Rhaglen Twristiaeth a Digwyddiadau PCYDDS ar restr fer mewn dau gategori yn y Gwobrau Digwyddiadau Awyr Agored Cenedlaethol
Mae rhaglen Twristiaeth a Digwyddiadau Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi cyrraedd y rhestr fer mewn dau gategori yng Ngwobrau mawreddog y Gymdeithas Digwyddiadau Awyr Agored Genedlaethol (NOEA), gan nodi’r bedwaredd flwyddyn yn olynol y mae’r rhaglen wedi cael ei chydnabod ar y llwyfan cenedlaethol.
Ymhlith yr enwebiadau, mae PCYDDS unwaith eto wedi cyrraedd y rownd derfynol am y Cwrs Digwyddiadau Gorau i Fyfyrwyr, gwobr y mae’r Brifysgol wedi’i hennill dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae’r categori yn cynnwys cystadleuaeth gref gan nifer o brif sefydliadau’r Deyrnas Unedig, sy’n tanlinellu enw da parhaus y rhaglen am ragoriaeth ac ymgysylltu â’r diwydiant.
Mae digwyddiadau dan arweiniad myfyrwyr hefyd wedi ennill eu lle yn y rownd derfynol eleni, gan gynnwys Tu Hwnt i Ffiniau: Digwyddiad Arweinwyr Ifanc y Gymanwlad, House Party a Future You Cymru.
Enghraifft arbennig o nodedig yw llwyddiant Tu Hwnt i Ffiniau: Digwyddiad Arweinwyr Ifanc y Gymanwlad, a drefnwyd gan Angelika Jasnos, un o raddedigion y Drindod Dewi Sant ac Arweinydd Ifanc y Gymanwlad, sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y categori digwyddiad a’r categori Gwobr Creu Lleoedd.
Yn ystod y digwyddiad, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Dylan Thomas yn Abertawe, croesawyd 36 o Arweinwyr Ifanc y Gymanwlad o bob rhan o’r Gymanwlad i Gymru fel rhan o’u taith i Gastell Windsor ar gyfer rhaglen arweinyddiaeth flaenllaw Sefydliad Arweinyddiaeth y Gymanwlad. Daeth y digwyddiad ag arweinwyr, academyddion, ymarferwyr a siaradwyr rhyngwladol newydd ynghyd i archwilio’r thema “Tu Hwnt i Ffiniau: Pobl, Lle a Phwrpas,” gan arddangos Cymru ar lwyfan byd-eang wrth dynnu sylw at Abertawe fel cyrchfan ar gyfer digwyddiadau rhyngwladol a datblygu arweinyddiaeth.
Fe wnaeth Angelika, a raddiodd o raglen Rheoli Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol PCYDDS ym mis Gorffennaf, drefnu’r digwyddiad fel rhan o’i rôl fel Arweinydd Ifanc y Gymanwlad. Mae ei llwyddiant yn PCYDDS eisoes wedi troi’n yrfa broffesiynol ffyniannus. Yn ddiweddar, mae hi wedi sicrhau swydd fel Cydlynydd Cynadleddau a Gweithiwr Proffesiynol Profiadau Mynychwyr gyda chwmni rheoli cynadleddau rhyngwladol, lle mae’n gweithio o fewn ei dîm digwyddiadau Ewropeaidd.
Mae’r gydnabyddiaeth ddeuol ar gyfer Tu Hwnt i Ffiniau yn adlewyrchu ansawdd y digwyddiad a’i effaith ehangach wrth hyrwyddo Abertawe a Chymru drwy gydweithredu rhyngwladol, cyfnewid diwylliannol, a datblygu arweinyddiaeth.
Fe wnaeth cynhadledd Future You Cymru hefyd dorri’r record presenoldeb, gan ddenu 670 o gynrychiolwyr. Trefnwyd y digwyddiad gan chwech o fyfyrwyr Twristiaeth a Digwyddiadau Lefel 6 PCYDDS: Simon Canby, Carys Davies, Wiktoria Kukirska, Charlie McDonald, Nia Moores ac Elijah Thomas. Mae llwyddiant y gynhadledd yn dangos gallu myfyrwyr i gynllunio a chyflwyno digwyddiadau ar raddfa fawr wrth ennill profiad ymarferol gwerthfawr fel rhan o’u hastudiaethau.
Cafodd House Party, digwyddiad arall a arweiniwyd gan fyfyrwyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, ei drefnu a’i gyflwyno gan Arena Cymdeithas Adeiladu Abertawe mewn partneriaeth â myfyrwyr Lefel 4 PCYDDS. Cododd y digwyddiad arian ar gyfer Music Venue Trust a lleoliadau cymunedol ledled De Cymru, gan ddangos sut y gall cydweithio rhwng myfyrwyr a phartneriaid ym myd diwydiant gefnogi’r sector cerddoriaeth a digwyddiadau ehangach.
Yn ogystal, mae James Morgan, Cynhyrchydd Dysgu yn Arena Cymdeithas Adeiladu Abertawe, wedi cael ei gydnabod yn rownd derfynol y categori Gwobr Arwr Tawel. Trwy bartneriaeth academaidd PCYDDS â’r Arena, mae James wedi chwarae rhan ganolog wrth ddarparu hyfforddiant a chyfleoedd datblygu proffesiynol sy’n canolbwyntio ar y diwydiant, gan helpu myfyrwyr i ennill sgiliau ymarferol a phrofiad gwerthfawr mewn amgylcheddau digwyddiadau byw.
Mae’r enwebiadau yn adlewyrchu ymroddiad staff, myfyrwyr a phartneriaid ym myd diwydiant sy’n parhau i gyflawni prosiectau arloesol a darparu profiadau dysgu gwerthfawr yn y byd go iawn i fyfyrwyr.
Mae Gwobrau NOEA yn dathlu arfer gorau ac arloesedd ar draws y diwydiant digwyddiadau awyr agored a byw yn y Deyrnas Unedig. Bydd y seremoni wobrwyo’n cael ei chynnal yn y Pump Rooms hanesyddol yng Nghaerfaddon ar 25 Tachwedd.
Meddai Jacqui Jones, Rheolwr Rhaglen y cyrsiau Rheolaeth Teithio, Twristiaeth, Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol:
“Mae cyrraedd y rhestr fer mewn dau gategori yng Ngwobrau NOEA yn anrhydedd aruthrol ac yn dyst i dalent, ymrwymiad a chreadigrwydd ein myfyrwyr, staff a phartneriaid yn y diwydiant.
“Mae cael cydnabyddiaeth yn genedlaethol am y bedwaredd flwyddyn yn olynol yn dangos cryfder ein rhaglen a’r cyfleoedd rhagorol rydyn ni’n eu darparu i fyfyrwyr i gael profiad o ddigwyddiadau yn y byd go iawn. Mae cyflawniadau Angelika yn enghraifft berffaith o’r hyn y gellir ei gyflawni trwy waith caled, uchelgais, ac ymgysylltu â’r diwydiant. Mae gweld digwyddiad a drefnwyd ganddi hi yn denu arweinwyr ifanc o bob rhan o’r Gymanwlad i Abertawe, tra hefyd yn lansio gyrfa gyffrous ym maes digwyddiadau rhyngwladol, yn rhywbeth yr ydym yn hynod falch ohono.”
Mae’r enwebiadau’n atgyfnerthu enw da PCYDDS ymhellach am addysg Twristiaeth a Digwyddiadau, gan gyfuno rhagoriaeth academaidd â phrofiad ymarferol yn y diwydiant i baratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus ar draws y sector economi ymwelwyr a’r sector digwyddiadau.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071