Skip page header and navigation

Mae Caitlin Bollard, o Trealaw, Tonypandy, yn eiriolwr cadarnhaol dros deithio rhyngwladol ar ôl dychwelyd o brofiad trawsnewidiol o wirfoddoli a chyfnewid diwylliannol yn Fiji. 

Caitlin Bollard with Children in Fiji

Treuliodd Caitlin, sy’n astudio BA Rheolaeth Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), dair wythnos ar Brosiect Trochi Pentref Think Pacific, lle ymgollodd yn niwylliant Fiji, gweithiodd ochr yn ochr â sefydliadau lleol a byw gyda theulu lletyol mewn pentref anghysbell.

Gyda chefnogaeth cyllid gan y Drindod Dewi Sant drwy raglen symudedd ryngwladol Taith Llywodraeth Cymru, rhoddodd y profiad gyfle unigryw i Caitlin ddatblygu sgiliau proffesiynol wrth gael mewnwelediad uniongyrchol i ddiwylliant arall.

Wrth fyfyrio ar ei hamser yn Fiji, dywedodd Caitlin:

“Prif bwrpas fy mhrofiad yn Fiji oedd datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol trwy brofi diwylliant a ffordd wahanol o fyw. Roedd y profiad yn gyfle i ehangu fy safbwynt, datblygu sgiliau a fydd yn fy nghefnogi yn fy ngyrfa yn y diwydiant twristiaeth yn y dyfodol”.

I Catilin, a fydd yn graddio eleni, uchafbwynt ei phrofiad oedd cael ymgolli yn niwylliant Fiji lle treuliodd amser gyda theuluoedd yno. Roedd y profiad yn ei galluogi i gael cipolwg uniongyrchol ar eu bywyd bob dydd ac i ddeall diwylliant gwahanol, gan roi mwy o werthfawrogiad iddi o’i bywyd ei hun. Ond, yr hyn a wnaeth yr argraff fwyaf arni oedd y croeso cyfeillgar a’r caredigrwydd a ddangoswyd iddi. 

“Un o’r pethau mwyaf a ddysgais oedd nad yw hapusrwydd yn dod o gael llawer o eiddo materol neu bethau rydw i wedi arfer eu cael adref.  Gwelais pa mor hapus, cynhwysol a charedig oedd pawb gyda’i gilydd yn y pentref. Roedd gweld sut roedd pobl yn gwerthfawrogi amser gyda’i gilydd yn gwneud i mi fyfyrio ar yr hyn rwy’n ei ystyried yn bwysig yn fy mywyd fy hun.”

“Mae byw a gweithio ochr yn ochr â thrigolion lleol wedi fy helpu i ddod yn fwy hyderus wrth gyfathrebu â phobl o wahanol gefndiroedd diwylliannol. Dysgais bwysigrwydd parchu arferion lleol a deall y gall gwahaniaethau diwylliannol ddylanwadu ar sut mae pobl yn rhyngweithio ac yn gweithio gyda’i gilydd.”

Profodd y profiad rhyngwladol hefyd i fod yn gyfnod sylweddol o dwf personol. I Caitlin, roedd teithio’n annibynnol i’r ynysoedd yn y Môr Tawel yn gam mawr y tu allan i’w pharth cysur, gan ei helpu i ddod yn fwy hunan-ddibynnol ac addasadwy.

“Yr agwedd fwyaf gwerthfawr ar fy mhrofiad oedd dod yn fwy hyderus wrth deithio ar fy mhen fy hun a chredu ynof fy hun. Roedd teithio yr holl ffordd i Fiji yn gam enfawr allan o’r hyn roeddwn yn gyfarwydd ag e, yn enwedig bod mor bell i ffwrdd o gartref a gorfod addasu i ffordd o fyw ac amgylchedd newydd.

“Mae fy interniaeth wedi newid fy safbwynt ac wedi fy annog i fod yn fwy agored i gyfleoedd rhyngwladol yn y dyfodol y mae fy ngradd yn ei gynnig i mi, fel y cyfle i ymweld â Seland Newydd y flwyddyn nesaf.”

Mae Caitlin yn llawn canmoliaeth o’r gefnogaeth a gafodd gan y Drindod Dewi Sant a Think Pacific trwy gydol ei thaith, gan ddisgrifio’r profiad fel un a ehangodd ei gorwelion a’i helpu i ddarganfod mwy amdani ei hun.

Mae Caitlin yn annog myfyrwyr eraill y Drindod Dewi Sant i ystyried cymryd rhan mewn cyfleoedd symudedd rhyngwladol, gan dynnu sylw at y manteision personol, academaidd a phroffesiynol sy’n dod o brofi gwahanol ddiwylliannau a chymunedau ledled y byd. Dywedodd: “Er ei fod yn gallu ymddangos fel naid fawr a byddwch o bosib yn teimlo’n nerfus ac yn ansicr, byddwn yn annog unrhyw un i gymryd y cam cyntaf. Byddwch chi’n dod adref yn berson gwahanol ac yn diolch i chi’ch hun am fynd allan o’ch parth cysur.

“Mae’r profiad hwn wedi rhoi atgofion a phrofiadau i mi na fyddaf byth yn eu hanghofio ac, yn bwysicaf oll, wedi fy helpu i ddarganfod person hollol wahanol y tu mewn i mi.” 


Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 01267 676790

Rhannwch yr eitem newyddion hon