Y Gyfraith (Llawn amser) (CertHE)
Bydd y cwrs hon yn rhoi cyfle i chi astudio meysydd sylfaenol y gyfraith, ochr yn ochr â meysydd allweddol eraill y gyfraith, gan roi dealltwriaeth ehangach o’r pwnc.
Trwy eich astudiaethau, byddwch yn datblygu dealltwriaeth fanwl o’r gyfraith, Proses Gyfreithiol, Cyfraith Contract, Trosedd, Camwedd, Cyflogaeth a Chontract Busnes.
Byddwch yn gwella’ch gallu i gymryd rhan mewn astudiaeth academaidd feirniadol ac ymchwil trwy brosiect ymchwil cyfreithiol a thraethawd hir, gan eich helpu i ddatblygu’r sgiliau proffesiynol ac adfyfyriol sy’n angenrheidiol ar gyfer ymarfer.
Mae’r cwrs yn rhoi cyfle i chi ennill gwybodaeth a sgiliau cyfreithiol ar gyfer ymarfer cyfreithiol ac ymuno â’r system cyfiawnder cyfreithiol ehangach, fel y Weinyddiaeth Gyfiawnder, adran gyfreithiol fewnol o fewn sefydliad a’r Gwasanaeth Sifil. Mae tîm y rhaglen wedi bod yn gweithio gyda’r sefydliadau hyn i sicrhau bod y modylau a astudir yn briodol ac yn canolbwyntio ar y proffesiwn.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Cyfunol (ar y campws)
- Llawn amser
- Saesneg
Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Byddwch yn gwella’ch gallu i gymryd rhan mewn astudiaeth academaidd feirniadol ac ymchwil trwy sgiliau ymchwil cyfreithiol, ymchwil cyfreithiol a thraethawd hir, gan eich helpu i ddatblygu’r sgiliau proffesiynol ac adfyfyriol sy’n angenrheidiol ar gyfer ymarfer.
Mae’r LLB yn rhoi cyfle i chi ennill gwybodaeth a sgiliau cyfreithiol ar gyfer ymarfer cyfreithiol ac ymuno â’r system cyfiawnder cyfreithiol ehangach, fel y Weinyddiaeth Gyfiawnder, adran gyfreithiol fewnol o fewn sefydliad a’r Gwasanaeth Sifil. Mae tîm y rhaglen wedi bod yn gweithio gyda’r sefydliadau hyn i sicrhau bod y modylau a astudir yn briodol ac â ffocws proffesiynol.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credyd)
(20 credydau)
Course Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Abertawe
Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.
Gwybodaeth allweddol
-
40 pwynt UCAS neu gyfwerth.
-
Asesir y cwrs trwy gymysgedd o waith cwrs ysgrifenedig, efelychiadau, llyfrau gwaith, cyflwyniadau ac arholiadau. Mae pob modwl yn 20 credyd.
-
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.
Efallai y bydd myfyrwyr am brynu gwerslyfrau ar gyfer modylau, megis y Prosiect Ymchwil, ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni fydd yn effeithio ar y radd derfynol.
Efallai y bydd teithiau maes dewisol hefyd a allai olygu rhai costau.
-
Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau.
-
Mae tîm y cwrs wedi datblygu cysylltiadau agos iawn â nifer o sefydliadau proffesiynol yn y sector cyhoeddus a meysydd y gwasanaethau cyfreithiol. Mae hyn wedi caniatáu ymgynghori agos ar ddatblygu cynnwys y cwrs ac argaeledd cyfleoedd profiad gwaith unigryw.
Mae’r cwrs yn gweithio’n agos â sefydliadau eraill yn y sector Cyhoeddus, a byddai’r cyfuniad o ddealltwriaeth a gwybodaeth am y sector cyfreithiol a chyhoeddus yn cael ei ystyried yn fanteisiol i’r proffesiynau Cyfiawnder cyfreithiol ehangach.
Mae’r tîm wedi datblygu perthynas agos â chwmnïau a sefydliadau cyfreithiol lleol ac yn datblygu cyfleoedd profiad gwaith a fyddai o fudd i’r myfyrwyr pe baent yn dewis parhau i astudiaethau cyfiawnder cyfreithiol pellach.