Myfyrwraig o Goleg Celf Abertawe wedi'i dewis ar gyfer arddangosfa fawreddog ‘Discerning Eye’
Mae artist anabl a ailadeiladodd ei gyrfa greadigol drwy gyfrwng tecstilau ar ôl treulio 12 mlynedd yn y celfyddydau perfformio wedi cael ei dewis i arddangos ei gwaith yn un o arddangosfeydd celf mwyaf mawreddog y DU.
Dewiswyd y gwaith celf ‘Threads’ gan Tammy Davies, myfyrwraig ar y rhaglen MA Tecstilau - Deialogau Cyfoes yng Ngholeg Celf Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ar gyfer arddangosfa ‘Discerning Eye’ yn Orielau Mall, Llundain eleni.
Mae’r arddangosfa, a ddewiswyd o filoedd o gyflwyniadau o bob cwr o’r DU, yn rhoi sylw i waith gan artistiaid sy’n dod i’r amlwg ac artistiaid profiadol ac fe’i hystyrir yn un o’r llwyfannau uchaf eu parch yn y wlad ar gyfer celf gyfoes.
Wedi’i ysbrydoli gan ddelwedd o wastraff tecstilau mewn tomen sbwriel yn Ghana, mae ‘Threads’ yn archwilio cynaliadwyedd, treuliant ac effaith amgylcheddol y diwydiant ffasiwn. Crëwyd y darn yn gyfan gwbl o ddeunyddiau wedi’u hadfer, gan gynnwys edau a gasglwyd o lawr stiwdio, leinin llenni wedi’i staenio a chylchoedd brodwaith o siop sborion.
Dywedodd Tammy: “Mae cynaliadwyedd yn bwysig iawn i mi. Cafodd y darn ei greu’n gyfan gwbl o wastraff.
“Rwy’n gobeithio y bydd ymwelwyr yn gweld rhywbeth diddorol ac yn chwilio am ragor o wybodaeth amdanaf er mwyn darganfod y neges - y gallwn greu a chael rhywbeth hardd heb iddo gostio’n ddrud i ni na’r Ddaear”.
Mae’r cyflawniad yn nodi carreg filltir bwysig yn nhaith greadigol Tammy. Mae Tammy yn byw gyda Syndrom Ehlers-Danlos hypersymudol (hEDS), anhwylder meinwe cysylltiol sy’n achosi poen cronig, blinder ac ansefydlogrwydd yn y cymalau. Ar ôl treulio 12 mlynedd yn y diwydiant celfyddydau perfformio, trodd at decstilau pan roedd y cyflwr yn golygu na allai berfformio mwyach, gan ddod o hyd i ddull newydd o fynegi ei chreadigrwydd trwy gelf a dylunio.
A hithau wedi cwblhau gradd mewn Dylunio Ffasiwn yn Ysgol Gelf Caerfyrddin Coleg Sir Gâr, yn ddiweddar dechreuodd astudio ar gwrs ôl-raddedig yng Ngholeg Celf Abertawe, lle mae’n arbenigo mewn tecstilau. Trwy ei hastudiaethau MA, mae’n archwilio themâu cynaliadwyedd, hunaniaeth ac anabledd, wrth archwilio’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn ffeminist, yn artist ac yn ddylunydd mewn byd sy’n newid yn gyflym.
Wrth adfyfyrio ar y profiadau sydd wedi ei llunio fel artist, dywedodd Tammy:
“Mae fy anabledd yn rhan ohonof i - cefais fy ngeni gydag ef. Mae wedi cymryd amser hir i mi sylweddoli, os ydw i’n derbyn pwy ydw i ac yn gwrando ar fy nghorff, gallaf gyflawni nodau a bod yn greadigol o hyd.”
Bellach yn astudio ar y rhaglen Deialogau Cyfoes, mae Tammy yn dyfnhau ei dealltwriaeth o arferion tecstilau cynaliadwy ac yn gobeithio datblygu technegau sy’n caniatáu i decstilau sydd wedi’u difrodi a’u taflu gael eu hatgyweirio, eu haddasu a’u trawsnewid i fod yn ddillad gwisgadwy.
Trwy gyfrwng ei gwaith, mae hi’n gobeithio dangos sut y gall creadigrwydd chwarae rôl wrth wneud y diwydiant ffasiwn yn fwy cynaliadwy, tra’n herio canfyddiadau ynghylch gwastraff, gwerth a threuliant yn y maes.
Gwybodaeth Bellach
Mared Anthony
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk
Ffôn: +447482256996