Skip page header and navigation

Mae Alison Rees Edwards, darlithydd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), wedi cyd-ysgrifennu erthygl ddwyieithog ar gyfer rhifyn diweddaraf yr Early Education Journal, gan ddod ag arbenigedd Cymraeg yn y blynyddoedd cynnar i gynulleidfa ledled y DU.

Alison Rees Edwards photo

Gwahoddodd yr Athro Cathy Nutbrown, Llywydd Early Education ac un o’r lleisiau rhyngwladol uchaf eu parch mewn addysg blynyddoedd cynnar, Alison i gyfrannu i’r rhifyn. Mae’r erthygl yn archwilio dwyieithrwydd ac adrodd straeon mewn addysg plentyndod cynnar. 

Mewn cam arwyddocaol i’r cylchgrawn, cyhoeddwyd y darn yn Gymraeg a Saesneg. Dyma gydnabod pwysigrwydd ymarfer dwyieithog ac addysg cyfrwng Cymraeg, wrth alluogi darllenwyr ledled y DU i ddysgu o ddull unigryw Cymru ym maes addysg iaith ychwanegol.

Mae’r cyhoeddiad hefyd yn tynnu sylw at waith PCYDDS wrth baratoi ymarferwyr dwyieithog hyderus ar gyfer y sector blynyddoedd cynnar. Mae addysgu Alison yn archwilio’r cysylltiad rhwng adrodd straeon, datblygiad iaith a llythrennedd, gan gefnogi myfyrwyr i ystyried sut y gall adrodd straeon ddatblygu cyfathrebu, creadigrwydd a dysgu plant.

Mae’r cydweithrediad yn nodi ansawdd a pherthnasedd addysgu ac ymchwil Alison, gan gynnwys y ddarpariaeth iaith a llythrennedd yn rhaglenni gradd Blynyddoedd Cynnar PCYDDS.

Meddai Alison Rees Edwards:

“Mae’r Athro Cathy Nutbrown yn enw o fri ym maes y blynyddoedd cynnar, ac rydw i wedi defnyddio llawer o’i chyhoeddiadau drwy gydol fy nhaith fy hun, yn gyntaf yn fyfyrwraig Blynyddoedd Cynnar, a bellach yn ddarlithydd wrth ddatblygu sesiynau ar gyfer ein myfyrwyr presennol. Roedd cael yr Athro Cathy Nutbrown yn cysylltu â mi yn uniongyrchol ac yn fy ngwahodd i ysgrifennu erthygl ar adrodd straeon ar gyfer rhifyn sydd ar ddod o’r Early Education Journal yn brofiad anhygoel. Yn ystod ein galwad fideo, roeddwn i’n llawn parchedig ofn, gan fy atgoffa fy hun yn dawel, ‘Rwyt ti’n siarad â Cathy Nutbrown.’

“Roedd ei chlywed hi’n siarad mor gadarnhaol, ac am ei gwerthfawrogiad o’r cyfleoedd y mae ein myfyrwyr Blynyddoedd Cynnar yn eu cael yn eu hastudiaethau yn arbennig o werthfawr. Yn benodol, wrth iddi gydnabod eu hymgysylltiad nhw ag adrodd straeon, o ddeall ei rôl yn natblygiad iaith plant a llythrennedd cynnar, i archwilio pwysigrwydd adrodd straeon dwyieithog a myfyrio ar eu hymddygiadau eu hunain o ran adrodd straeon, roeddwn i’n teimlo’n falch iawn o’r modwl iaith a llythrennedd sydd gennym ni. Mae’r modwl hwn yn parhau i fod yn rhan sylfaenol o’n rhaglenni gradd Blynyddoedd Cynnar.

“Roeddwn i hefyd yn falch o rannu enghreifftiau o waith ein myfyrwyr, gan gynnwys delweddau a dyfyniadau gan y rhai a ddewisodd ddefnyddio ystafell ymdrochol y Brifysgol i greu profiadau adrodd straeon digidol. Mae’r cyfleoedd hyn nid yn unig yn dangos creadigrwydd ac arloesi, ond hefyd yn cynnig adnoddau ystyrlon i fyfyrwyr ac ymarferwyr y dyfodol.

“Yn ogystal, roedd yr Athro Cathy Nutbrown yn awyddus i’r erthygl fod yn ddwyieithog. Fel siaradwr Cymraeg, roeddwn i wrth fy modd o allu cynhyrchu fersiwn Cymraeg ar gyfer y cylchgrawn, sydd bellach ar gael i’w darllen ar-lein.”

Mae’r cyhoeddiad yn llwyfan gwerthfawr i dynnu sylw at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg PCYDDS a’i chyfraniad i ddatblygiad arferion dwyieithog yn y sector blynyddoedd cynnar. Mae hefyd yn galluogi arbenigedd y Brifysgol i gyrraedd cynulleidfa broffesiynol ehangach ledled y DU.

Bydd cyhoeddi’r erthygl yn Gymraeg a Saesneg yn caniatáu i fyfyrwyr, ymarferwyr ac addysgwyr ledled y DU ymgysylltu â dulliau o adrodd straeon sy’n ategu datblygiad iaith plant ac sy’n adlewyrchu’r cyd-destunau ieithyddol a diwylliannol y maen nhw’n dysgu ynddyn nhw.


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon