PCYDDS yn Edrych Ymlaen at Gynnal Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK a Chroesawu Cystadleuwyr i Abertawe
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn edrych ymlaen at gynnal amrywiaeth o gystadlaethau fel rhan o Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK 2026 ar gampws SA1 Abertawe yn ystod wythnos y 16eg Tachwedd.
Bydd y Brifysgol yn croesawu cystadleuwyr o bob cwr o’r DU, ochr yn ochr ag ysgolion a cholegau a fydd yn ymweld â’r digwyddiad, wrth i bobl ifanc arddangos eu sgiliau technegol a chystadlu am anrhydeddau cenedlaethol. Bydd PCYDDS hefyd yn cefnogi dau brentis o’r partner diwydiant TT Electronics, sef Finley Williams a Jaidon Bevan-German, sydd wedi sicrhau lleoedd yn y rowndiau terfynol.
Bydd ymwelwyr yn cael y cyfle i weld cystadleuwyr ar waith ar 18 a 19 Tachwedd, gyda chystadlaethau yn cael eu cynnal ar draws ystod o feysydd technegol, creadigol a sgiliau sy’n dod i’r amlwg, gan gynnwys:
- Celf Gemau Digidol 3D
- Gweithgynhyrchu Haen-ar-haen
- Awtomeiddio
- Peiriannydd CNC
- Systemau Tân a Diogelwch Electronig
- Dylunio Graffig
- Electroneg Ddiwydiannol
- Roboteg Ddiwydiannol
- Diwydiant 4.0
- Mecatroneg
- Ynni Adnewyddadwy
Cymhwysodd Finley a Jaidon yn dilyn perfformiad rhagorol yn y rowndiau rhagbrofol cenedlaethol. Byddant yn cystadlu yn erbyn peirianyddion ifanc gorau’r DU.
Yn Bartner Trefnu swyddogol WorldSkills UK ar gyfer Melino CNC a Gweithgynhyrchu Haen-ar-haen, mae PCYDDS yn chwarae rhan bwysig wrth ddarparu cystadlaethau cenedlaethol sy’n dathlu rhagoriaeth dechnegol ac yn hyrwyddo gyrfaoedd mewn gweithgynhyrchu uwch.
Mae’r digwyddiad hefyd yn tynnu sylw at ei phartneriaeth gynyddol â TT Electronics, y mae ei safle yn Abercynon yn cynhyrchu cydrannau electronig wedi’u peiriannu’n gywrain ar gyfer marchnadoedd byd-eang, gan gynnwys y sectorau amddiffyn a rheilffyrdd.
Dywedodd Lee Pratt, Rheolwr yr Academi Sgiliau Gweithgynhyrchu Uwch yn PCYDDS: “Mae cynnal WorldSkills UK yn rhoi cyfle gwych i ni arddangos gweithgynhyrchu uwch a’r sgiliau sydd eu hangen ar draws y diwydiant. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu cystadleuwyr ac ysgolion a cholegau a fydd yn ymweld â’r digwyddiad i gampws SA1 a chefnogi Finley a Jaidon wrth iddynt gymryd rhan yn y rowndiau terfynol.”
Dywedodd Nathan Hicks, Pennaeth Gweithrediadau TT Electronics: “Rydym yn hynod falch o Finley a Jaidon am gyrraedd Rowndiau Terfynol Cenedlaethol Melino CNC WorldSkills UK. Mae eu cyflawniad yn adlewyrchu’r ymroddiad, y sgil a’r penderfyniad y maent wedi’u dangos trwy gydol eu prentisiaeth, yn ogystal â’r gefnogaeth a ddarperir drwy ein partneriaeth â PCYDDS.
“Mae buddsoddi mewn prentisiaid yn ganolog i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o dalent ym maes peirianneg, ac mae WorldSkills UK yn rhoi cyfle iddynt arddangos eu galluoedd ar lwyfan cenedlaethol. Dymunwn bob llwyddiant i’r ddau brentis yn y rowndiau terfynol.”
Mae cyfranogiad PCYDDS yn WorldSkills UK yn adlewyrchu ei hymrwymiad i ddatblygu sgiliau technegol, cefnogi talent newydd, a gweithio gyda diwydiant i gryfhau dyfodol gweithgynhyrchu uwch yng Nghymru.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071