PCYDDS yn croesawu prentisiaid gradd beirianneg newydd wrth i TSC Subsea fuddsoddi mewn talent y dyfodol
Mae dau beiriannydd ifanc o Ben-y-bont wedi dechrau teithiau gyrfa newydd cyffrous wrth iddynt gyfuno astudio yn y brifysgol gyda chyflogaeth yn TSC Subsea, arweinydd byd-eang mewn gwasanaethau arolygu profion anninistriol tanfor (NDT).

Mae Joshua Ludlow a Lucas Kenny sy’n 18 oed, wedi ymuno â TSC Subsea fel Technegwyr Offer tra’n astudio ar gyfer Gradd Brentisiaeth mewn Peirianneg Fecanyddol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS). Mae’r rhaglen yn caniatáu iddynt astudio ar gyfer gradd brifysgol tra’n datblygu sgiliau ymarferol a phrofiad yn y diwydiant.
Mae peirianneg yn rhedeg yn nheulu Josh. Ar ôl astudio Ffiseg a Pheirianneg ar Lefel A, gwelodd PCYDDS fel cyfle perffaith i adeiladu ar ei ddiddordebau tra’n cael profiad gwaith gwerthfawr.
“Dewisais i PCYDDS gan ei bod yn brifysgol adnabyddedig ar gyfer peirianneg a dyma’r llwybr i gael gradd a phrofiad gwaith. Mae’r cwrs hwn yn cyd-fynd yn berffaith â fy addysg a’m profiad blaenorol mewn peirianneg fecanyddol. Fy nod yw cwblhau’r radd gyda gwell dealltwriaeth ar draws ystod o bynciau i’m helpu i symud ymlaen yn fy ngyrfa.”
Mae Joshua eisoes wedi dechrau hyfforddiant ymarferol gyda TSC Subsea, gan gynnwys ardystiad fforch godi a Phrofi Offer Cludadwy (PAT) ar gyfer diogelwch trydanol. Mae’n dweud bod uchafbwyntiau ei gwrs hyd yn hyn wedi bod yn “gweld y gweithdai peirianneg a chwrdd â’r holl bobl sy’n ymwneud â fy addysg.”
Mae Lucas hefyd yn dod o gefndir peirianneg cryf a dewisodd y llwybr prentisiaeth gan ei fod yn cyfuno ei angerdd am y pwnc gyda rhagolygon gyrfaol clir:
“Rwyf wastad wedi mwynhau peirianneg, ac rwy’n meddwl bod cael gradd wrth weithio yw’r ffordd orau i fynd, mae’n fy ngosod ar gyfer fy nodau bywyd yn y dyfodol. Fy nodau yw gorffen y radd, graddio o PCYDDS, a symud ymlaen yn fy ngyrfa mor bell ag y gallaf yn y diwydiant peirianneg.”
Mae dechrau ei astudiaethau ar y radd wedi creu argraff gadarnhaol ar Lucas:
“Mae’n gyfle da iawn gyda chyfleusterau gwych ac rydym wedi cael cynnig llawer o gefnogaeth. Mae’r holl ddarlithwyr yn gyfeillgar ac yn agos atoch, sy’n gwneud gwahaniaeth mawr.”
Mae TSC Subsea yn arweinydd byd eang mewn technolegau arolygu tanfor, gan ddarparu atebion unigryw a ddefnyddir o bell i asesu uniondeb strwythurol asedau ar y môr. Drwy fuddsoddi mewn prentisiaid fel Joshua a Lucas, mae’r cwmni yn cryfhau ei weithlu yn y dyfodol gan gefnogi’r biblinell sgiliau peirianneg ehangach.
Meddai Stuart Kenny, Llywydd TSC Subsea: “Rydym wedi’i ymrwymo i ddatblygu talent beirianneg y dyfodol yn TSC Subsea. Mae prentisiaethau fel hyn yn caniatáu i beirianwyr ifanc gaffael sgiliau hanfodol, gwybodaeth academaidd a phrofiad yn y diwydiant o’r diwrnod cyntaf. Mae Joshua a Lucas eisoes wedi dangos brwdfrydedd ac ymroddiad, ac rydym yn edrych ymlaen at eu cefnogi wrth iddynt symud ymlaen yn eu hastudiaethau a’u gyrfaoedd.”
Meddai Matthew Wicker, Pennaeth Prentisiaethau yn PCYDDS: “Mae’n bleser gennym groesawu Joshua a Lucas i’r rhaglen a’u gweld yn ffynnu gyda chymorth TSC Subsea. Mae prentisiaethau gradd yn cynnig y gorau o ddau fyd, profiad o’r diwydiant ochr yn ochr ag astudiaethau academaidd, gan roi’r sgiliau, yr hyder a’r wybodaeth sydd eu hangen ar brentisiaid i greu effaith uniongyrchol yn y gweithle. Rydym yn edrych ymlaen at ddilyn eu teithiau wrth iddynt symud ymlaen yn eu hastudiaethau a’u gyrfaoedd.
“Mae’r bartneriaeth rhwng PCYDDS a chyflogwyr megis TSC Subsea yn tynnu sylw at werth prentisiaethau gradd wrth dyfu’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr, gan roi’r arbenigedd technegol a’r profiad byd go iawn sydd eu hangen arnynt i fodloni heriau’r diwydiant peirianneg heddiw.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071