Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr blwyddyn gyntaf y cwrs BA Dylunio a Chynhyrchu Setiau ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi ymuno â Chwmni Mega ar eu cynhyrchiad diweddaraf ‘Gwion Bach a Ceridwen y Wrach.’

Pantomime production with UWTSD scenery in background
Credit: Celf Calon

Dros y mis nesaf, bydd Cwmni Mega yn mynd â’i bantomeim diweddaraf i leoliadau ledled Cymru, gyda’r cynhyrchiad yn cynnwys elfennau o’r set wedi’u hadeiladu gan fyfyrwyr y Drindod Dewi Sant. Daw’r cydweithio ar adeg arbennig o gyffrous i gyrsiau creadigol y Brifysgol, gyda’r Drindod Dewi Sant yn 1af yn y DU ar gyfer Drama a Dawns yn y Guardian University Guide 2027, sy’n cydnabod cryfder ei darpariaeth ar draws y celfyddydau perfformio.

Cysylltodd y cwmni â’r tîm Dylunio a Chynhyrchu Setiau yn y Brifysgol i gefnogi’r gwaith o adeiladu’r set, gan roi cyfle i fyfyrwyr gyfrannu at gynhyrchiad theatr proffesiynol a gweld eu gwaith yn dod yn fyw ar y llwyfan.

Mae’r gwaith cydweithredol yn rhan o fodwl y myfyrwyr, Adeiladu Golygfeydd, lle maent yn ymateb i friff creadigol yn y byd go iawn ac yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni prosiectau mewn amgylchedd perfformio byw.

uwtsd students building set for production

Trwy’r prosiect, mae’r myfyrwyr wedi ennill profiad ymarferol gwerthfawr, gan ddatblygu eu galluoedd technegol, eu creadigrwydd a’u hyder wrth adeiladu cysylltiadau â gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y diwydiant theatr yng Nghymru.

Mae’r cydweithredu hefyd wedi rhoi cyfle i weithio ochr yn ochr ag Ellie Reynolds, un o raddedigion y Drindod Dewi Sant, a ddyluniodd set y cynhyrchiad.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cwmni Mega, Lisa Marged:

“Mae’n fraint gallu cynnig y profiad hwn iddyn nhw wrth iddynt ddechrau eu gyrfaoedd yn y maes.

“Mae hefyd yn wych cydweithio ag Ellie Reynolds am yr eildro! Y tro cyntaf oedd fel cynorthwyydd gwisgoedd ar ein taith pantomeim y llynedd, ac eleni mae hi wedi dylunio, creu a phaentio’r set drawiadol ar gyfer ‘Gwion Bach a Ceridwen y Wrach’.

“Mae Ellie yn berson eithriadol o dalentog a chreadigol, ac yn bleser gweithio gyda hi; rydym yn hynod ddiolchgar am ei holl waith caled ac ymroddiad.”

Dywedodd y darlithydd Dave Atkinson:

“I’r myfyrwyr a wnaeth y set hon, dyma’r tro cyntaf iddynt weithio gydag offer pŵer a sgiliau gwaith coed. Maen nhw’n dysgu mewn amgylchedd ymarferol a meithringar ac mae hynny, ynghyd â’r briff ar gyfer cleient proffesiynol, yn rhoi tir dysgu perffaith iddynt ddatblygu eu sgiliau ac adeiladu dealltwriaeth o sut i’w cymhwyso yn y byd go iawn. Dyma’r eildro i ni adeiladu ar gyfer Cwmni Mega ac mae’n bleser gwirioneddol cynnal perthynas â’r diwydiant.”

I gael rhagor o wybodaeth am y cwrs BA Dylunio a Chynhyrchu Setiau, ewch i: Dylunio a Chynhyrchu Setiau (Llawn amser) | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant 

I gael tocynnau ar gyfer y cynhyrchiad, ewch i:  Hafan - Cwmni Mega.Cymru


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon