Skip page header and navigation

Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol (DipAU)

Abertawe
2 Blynedd Llawn amser
80 o Bwyntiau UCAS

Datblygwyd y rhaglen Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol er mwyn rhoi cyfle i fyfyrwyr archwilio achosion, canlyniadau ac ymateb i droseddau. Bydd yr astudiaethau’n caniatáu i fyfyrwyr archwilio sawl agwedd ar droseddolrwydd, o droseddau ieuenctid, troseddau difrifol a chyfundrefnol, trosedd a bregusrwydd a’r effaith y gall rhaniadau cymdeithasol amrywiol eu cael ar ymddygiad troseddol.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
CCJ5
Hyd y cwrs:
2 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
80 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa yn y system cyfiawnder cyfreithiol neu’r rhai sydd â diddordeb mewn gweithio yn y sector cyhoeddus neu’r system cyfiawnder troseddol.
02
Mae'r cwrs wedi datblygu cysylltiadau cryf gyda sefydliadau lleol i ganiatáu profiad gwaith perthnasol a phroffesiynol gan roi'r sylfaen gorau posibl i'n graddedigion wrth iddynt fynd o'r byd academaidd i'r byd gwaith.
03
Mae tîm y cwrs yn gweithredu polisi drws agored sy'n darparu amgylchedd cyfeillgar ac agored i fyfyrwyr ddysgu a datblygu.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Bydd y rhaglen arfaethedig yn denu myfyrwyr sydd â diddordeb mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol gan ei bod yn ceisio helpu i baratoi myfyrwyr ar gyfer ymuno â’r proffesiynau cyfiawnder troseddol ehangach fel y gwasanaeth prawf, y gwasanaeth carchardai, a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder.​

Gorfodol 

Paratoi ar gyfer Cyflogaeth

(20 credydau)

Cyflwyniad i Droseddeg

(20 credydau)

Pobl ifanc, Gangiau a Throseddu Difrifol

(20 credyd)

Camddefnyddio Sylweddau a Throseddolrwydd

(20 credyd)

Proses Gyfreithiol

(20 credydau)

Sgiliau Astudio

(20 credydau)

Gorfodol 

Deall Trosedd, Cyfiawnder a Chosb

(20 credydau)

Paratoi ar gyfer Ymchwil Troseddegol

(20 credydau)

Yr Heddlu, Plismona a Chymdeithas

(20 credydau)

Cynhwysiant Cymdeithasol, Erledigaeth a Lles

(20 credydau)

Gwirfoddoli: Y Porth i Gyflogaeth

(20 Credydau)

Adsefydlu Troseddwyr

(20 credyd)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • 80 Pwynt UCAS

  • Bydd y cwrs yn cael ei asesu trwy gymysgedd o waith cwrs ysgrifenedig, gwaith prosiect, cyflwyniadau ac arholiadau.

  • .

  • Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau.

  • .

Mwy o gyrsiau Y Gyfraith, Troseddeg a Phlismona

Chwiliwch am gyrsiau