Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn help i gefnogi cydnabyddiaeth Abertawe fel Dinas Fioffilig trwy brosiect ymchwil cydweithredol sy’n cysylltu creadigrwydd, adeiladu a gwytnwch hinsawdd. 

A student standing proudly in front of vibrant art work on a white wall.

Fel rhan o brosiect REPAIR a ariennir gan AHRC, mae myfyrwyr o raglenni Patrwm Arwyneb a Thecstilau a Rheoli Adeiladu yn gweithio ochr yn ochr ag academyddion a phartneriaid yn y ddinas i fynd i’r afael â heriau trefol yn y byd go iawn. Mae’r fenter yn darparu profiad ymarferol gwerthfawr gan alluogi myfyrwyr i gyfrannu’n uniongyrchol at brosiectau gydag effaith gymdeithasol ac amgylcheddol diriaethol. 

Mae REPAIR yn dwyn ynghyd tîm traws-ddisgyblaethol o Brifysgol Abertawe, PCYDDS a Choleg Prifysgol Llundain (UCL), yn ogystal â phartneriaid cyhoeddus, preifat a chymunedol. Mae PCYDDS yn cyfrannu arbenigedd ymchwil ac ymgysylltiad myfyrwyr trwy ei chanolfannau ymchwil, gan gynnwys Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC), sy’n cydlynu’r gweithgaredd hwn sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr. 

Meddai Yolanda Rendón Guerrero, Cymrawd Arloesi ATiC a Chyd-arweinydd Ymchwil REPAIR: “Mae myfyrwyr yn angerddol iawn am chwarae rôl hanfodol mewn ymchwil ac mae eu sgiliau anhygoel yn ymddangos ar gamau gwahanol y prosiect hwn, o’r syniad dechreuol i’r broses gyflawni. Mae eu cyfraniad yn helpu i lunio gweledigaeth a rennir ar sut y gall dinasoedd addasu i newid hinsawdd trwy ymchwiliadau creadigol a thechnegol. 

 “Mae’r ymdrech draws-ddisgyblaethol wirioneddol hon yn creu amgylchedd dysgu deinamig lle mae myfyrwyr yn cael profiad uniongyrchol o weithio ar y cyd. Mae hyn yn dangos bod mynd i’r afael â heriau cymdeithasol-ecolegol yn gofyn am gymaint o seilwaith ffisegol ag arbenigedd a dychymyg amrywiol, fel y gallwn ail-ddychmygu ar y cyd sut rydym yn dylunio ac yn gofalu am y lleoedd rydym yn byw ynddynt ac yn eu rhannu â natur.”

Meddai Dr Shelly Doolan Rheolwr Prosiect ATiC: “Mae gweithio gyda myfyrwyr ar brosiectau byw yn weithgaredd rydym yn awyddus i’w gefnogi. Mae’n rhoi’r cyfle iddynt gymhwyso eu sgiliau mewn ffyrdd ystyrlon, gan ddod â safbwyntiau ac egni newydd i heriau cymhleth.”

Archwilio dylunio bioffilig trwy arfer creadigol 

Mae myfyrwyr o’r rhaglen Patrwm Arwyneb a Thecstilau yn PCYDDS yn archwilio sut y gall arfer creadigol gryfhau cysylltiadau rhwng pobl, lle a natur mewn amgylcheddau trefol. Gan ddefnyddio eu harbenigedd mewn ymchwil patrymau, defnyddioldeb a phrosesau gwneud, maent yn ymchwilio i sut y gellir ymgorffori ffurfiau, gweadau a systemau naturiol yn yr amgylchedd adeiledig. 

Fel rhan o REPAIR, mae myfyrwyr wedi archwilio enghreifftiau o ddylunio bioffilig lle mae patrwm a defnyddioldeb yn ennyn prosesau naturiol megis twf, rhythm ac atgyweirio ar draws adeiladau, gofodau cyhoeddus a lleoliadau domestig. Mae’r ymchwil hon yn llywio cynigion dylunio tybiannol ac arbrofion deunyddiau sy’n gysylltiedig â’r Biome, adeilad byw ôl-ffitio cyntaf Abertawe, a’r amgylchedd o’i amgylch. 

Trwy drosi atebion sy’n seiliedig ar natur ac egwyddorion bioffilig i decstilau, dylunio arwyneb a naratifau deunydd, mae myfyrwyr yn helpu i ddelweddu dulliau sy’n ymateb i’r hinsawdd a all gefnogi llesiant, iechyd a gofal cymdeithasol, gan feithrin ymdeimlad cryfach o berthyn. Mae eu gwaith yn tynnu sylw at sut mae disgyblaethau creadigol yn cyfrannu at addasu i’r hinsawdd nid yn unig trwy estheteg, ond trwy lunio cysylltiadau emosiynol a synhwyraidd â natur a’r ddinas. 

Mynd i’r Afael â bwlch Sgiliau Seilwaith Gwyrdd Cymru

Ochr yn ochr â llinyn hwn y prosiect REPAIR, mae myfyrwyr o’r rhaglen Rheoli Adeiladu PCYDDS yn ymchwilio’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i ddarparu Seilwaith Gwyrdd (GI) yng Nghymru. 

Gan weithio gydag addysgwyr, partneriaid o ddiwydiant ac ymarferwyr ar draws sawl sector, maent yn archwilio dulliau cyfredol a’r rhai sy’n dod i’r amlwg ar gyfer Seilwaith Gwyrdd ac Atebion sy’n Seiliedig ar Natur (NbS), gan gynnwys Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS), toeau a waliau gwyrdd, strategaethau oeri trefol a dylunio a arweinir gan fioamrywiaeth. 

Mae’r ymchwil yn archwilio sut y gall addysg Pensaernïaeth, Peirianneg ac Adeiladu (AEC) gefnogi prosiectau bioffilig a phrosiectau gwydnwch hinsoddol trwy adnabod bylchau o ran sgiliau, anghenion hyfforddi a chyfleoedd ar gyfer cydweithredu agosach yn y diwydiant. Yn ogystal, mae myfyrwyr yn ystyried sut y gall arbenigedd rhanbarthol, pobl fasnach a busnesau helpu i ddatblygu’r gweithlu seilwaith gwyrdd sydd ei angen i fodloni uchelgeisiau sy’n ymwneud ag addasu i’r hinsawdd a sero net yng Nghymru. 

Mae’r gwaith hwn yn atgyfnerthu darpariaeth ymarferol dylunio bioffilig, gan sicrhau ei fod yn cael ei deall nid yn unig fel cysyniad creadigol ond fel dull y gellir ei ymgorffori o fewn addysg adeiladu ac arfer yn y diwydiant. Yn ogystal, mae’n tanlinellu pwysigrwydd cydweithio ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat er mwyn cefnogi dull cyd-gysylltiedig at gyflawni seilwaith gwyrdd. 

Meddai Brandon Roberts, Arddangoswr Technegol CWIC a Chynorthwyydd Ymchwil REPAIR:  “ Mae cydweithio ar brosiect ymchwil allweddol ynghylch sgiliau seilwaith gwyrdd yng Nghymru – ar y cyd ag ATiC ac intern sy’n fyfyriwr ar y cwrs Rheoli Adeiladu – wedi bod yn newid o’r math arferol o waith rwy’n ei wneud yma yn CWIC, lle rwy’n cynnal gweithdai ac yn gwneud gwaith dylunio. 

 “Fodd bynnag, mae’r weledigaeth yn union yr un fath; mae angen newid systemig ar y diwydiant adeiladu os ydym am leihau ein heffaith ar yr amgylchedd naturiol, ac mae hyn yn cynnwys y byd academaidd, lle rydym wedi nodi bylchau o ran dysgu egwyddorion cynaliadwy mewn Addysg Bellach ac Uwch ledled Cymru – egwyddorion y mae eu hangen fwyfwy yn ymarferol.

Mae addysg yn broses ddwyffordd, ac rydym yn gobeithio parhau i weithio gyda myfyrwyr i gefnogi eu dysgu yn ogystal â’n haddysgu ein hunain, gan ddangos mai cydweithio yw’r allwedd i lwyddiant mewn unrhyw ymdrech”.

Dysgu trwy gydweithio byw 

Mae’r prosiect yn adlewyrchu ymrwymiad PCYDDS i ddysgu traws-ddisgyblaethol, sy’n seiliedig ar le. Trwy weithio ar brosiect ymchwil byw sy’n canolbwyntio ar astudiaeth achos trefol go iawn, mae myfyrwyr yn ennill profiad ymarferol wrth gyfrannu mewnwelediadau gwerthfawr sy’n cefnogi uchelgeisiau ehangach prosiect REPAIR a Seilwaith Gwyrdd, bioffilig a strategaethau trefol mwy gwyrdd Abertawe. 

Gwybodaeth bellach

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect REPAIR, astudiaethau ymchwil byw a chyfleoedd interniaeth i fyfyrwyr, cysylltwch â Chyd-arweinydd Ymchwil REPAIR Yolanda Rendón Guerrero yn y.rendon-guerrero@uwtsd.ac.uk.

A green door way with artwork photographed partially in the shade.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon