Skip page header and navigation

Ymchwilio Proffesiynol (BSc Anrh)

Dysgu o Bell
2 Blynedd Rhan Amser
32 o Bwyntiau UCAS

Gyda phrinder cenedlaethol o dditectifs yng ngwasanaeth yr heddlu, mae problemau sylweddol o ran gwytnwch a chynnal y garfan bresennol. Mae ymchwilwyr yr heddlu yn astudio cymwysterau o fewn yr heddlu sy’n ymwneud ag ymchwilio, sef y Rhaglen Proffesiynoli Ymchwiliadau (PIP).

Mae cymwysterau lefel 1 a 2 PIP a’r dysgu seiliedig ar waith sy’n sail i’r cwrs, a oedd yn ofynnol ochr yn ochr â’r dyfarniadau PIP yn cynrychioli lefelau 4 a 5 y cwrs BSc. Byddai myfyrwyr sy’n meddu ar achrediad PIP2 yn dilyn proses cydnabod dysgu blaenorol (RPCL) ac yna’n cychwyn ar y flwyddyn olaf (lefel 6) i ennill gradd BSc Ymchwilio Proffesiynol.

Mae’r dull seiliedig ar waith lefel 6 yn annog canolbwyntio ar faes sydd o ddiddordeb, gan gynhyrchu astudiaeth ymchwil wrth fyfyrio’n feirniadol ar sgiliau a strategaethau ymchwilio. Mae tri modiwl 40 credyd, dau ohonynt yn fodiwlau dysgu seiliedig ar waith a’r trydydd yn fodiwl a addysgir.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Dysgu o bell
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
Hyd y cwrs:
2 Blynedd Rhan Amser
Gofynion mynediad:
32 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae gan ymchwilwyr sy’n meddu ar achrediad PIP 1 a 2 brofiad sylweddol ac maen nhw’n debygol o fod yn delio â throseddoldeb cymhleth a difrifol bob dydd.
02
Mae'r rhaglen hon, trwy gydnabod achrediad mewn swydd PIP 1 a 2 a hefyd y profiad sydd wedi’i ennill wrth weithio mewn rôl ymchwiliol, yn caniatáu i fyfyrwyr gychwyn ar lefel 6 ac ennill gradd BSc (Anrh) mewn 15 mis.​
03
Mae’r dull seiliedig ar waith lefel 6 yn caniatáu canolbwyntio ar faes sydd o ddiddordeb, gan gynhyrchu astudiaeth ymchwil tra’n myfyrio’n feirniadol ar sgiliau a strategaethau ymchwilio.
04
Y cyfle i ymgymryd ag o leiaf dwy interniaeth yn ystod y rhaglen dair blynedd.
05
Darlithwyr gwadd sy’n ymwneud ag arfer.
06
Cyfleoedd i archwilio damcaniaeth ac arfer ar waith drwy leoliad a chyfleoedd i wirfoddoli.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae myfyrwyr yn cychwyn ar lefel 6 ac yna trwy ddull seiliedig ar waith yn canolbwyntio ar faes o ddiddordeb, gan gynhyrchu astudiaeth ymchwil tra’n myfyrio’n feirniadol ar sgiliau a strategaethau ymchwilio.​ Mae tri modiwl 40 credyd, dau ohonynt yn fodiwlau dysgu seiliedig ar waith a’r trydydd yn fodiwl a addysgir.

Mae’r dull astudio yn gyfuniad  o ddarpariaeth ar y campws ac ar-lein.

Mae 6 diwrnod cyswllt.

Semester 1

(tua 22 wythnos)

Gweithio Amlasiantaeth: Polisi ar Waith

(20 credydau)

Gweithredu, Grymuso ac Arfer Gwrth-ormesol

(20 credydau)

Semester 2

(tua 22 wythnos)

Ymchwiliad yn y Gweithle

(40 credydau)

Semester 1 a 2 ynghyd â thua 6 wythnos o’r ail flwyddyn.

Arfer Ymchwilio Proffesiynol

(40 credydau)

Course Page Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Rhaid bod myfyrwyr wedi cyflawni lefel 1 a 2 y Rhaglen Proffesiynoli Ymchwiliadau (PIP).

  • Mae amrywiaeth o ddulliau crynodol yn cael eu defnyddio. Nid yw arholiadau’n cael eu defnyddio yn y rhaglenni oherwydd bod ffocws yr asesu ar ddysgu seiliedig ar waith ac adlewyrchu theori ar waith. Gwaith cwrs yw’r brif strategaeth asesu gan ei fod yn hwyluso asesu sy’n cyfuno gwybodaeth a dealltwriaeth, sgiliau gwybyddol, sgiliau ymarferol a sgiliau allweddol gan ddefnyddio dulliau sy’n briodol ar gyfer lefel yr astudiaeth a gofynion y gweithle.​

    Mae’r tri modiwl yn cael eu hasesu’n bennaf trwy bortffolios o dystiolaeth ynghyd â phrosiect mawr, sy’n profi gwybodaeth, dealltwriaeth, sgiliau gwybyddol a’r sgiliau ymarferol ac allweddol (trosglwyddadwy) sy’n adlewyrchu’r sgiliau y bydd y dysgwyr yn eu defnyddio yn eu swyddi. ​

  • Nid oes unrhyw gostau ychwanegol yn gysylltiedig â’r rhaglen hon, er y byddai disgwyl i fyfyrwyr gael mynediad at offer TG a byddai’n rhaid iddynt dalu eu costau teithio eu hunain i gyrraedd y campws.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r dull seiliedig ar waith lefel 6 yn caniatáu canolbwyntio ar faes o ddiddordeb, gan gynhyrchu astudiaeth ymchwil tra’n myfyrio’n feirniadol ar sgiliau a strategaethau ymchwilio.

    Mae hyn yn dangos y gallu i weithio’n annibynnol, myfyrio’n feirniadol a gweithredu’n strategol trwy gwblhau astudiaeth ymchwil a chyfrannu at anghenion y sefydliad.

    Mae’r sgiliau sy’n cael eu meithrin yn ystod y rhaglen 15 mis yn drosglwyddadwy o fewn y sefydliad ac yn cael eu cydnabod hefyd gan gyflogwyr eraill.

Mwy o gyrsiau Y Gyfraith, Troseddeg a Phlismona

Chwiliwch am gyrsiau