Skip page header and navigation

Am y flwyddyn ddiwethaf, mae Luke Cotter a Hollie Wilkins wedi bod yn rhannu gofod stiwdio yn Oriel Elysium yn Abertawe fel enillwyr balch Gwobr Preswyl i Raddedigion 2005, sef cydweithrediad rhwng yr oriel a Choleg Celf Abertawe. Nawr, maent yn paratoi i agor eu harddangosfa gyntaf ar y cyd o’r enw Tailing Amok.

Tailing Amok - poster for exhibition by graduates Luke Cotter and Hollie Wilkins

Mae Luke a Hollie yn raddedigion o gwrs gradd BA Celfyddyd Gain: Cyd-destun Safle a Stiwdio, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae eu cydweithrediad o fewn y gofod stiwdio wedi darparu heriau newydd iddynt a gofod lle mae gwrthrychau, prosesau a hiwmor yn llifo gyda’i gilydd gan arwain at greu dau gorff gwaith gwahanol, ond cefnogol.  Bydd yr arddangosfa ar agor i’r cyhoedd rhwng 13 Tachwedd - 23 Rhagfyr.

Dywedodd y ddarlith Alex Duncan: “Ar y cyd, maen nhw wedi defnyddio deunyddiau gwastraff, graddfa a hiwmor sy’n dod gyda rhannu gofod, a lle mae syniadau a gwrthrychau a ddarganfuwyd wedi croesbeillio’n naturiol. Mae’r ddau artist wedi archwilio’n chwareus â’r ‘peth gwneud’ - y lefelau hurt o gynhyrchu dynol di-baid a’r taflu sy’n dilyn”.

Luke Cotter

Ers sawl blwyddyn, mae Luke Cotter, sy’n dod o Lwydcoed ger Aberdâr, wedi datblygu ffordd o weithio wedi’i ategu gan ymagwedd unigryw at ddeunyddiau a ddarganfuwyd, gan gribo’r strydoedd am ddodrefn pren wedi’u gadael i greu gofodau a cherfluniau sy’n cwestiynu’r hyn sydd ei angen arnom a’i eisiau trwy berthynas gymhleth rhwng pobl a llafur. Gan ddefnyddio gofodau cyfarwydd, ond wedi’u hanwybyddu fel capeli, tafarndai a thai, mae’n archwilio’r croestoriad rhwng profiad personol a phrofiad cyfunol. O fewn hyn mae ffocws a pharhad prin o draddodiad llafar Cymru neu grefft y cyfarwyddyd, a gyflwynir yn yr arddangosfa hon trwy greu ‘Dyn’. Cyflwynir offer i’r arsylwr a wnaed gan un a fu’n chwilio am aur yn aflwyddiannus, ac a fu’n dibynnu ar ei lwc ond yn methu yn y pen draw.  Mae’r “enw tafladwy” hwn wedi caniatáu i Luke sianelu rhesymeg amgen o greu pethau, lle mae Dyn yn “meddwl y byddant yn gweithio, ond nid ydynt byth yn cyrraedd y nod yn llwyr.” 

Hollie Wilkins

Mae Hollie Wilkins o Burry Port yn creu cerfluniau sy’n herio categorïau hawdd, gan weithio gyda lefel annifyr o fanwl gywirdeb sydd yn aml yn groes i natur dafladwy’r deunyddiau y cânt eu gwneud ohonynt. Mae plastig diwydiannol wedi’i daflu, pibellau a rhaffau wedi derbyn sylw agos ac agos-atoch, lle mae’r artist wedi defnyddio prosesau rheoli gwastraff ôl-ddefnydd, megis stripio gwifrau, i greu gwrthrychau sy’n chwarae gyda thyndra, dwysedd a thordion.

Trwy ddadadeiladu manwl a gofalus, gall rhwyd winwns, yn ei thro, ein hannog i ofyn cwestiynau am amlygiad corfforol gwybodaeth. Yma, mae ffocws yr artist ar yr elfen “ddyfrol” yn treiddio i fecanweithiau systemau diwydiannol, lle mae plastigion wedi’u taflu, dalfeydd damweiniol (bycatch) a chwymp morfil (whale fall) yn dal drych i’n dyfodol mewn ffordd nad yw’n hawdd ei hanwybyddu.

Mae anifeiliaid sy’n cynnal eu hunain ar gorff morfil marw yn adleisio, mewn rhyw fodd, y prosesau creadigol a ddefnyddir ganddi. Yn aml, mae ei gweithiau’n ymddangos fel pe baent wedi’u creu gan rywogaeth anarchig, wedi’u gwehyddu gan aderyn sy’n gwrthod unrhyw ddosbarthiad pendant.

Dywedodd y ddarlith Alex Duncan: “Mae’r cydweithrediad stiwdio hwn yn cynnig ffynhonnell gyfoethog o ysbrydoliaeth i arferion artistig Luke Cotter a Hollie Wilkins, y ddau yn arddangos cyrff newydd o waith nad ydynt wedi’u gweld o’r blaen. Ac ni fyddai unrhyw beth o hyn yn bosibl heb gefnogaeth Elysium sydd wedi hyrwyddo artistiaid gyrfa gynnar ers ei sefydlu yn 2007”. 

Nodyn i’r Golygydd

Mae Elysium, darparwr mwyaf stiwdios artistiaid Cymru, yn meithrin cymuned ffyniannus o artistiaid a phobl greadigol sy’n cyfrannu at ddatblygiad tirwedd ddiwylliannol ehangach Abertawe. 

Ers 2025, cyflwynwyd Gwobr Graddedigion Oriel Elysium i artistiaid 3-D rhagorol sy’n graddio o Goleg Celf Abertawe. Mae’r wobr yn cefnogi artistiaid sy’n dod i’r amlwg yn ystod y flwyddyn gyntaf dyngedfennol ar ôl graddio, pan all colli strwythur cymorth y brifysgol a phwysau ariannol cynyddol gael effaith sylweddol ar ymarfer yr artist. Cynigir cyfnod preswyl o flwyddyn o hyd i bob derbynnydd yn stiwdios artistiaid Elysium, ochr yn ochr â chyfleoedd datblygiad proffesiynol, mentora a chefnogaeth, gan arwain at arddangosfa o’u gwaith.

Mae’r wobr yn cydnabod artistiaid sy’n dangos ymagwedd unigryw a diddorol at gerfluniau ac ymarfer 3-D, gyda pharodrwydd i arbrofi gyda deunyddiau, syniadau a phrosesau, ac ymrwymiad i ddatblygu bywyd cynaliadwy yn y celfyddydau.

Derbynwyr Gwobrau Graddedigion:


Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 01267 676790

Rhannwch yr eitem newyddion hon