Skip page header and navigation

Bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn cynnal diwrnod agored arbennig ar ei champws yn Llambed. Bydd y digwyddiad yn cynnig y cyfle i ymwelwyr ddarganfod rhai o’r llawysgrifau canoloesol rhyfeddol a gynhelir yn Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen. 

image of Jonah and the Whale from the Latin Bible

Bydd y digwyddiad a gynhelir ddydd Mercher, 18 Tachwedd yn cynnwys dwy sesiwn ar wahân o sgwrs gan gyn Llyfrgellydd Casgliadau Arbennig PCYDDS, Ruth Gooding. Bydd y sgwrs a fydd yn dechrau am 10am ac yn cael ei hailadrodd am 2pm, yn archwilio rhai o’r llawysgrifau canoloesol rhyfeddol a gynhelir yng Nghasgliadau Arbennig y Brifysgol. 

Bydd y sgwrs yn tynnu sylw at nifer o eitemau arwyddocaol, gan gynnwys dau Lyfr Oriau o’r 15fed ganrif, copi o’r Beibl Lladin o’r 13eg ganrif a’r Llawysgrif gyfareddol Gwaed y Mynach.

Ymhlith y llawysgrifau i’w trafod yw copi o’r Beibl Lladin o 1279, a oedd yn perthyn i’r Esgob Thomas Burgess. 

another extract from the Latin Bible

Yn ogystal, bydd y digwyddiad yn taflu goleuni ar eitem hynaf y llyfrgell, y Llawysgrif enwog Gwaed y Mynach, sy’n dyddio’n ôl i tua 1200. Yn ôl yr hanes, mae gwaed mynach o Fangor-is-y-coed  ar y  llawysgrif, er bod y stori hon, mewn gwirionedd, yn chwedl hanesyddol. 

Mae’r llawysgrif yn ddarn o Alphabetum in artem sermocinandi Peter o Capua, ac mae’n cynrychioli un o’r arbrofion cynharaf mewn trefnu’r wyddor. Fe’i crëwyd i helpu pregethwyr i ddod o hyd i ddarnau perthnasol ar gyfer eu pregethau ac mae’n cynnwys casgliad o ddarnau o’r Beibl. Mae ei threfniant arloesol o ddeunydd yn nhrefn y wyddor yn ei wneud yn rhagflaenydd cynnar i’r geiriaduron a’r gwyddoniaduron rydym yn eu defnyddio heddiw. 

Mae staeniau anarferol ar y llawysgrif wedi cyfrannu at ei henwogrwydd ers amser maith. Disgrifiodd yr awdur teithio George Borrow y gyfrol fel un sy’n dwyn marciau o waed o gyflafan mynachod Bangor-is-y-coed gan y Sacsoniaid yn ei lyfr Wild Wales a gyhoeddwyd ym 1870. 

Fodd bynnag, mae’r stori honno’n gronolegol amhosibl. Credir bod y gyflafan wedi digwydd ar ddechrau’r seithfed ganrif, tra bod y llawysgrif yn dyddio o ddiwedd y 12fed ar y cynharaf. Er bod y staeniau nodedig yn debyg i waed, mae’n bosibl y gallent fod yn win!

image of the Monk's Blood Manuscript

Meddai Ruth Gooding: 

 “Ychydig o bethau a wnaed gan ddyn sy’n harddach na llawysgrifau canoloesol. Rwyf wrth fy modd i allu dweud storïau am rai o drysorau mwyaf PCYDDS.”

Bydd cyfle i weld y llawysgrifau ar ôl y sgwrs. 

Ychwanegodd Nicky Hammond, Archifydd Casgliadau Arbennig PCYDDS: 

 “Rydym wrth ein boddau i groesawu Ruth yn ôl i’r llyfrgell. Treuliodd lawer o flynyddoedd yn ymchwilio i’r Casgliadau Arbennig a gofalu amdanynt, ac mae ganddi wybodaeth helaeth am ei lawysgrifau canoloesol. Bydd yn sgwrs ddiddorol a goleuol.” 

I wybod rhagor neu gadw lle, cysylltwch â Nicky Hammond, n.hammond@uwtsd.ac.uk


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon