thawel a all wella llesiant meddwl trwy bioffilia. Roedd yr eiliadau hyn yn cynnwys gwylio tonnau a chrychdonnau ar ddŵr, gwrando ar gerddoriaeth a sŵn y glaw, a gwylio cysgodion yn symud yn y gwynt. 

  • Instagram: I weld rhagor o’m ngwaith ewch i’m Instagram @_blossom.designs_ lle gallwch ddod o hyd i’m linktree i’m gwefan yn y bio. 
Student work display

Kamila Jacewicz

Shaped from Shadow

Mae Shaped from Shadow yn gasgliad o batrymau arwyneb gydag estheteg dywyll ar gyfer addurniadau mewnol sy’n cynnwys dyluniadau ar gyfer papurau wal, tecstilau addurniadol, matiau bwrdd, a theils. Wedi’i ysbrydoli gan bensaernïaeth gothig, manylion gwydr lliw, elfennau Witchcore, ac estheteg amgen, mae’r casgliad yn cyfuno gwahanol ddylanwadau gweledol i greu dehongliad personol o ddyluniad esthetig tywyll. Defnyddiwyd paletau o liwiau tywyll a ffurfiau addurniadol i greu naws ddirgel ac atmosfferig trwy gydol y casgliad.  Crëwyd y patrymau yn bennaf trwy brosesau digidol a’u datblygu ar draws ystod o arwynebau a deunyddiau ar gyfer addurniadau mewnol.

Student work display

Emmi Joy

What Magpie Finds 

Y brif ysbrydoliaeth ar gyfer fy ngwaith yw cymryd effemera a deunyddiau hapgael tra rwyf yn yr awyr agored i greu patrymau a phrintiau newydd; gan helpu pobl i werthfawrogi’r hyn sydd gan y byd i’w gynnig. Mae fy nghasgliad Lost and Found yn gasgliad cyfryngau cymysg sy’n canolbwyntio ar  ffotograffau hapgael a cholled mewn bywyd.  Mae hwn yn gasgliad gwanwyn/haf sy’n archwilio’r elfennau llai mewn bywyd, sy’n aml yn cael eu hanwybyddu, gyda chysylltiadau rhwng gardd anwylyd a  delweddau hapgael o’r 50au, gan ddod â chysylltiad rhwng y gorffennol a’r presennol. Mae’r casgliad yn cynnwys motiffau dyfrlliw wedi’u paentio â llaw o ardd fy niweddar dad-cu, wedi’u hargraffu a’u gosod ar gwilt wedi’i wneud â llaw ac amrywiaeth o bapurau wal, wedi’u dwyn at ei gilydd gan sylfaen o liw naturiol a gafwyd trwy gasglu a chwilota.

Student work display

Sam McGrath

Nature’s Voice

Mae Nature’s Voice yn gasgliad dylunio o batrymau cyfryngau cymysg wedi’i ysbrydoli gan y Ddamcaniaeth Bioffilia a boblogeiddiwyd gan yr ecolegydd E.O. Wilson sy’n manylu ar sut mae gan fodau dynol atyniad cynhenid at yr amgylchedd naturiol. Gan fod delweddau o fioffilia hefyd wedi’u profi i leihau straen a gorbryder yn naturiol, bwriad y casgliad yw ennyn ymdeimlad o lonyddwch a thawelwch i wrthsefyll cyflymder llethol ein bywydau yn y byd sydd ohoni. Mae’n integreiddio elfennau o’r tu allan i mewn i’n gofodau domestig a mewnol trwy ddelweddau a materoliaeth, gan ddefnyddio deunyddiau gwastraff isel ac wedi’u hailgylchu i gyfyngu ar yr effaith amgylcheddol. Er ei fod wedi’i gynllunio i ddechrau ar gyfer mannau cyhoeddus, mae’r casgliad yn cynnwys darnau amlbwrpas y gellir eu defnyddio i addurno cartrefi personol.

Student work display

Eve Merriman

Floral Sentiments

Mae Floral Sentiments yn gasgliad ar gyfer y cartref sy’n archwilio iaith gyffredinol blodau a’u heffaith ar ein bywydau. Mae’n crisialu’r bywiogrwydd a’r llawenydd y mae blodau yn eu cynnig, tra hefyd yn arddangos eu hagweddau meddalach, rhamantus. Wedi’i ddylunio gyda bioffilia mewn golwg, mae’r casgliad hwn yn pwysleisio ein cysylltiad hanfodol â natur, gan gyferbynnu sut rydym yn ei integreiddio i’n bywydau trwy gelf a dylunio, ond yn aml yn anwybyddu ei harddwch naturiol. Y nod yw creu mannau llawen sy’n codi calon, gan ddangos sut mae natur yn gwella ein hamgylcheddau a sut y gall y dyluniadau trochol hyn ddod â’r tu allan i mewn yn effeithiol. 

Student work display

Lottie Smith

Seaside Serenity

Rwy’n ddylunydd patrymau arwyneb a thecstilau ar gyfer addurniadau mewnol, gan ddefnyddio natur a blodau o’m cwmpas i ysbrydoli fy nyluniadau. Mae fy nghasgliad Seaside Serenity yn gasgliad hiraethus o bapur wal a thecstilau ar gyfer dylunio mewnol. Mae fy nghasgliad yn  ennyn atgofion, tawelwch a chytgord arfordirol,  wedi’u hysbrydoli gan Fae Langland yn lleol a glan môr Brighton. Mae’r palet lliwiau’n cyfuno arlliwiau glas y Môr Tawel a llechi ochr yn ochr â chwrel, a lliw llwyd y cregyn môr a’r cerigos. Mae’r patrymau’n ymgorffori motiffau sydd wedi’u tynnu â llaw, a’u peintio’n gain mewn dyfrlliwiau, sydd wedi’u trosi’n brintiau sgrin a digidol o fflora a chregyn lleol. Yn benodol, cregyn gleision ac wystrys gyda blodau Bukhara a dail lliw leim. Mae’r dyluniadau hyn wedi’u haenu ar wlân, cotwm a phapur wal gydag effeithiau byrhoedlog cain. 

Student work display

Lauren Stokes

The Tale of Twynnoy and The Tiger

Wedi’i gynllunio ar gyfer tymor addurniadau mewnol moethus Hydref-Gaeaf 2026/27, mae’r casgliad hwn wedi’i ysbrydoli gan lên gwerin arswydus Hannah Twynnoy, y credir mai hi yw’r person cyntaf yn Lloegr i gael ei lladd gan deigr. Wedi’i leoli yn Malmesbury, yn y Cotswolds, mae’r naratif yn canolbwyntio ar y White Lion Inn, lle roedd Twynnoy yn gweithio cyn cyfarfyddiad angheuol â theigr caeth. Mae’r casgliad hefyd yn tynnu ar iaith weledol ecsentrig syrcas teithiol, yn enwedig Gifford Circus. Mae dylanwadau gan Fornasetti, House of Hackney, Mind The Gap, Daniel Heath, a Joby Carter yn siapio estheteg haenog o adrodd straeon swreal, theatredd a chrefftwaith coeth. Gyda’i gilydd, mae’r cyfeiriadau hyn yn creu patrymau sy’n teimlo’n unigryw ac yn gyfoes, gan gydbwyso naratif cyfoethog â dylunio mewnol modern. 

Student work display

Robyn Thorpe

‘Sol De Surf’ 

Mae Sol De Surf yn gasgliad o brintiau dillad menywod ar gyfer haf 2027 wedi’i ysbrydoli gan ffordd o fyw ger y môr. Mae’n daith trwy arfordiroedd, gan archwilio sut mae’r cefnfor yn cael effaith gadarnhaol ar eich meddwl, eich corff a’ch enaid. Wedi’i gynllunio ar gyfer menywod o bob oedran a siâp corff, mae Sol De Surf yn gasgliad sy’n grymuso menywod i gofleidio eu gwir hunan.  Wedi’i greu trwy ddull cyfryngau cymysg, mae’r casgliad yn cynnwys sgrin-brintio haenog, dulliau lliwio ffabrig, prosesau llwyrlosgi, a brodwaith digidol.  Mae Sol De Surf nid yn unig yn gasgliad o brintiau, ond yn ffordd o fyw. Mae’n ymgorffori’r bywyd arfordirol rhydd sy’n hyrwyddo antur, hunanfynegiant, a’n cysylltiad â’r cefnfor. Mae pawb yn haeddu profi bywyd Sol De Surf

Student work display

Jen Wengler

Valour on the Sleeve 

Mae’r prosiect hwn yn cynnwys cyfres o gasgliadau dillad printiedig rhywedd-niwtral sy’n gogwyddo at fenywod sy’n ymchwilio i adfywiad themâu canoloesol mewn dylunio. Wedi’i ysbrydoli gan hanes canoloesol, arteffactau wedi’u hadfer, a naratifau ffantasi o’r cyfryngau poblogaidd, mae’r casgliad hwn yn cynnig profiad gweledol o adrodd straeon sy’n gyfoethog mewn patrymau a thechnegau. Mae torri â laser, argraffu ffabrig yn ddigidol, a phrintio â sgrin sidan wedi cael eu defnyddio i greu patrymau gydag ystyron cudd, alegorïaidd. Mae’r palet lliw yn gyfoethog, gan ategu’n berffaith yr elfennau dyfrlliw a’r dyluniadau addurniadol a geir mewn llyfrau canoloesol, ac arfwisgoedd. Mae’r casgliad hwn yn apelio at unigolion sydd ag ymdeimlad cryf o’i hunain, sy’n mynegi eu hunain yn hyderus trwy ddillad unigryw, mynegiannol.

Student work display

Orla White

Untamed Rhythms

Mae ‘Untamed Rhythms: Llanelli – An Idyllic Life’ yn archwilio arfer celf ddiwylliannol trwy ganfyddiad personol ac ecoleg leol. Wedi’i ysbrydoli gan Xie Yi, arddull traddodiadol Tsieineaidd o beintio ag inc, mae’r prosiect yn cynnwys strociau brwsh llyfn, ymylon meddal, a symudiad mynegiannol i grisialu awyrgylch yn hytrach na manylion. Mae’r casgliad wedi ei lywio gan Ganolfan Gwlyptiroedd Llanelli trwy ei ddyfroedd newidiol, cyrs haenog, tonau tawel, ac egni llonydd. Mae’n tynnu ar adar y gwlyptiroedd, eu ffurfiadau plu a’u marciau rhythmig, ac yn eu troi’n batrymau tecstilau ar gyfer ffasiwn. Trwy gyfuno technegau Xie Yi â rhinweddau trochol y gwlyptiroedd, mae’r casgliad yn cydbwyso meddalwch a strwythur, haniaeth, a ffurfiau naturiol adnabyddadwy. Mae’r dyluniadau’n dal symudiad, awyrgylch ac egni tawel yr amgylchedd, gan greu cyfuniad o ddylanwad diwylliannol, profiad personol, a mynegiant wedi’i ysbrydoli gan natur. 

Student work display

Galeri Arddangosfa