Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol (Rhan amser) (CertHE)
Datblygwyd y rhaglen Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol er mwyn rhoi cyfle i fyfyrwyr archwilio achosion, canlyniadau ac ymateb i droseddau. Bydd yr astudiaethau’n caniatáu i fyfyrwyr archwilio sawl agwedd ar droseddolrwydd, o droseddau ieuenctid, troseddau difrifol a chyfundrefnol, trosedd a bregusrwydd a’r effaith y gall rhaniadau cymdeithasol amrywiol eu cael ar ymddygiad troseddol.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Rhan amser
- Saesneg
Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd y rhaglen arfaethedig yn denu myfyrwyr sydd â diddordeb mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol gan ei bod yn ceisio helpu i baratoi myfyrwyr ar gyfer ymuno â’r proffesiynau cyfiawnder troseddol ehangach fel y gwasanaeth prawf, y gwasanaeth carchardai, a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credyd)
(20 credydau)
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credyd)
Course Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Abertawe
Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.
Gwybodaeth allweddol
-
32 Pwynt UCAS
-
Bydd y cwrs yn cael ei asesu trwy gymysgedd o waith cwrs ysgrifenedig, gwaith prosiect, cyflwyniadau ac arholiadau.
-
.
-
Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau.
-
.