Skip page header and navigation

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Copenhagen a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn taflu goleuni newydd ar un o ddirgelion ieithyddol hynaf Ewrop: o ble y daeth yr ieithoedd Celtaidd.

Map Cymraeg sy'n dangos ardaloedd yr ieithoedd yn Rwrop

Mae’r Wyddeleg, Gaeleg yr Alban, y Gymraeg a’r Llydaweg i gyd yn ieithoedd Celtaidd, a siaredir ar gyrion yr Iwerydd. Ond o ble y daeth yr ieithoedd hyn?

Yn ôl dwy astudiaeth newydd, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Nature, sy’n olrhain tarddiad yr ieithoedd Celtaidd a Germanaidd, gallai rhan o’r ateb fod ynghudd yn DNA miloedd o Ewropeaid hynafol.

Dadansoddodd tîm rhyngwladol dan arweiniad Prifysgol Copenhagen a Phrifysgol Leiden DNA mwy na 4,500 o unigolion hynafol, gan gynnwys 712 o genomau oedd yn cael eu dilyniannu am y tro cyntaf. Drwy gyfuno geneteg, archaeoleg ac ieithyddiaeth, ailgreodd yr ymchwilwyr batrymau mudo a fu’n helpu i lunio’r ieithoedd a siaredir ledled Ewrop heddiw.

“Nid yw dilyniannau DNA yn dweud wrthym yn uniongyrchol pa iaith yr oedd pobl yn ei siarad. Ond drwy gyfuno DNA hynafol â thystiolaeth ieithyddol ac archaeolegol, gallwn ddechrau olrhain sut y lledaenodd ieithoedd a sut y gwnaethant newid dros filoedd o flynyddoedd,” meddai Eske Willerslev, prif awdur yr astudiaethau ac Athro yn Sefydliad Globe ym Mhrifysgol Copenhagen.

Ailedrych ar darddiad yr ieithoedd Celtaidd

Heddiw, mae’r ieithoedd Celtaidd yn goroesi’n bennaf yng Nghymru, Iwerddon, yr Alban a Llydaw. Ond 2,500 o flynyddoedd yn ôl, siaradwyd ieithoedd Celtaidd ar draws llawer o Ewrop. Ers dros ganrif, mae ysgolheigion wedi bod dadlau a darddodd yr ieithoedd hyn o’r rhanbarth hyd arfordir Môr Iwerydd neu ymhellach i’r dwyrain, yng nghanolbarth Ewrop.

Mae’r DNA hynafol yn awgrymu bod pobl wedi symud o ganolbarth Ewrop tua 3,000 o flynyddoedd yn ôl, gan ymledu tua’r gorllewin i Ffrainc, Prydain, Iwerddon a Phenrhyn Iberia. Yn ôl yr ymchwilwyr, dyma’r esboniad symlaf dros ledaeniad yr ieithoedd Celtaidd. Mae hefyd yn herio un o’r damcaniaethau mwyaf dylanwadol, sy’n awgrymu bod yr ieithoedd Celtaidd wedi tarddu o arfordir Môr Iwerydd.

“Mae’r cwestiwn o ble y daeth yr ieithoedd Celtaidd wedi bod yn destun dadlau ers dros gan mlynedd. Mae DNA hynafol yn rhoi ffordd hollol newydd inni werthuso damcaniaethau sy’n cystadlu â’i gilydd, ac yn ychwanegu tystiolaeth newydd bwysig at y drafodaeth,” meddai Guus Kroonen, Athro Cyswllt mewn ieithyddiaeth gymharol ym Mhrifysgol Leiden a Phrifysgol Copenhagen.

Cyfuno geneteg, iaith a hanes

Mae’r ymchwilwyr yn pwysleisio na all DNA ar ei ben ei hun ddatgelu pa iaith yr oedd pobl hynafol yn ei siarad. Yn hytrach, mae’r astudiaethau’n cyfuno tystiolaeth genetig gyda degawdau o ymchwil ieithyddol ac archaeolegol.

Drwy olrhain pryd a ble y symudodd pobl, llwyddodd y tîm i arbrofi gyda damcaniaethau hirsefydlog ynghylch sut y lledaenodd ieithoedd ar draws Ewrop, a chynnig darlun manylach o orffennol y cyfandir nag erioed o’r blaen.

“Mae’r astudiaethau hyn yn dangos beth sy’n bosibl o gyfuno geneteg, archaeoleg ac ieithyddiaeth. Bellach, gellir mynd i’r afael â chwestiynau sydd heb eu datrys ers cenedlaethau, gan ddefnyddio lefel o dystiolaeth a oedd yn amhosibl ei chael o’r blaen,” meddai Kristian Kristiansen, Athro Archaeoleg ym Mhrifysgol Gothenburg.

Cyfrannodd yr Athro John Koch o’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd at y brif erthygl,  ‘Tracing the spread of Celtic languages using ancient genomics’, a’i hatodiadau ieithyddol ac archaeolegol. Meddai’r Athro Koch, “Mae’r erthygl hon yn garreg filltir bwysig yn yr ymchwil am darddiad Celteg ac mae’n cyfyngu’n bendant ar y posibiliadau o ran ffynonellau cynhanesyddol y Gymraeg a’r ieithoedd Celtaidd eraill. Mae yna ychydig o bwyntiau allweddol i’w cofio. Prin iawn y goroesodd genynnau ffermwyr Neolithig Prydain ac Iwerddon, felly prin fod unrhyw siawns taw eu hiaith hwy oedd ffynhonnell y Gymraeg. Rhwng 4,500 a 4,000 o flynyddoedd yn ôl, ailboblogwyd Prydain ac Iwerddon gan Bobl y Biceri a darddodd o’r gwlyptiroedd o amgylch cyrsiau is afon Rhein ac afon Meuse. Ar ôl hynny, yn ystod Oes yr Efydd, daeth dau ymfudiad i mewn i dde Prydain — yn gyntaf o ranbarth Ffrainc/Iberia ac yna’r ail yn gysylltiedig â phoblogaeth Knovíz, is-grŵp o Ddiwylliannau Maes Yrnau, yng nghanol Ewrop (y Weriniaeth Tsiec heddiw). Cododd y ddau grŵp o fewnfudwyr o diriogaeth Pobl y Biceri a chariai’r ddau dras gref o Bobl y Biceri. Felly mae’n edrych nawr fel bod stori ymddangosiad a datblygiad yr ieithoedd Celtaidd wedi’i chydblethu’n agos â stori Pobl y Biceri a’u disgynyddion.”

McColl, H. et al. Tracing the spread of Germanic languages using ancient genomics. Nature https://doi.org/10.1038/s41586-025-09064-1  (2026).

McColl, H., Kroonen. G. et al. Tracing the spread of Celtic languages using ancient genomics. Nature https://doi.org/10.1038/s41586-026-11198-9  (2026).

(I’w cyhoeddi ym mis Tachwedd)

Nodiadau i Olygyddion 

1. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol. 

2. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk 

3. Y Ganolfan yw cartref Geiriadur Prifysgol Cymru: https://www.geiriadur.ac.uk/


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon