Skip page header and navigation

Gwneud cais fel myfyriwr rhyngwladol

Gwneud cais fel myfyriwr rhyngwladol

Gwneud cais am astudiaeth israddedig neu ôl-raddedig yn PCYDDS fel myfyriwr rhyngwladol.

Cyn i chi wneud cais

Mae gofynion gwneud cais yn amrywio o gwrs i gwrs. Gwiriwch dudalen eich cwrs cyn gwneud cais.

Gwiriwch ofynion mynediad y cwrs
Gwnewch yn siŵr eich bod yn bodloni’r gofynion o ran y Saesneg
Gwnewch yn siŵr bod eich cymwysterau a dogfennau ategol yn barod
Gwiriwch y gofynion a’r dyddiadau cau fisa

Sut y gallwch chi wneud cais

Mae sut rydych chi’n gwneud cais yn amodol ar eich cwrs.

Israddedig

Gwnewch gais drwy UCAS, yn uniongyrchol i PCYDDS neu drwy asiant cymeradwy.

Ôl-raddedig

Gwnewch gais yn uniongyrchol i PCYDDS neu drwy asiant cymeradwy.

TAR

Gwneir ceisiadau drwy UCAS.

Ar ôl i chi wneud cais

Adolygu eich cais

Byddwn yn adolygu eich cais ac yn cysylltu â chi os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom.

Ymateb i’ch cynnig

Os byddwch chi’n llwyddiannus, fe gewch chi gynnig a gwybodaeth am yr hyn i’w wneud nesaf.

Paratoi ar gyfer astudio yn y DU

Unwaith y bydd eich lle wedi’i gadarnhau, gallwch ddechrau paratoi ar gyfer byw ac astudio yn y DU.

Gwneud cais drwy asiant cymeradwy

Gall asiantau cymeradwy eich cefnogi drwy gydol y broses o wneud cais.

Gallant helpu gyda:

  • dewis cwrs
  • cwblhau eich cais
  • gwneud cais am fisa
  • paratoi ar gyfer astudio yn y DU

Gwybodaeth ddefnyddiol

Cymwysterau a phrofiad iaith Saesneg a dderbynnir.

Two students in discussion at a coffee shop

Canllawiau ar fisau ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol.

Staff member and student looking at a laptop

Dyddiadau pwysig a dyddiadau cau ceisiadau.

Three staff members walking and in discussion

Yn barod i ddod o hyd i gwrs?

Myfyrwyr yn gwenu mewn ystafell ddosbarth

Yn barod i ddod o hyd i gwrs?

Archwiliwch  gyrsiau israddedig ac ôl-raddedig ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol.

Cysylltu â’r Tîm Rhyngwladol

Angen help gyda chais rhyngwladol?

Gall y Tîm Recriwtio Rhyngwladol helpu gyda:

  • ceisiadau
  • gofynion mynediad
  • fisau
  • gofynion iaith Saesneg