Skip page header and navigation

Mae dau o sefydliadau addysg uwch hynaf Cymru, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i gydweithio i gryfhau mynediad at addysg a sgiliau ar draws y dirwedd addysg drydyddol yn eu rhanbarth.

Professor Jon Timmis, VC of Aberystwyth University and Professor Elwen Evans, VC of UWTSD

O dan Femorandwm o Ddealltwriaeth, mae’r cydweithrediad yn ymateb i’r her bresennol o lefelau isel o gyfranogiad mewn addysg uwch yng Nghymru.

 Bydd y cydweithrediad hefyd yn gweithio gyda chyflogwyr i ddatblygu’r sgiliau sy’n angenrheidiol i gefnogi twf economaidd, gan gryfhau anghenion sgiliau dwyieithog y rhanbarth a’r genedl yn y dyfodol, a gwella rôl y prifysgolion fel sefydliadau angori sy’n cyfrannu at ffyniant a chynaliadwyedd y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Dywedodd yr Athro Jon Timmis, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:

 “Fel dwy brifysgol sy’n chwarae rhan bwysig yn ein hardal, rydym ni’n awyddus i ystyried ffyrdd o gydweithio i gynyddu canran y bobl ifanc sydd mewn addysg. Rydym ni’n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud mynd i’r afael â’r agenda hon yn un o’u blaenoriaethau allweddol. Er ein bod bob amser yn parhau i fod yn falch o’n cyrhaeddiad byd-eang fel Prifysgol, mae ein rhanbarth cartref yn hynod bwysig i ni. Bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn helpu i gryfhau ein hymdrechion i newid bywydau er gwell ledled y Canolbarth a’r Gorllewin.

 “Ers dros gant a hanner o flynyddoedd, mae Prifysgol Aberystwyth wedi gwasanaethu ei rhanbarth, a chenhadaeth ein sefydliad yw meithrin gwybodaeth, adeiladu cymunedau a chryfhau Cymru, yn ogystal â’r byd ehangach. Bydd gweithio gydag eraill yn parhau i fod yn rhan bwysig o gyflawni’r agenda honno, gan sicrhau bod prifysgolion yn parhau i gael lle cynaliadwy yng nghanol cymunedau, a dangos ein penderfynoldeb i adeiladu ar gryfderau rhanbarthol i wella cyfleoedd, yn enwedig er lles ein cenedlaethau iau.”

 Dywedodd yr Athro Elwen Evans, KC, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant:

 “Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn adlewyrchu ein cred gyffredin fod gan addysg y pŵer i drawsnewid bywydau a chreu cyfleoedd. Fel sefydliadau â gwreiddiau dwfn yn ein cymunedau, rydym yn cydnabod pwysigrwydd lle a’n cyfrifoldeb i gefnogi lles economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ein rhanbarth. 

“Gyda’n gilydd, gallwn ni adeiladu ar ein cryfderau a dyfnhau ein cyfraniadau i’n rhanbarth. Drwy gydweithio, gallwn ni gyflawni mwy nag y gallai unrhyw sefydliad ar ei ben ei hun, gan gynnig buddion hirhoedlog i’n myfyrwyr, ein cymunedau ac i Gymru.”


Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 01267 676790

Rhannwch yr eitem newyddion hon