Skip page header and navigation

Plismona Proffesiynol (Llawn amser) (BSc Anrh)

Abertawe
3 Blynedd Llawn amser
96 o Bwyntiau UCAS

Nod ein cwrs gradd Plismona Proffesiynol yw datblygu gallu myfyrwyr mewn ystod eang o sefyllfaoedd, cyd-destunau a safonau proffesiynol plismona trwy ddysgu a datblygu gan wella gallu cwnstabl yr heddlu i berfformio’n effeithiol mewn meysydd allweddol penodol sy’n ymwneud â chyfrifoldebau plismona proffesiynol. Bydd eich datblygiad a’r hyn yr ydych yn ei ddysgu yn benodol ac yn uniongyrchol berthnasol i berfformiad a gweithredu proffesiynol ym meysydd craidd plismona. 

Bydd myfyrwyr ar y cwrs BSc Plismona Proffesiynol yn dysgu am brosesau gwleidyddol a chymdeithasol erledigaeth a throseddoli wrth ystyried damcaniaethau troseddegol, ac amrywiaeth ac anghydraddoldeb cymdeithasol a’u heffaith mewn perthynas â throsedd, erledigaeth ac ymatebion i droseddau a gwyredd. 

Byddwch yn cael eich cyflwyno i broblemau cymdeithasol cymhleth sy’n ymwneud â throsedd, dosbarth, ac erledigaeth a chewch ddysgu am yr ymatebion i drosedd a gwyredd, gan ddatblygu’r sgiliau i adnabod cryfderau a gwendidau’r defnydd o gymhariaeth mewn perthynas â throseddu, erledigaeth ac ymatebion i droseddu a gwyredd. 

Byddwch yn ymchwilio i strategaethau a dulliau amrywiol ac yn gwerthuso pa mor briodol yw’r defnydd ohonynt. Byddwch hefyd yn cael eich cyflwyno i arferion asiantaethau cyfiawnder troseddol a datblygiadau o ran newid mewn gwerthoedd a pherthnasoedd rhwng unigolion, grwpiau, ac asiantaethau cyhoeddus a phreifat mewn gwahanol leoliadau. 

Gradd mewn plismona proffesiynol sy’n seiliedig ar wybodaeth yw hon. Mae’r cwrs gradd yn addas i fyfyrwyr ei gwblhau cyn iddynt ymuno â’r heddlu a chyn mynd drwy broses recriwtio ffurfiol. 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Cyfunol (ar y campws)
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
PPO1
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
96 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Mae'r rhaglen hon yn amodol ar ailddilysu.

Pam dewis y cwrs hwn

01
Gradd mewn plismona proffesiynol sy’n seiliedig ar wybodaeth yw hon. Mae’r cwrs gradd yn addas i fyfyrwyr ei gwblhau cyn iddynt ymuno â’r heddlu a chyn mynd drwy broses recriwtio ffurfiol.
02
Bydd strategaethau dysgu sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr yn cael eu defnyddio drwy gydol y rhaglen.
03
Mae'r Brifysgol yn cydweithio â Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Bydd strategaethau dysgu sy’n canolbwyntio ar y myfyrwyr yn cael eu defnyddio drwy gydol y rhaglen er mwyn sicrhau cydbwysedd rhwng agweddau theori ac arfer personol a chydweithredol. 

Mae disgwyl i fyfyrwyr fyfyrio’n feirniadol ar amrywiaeth o gyd-destunau ac achosion yn ymwneud â phlismona a gallu ymgorffori a rhoi gwybodaeth newydd ar waith mewn sefyllfaoedd newydd. 

Bydd myfyrwyr yn ffurfio cymuned ddysgu ac yn trafod a rheoli tasgau dysgu, ac yn cael profiad ymarferol o weithgareddau arfer plismona allweddol, gyda nifer ohonynt yn ymwneud â phroblemau ac achosion go iawn, yn y byd go iawn. 

Bydd myfyrwyr yn gyfrifol am ddewis pynciau cyfoes, ac weithiau dadleuol, o faes disgyblaeth arfer proffesiynol yr heddlu sy’n peri pryder i gymdeithas er mwyn ymestyn safbwyntiau myfyrwyr ac ystyriaethau ymchwil sy’n ymwneud â’r heddlu. Mae hyn yn  caniatáu i fyfyrwyr gymryd cyfrifoldeb am eu haddysg drwy roi cyfle iddynt ddewis meysydd sydd o ddiddordeb iddyn nhw wrth iddynt ddatblygu eu dysgu annibynnol a magu hyder wrth ffurfio dadleuon a mynegi safbwyntiau cryf.

Mae disgwyl i fyfyrwyr archwilio cysyniadau ac egwyddorion damcaniaethol gan ystyried ystod amrywiol o gyd-destunau cyfreithiol a phlismona. Bydd myfyrwyr yn mynd i’r afael yn feirniadol â safbwyntiau a chysyniadau athronyddol gwahanol sy’n sail i ymagweddau tuag at y maes pwnc. 

Gan ystyried dylanwadau a phrofiadau, bydd myfyrwyr yn llunio eu dadleuon eu hunain, gan ddefnyddio tystiolaeth sydd wedi’i dethol yn briodol ac wedi trafodaeth feirniadol gyda’u cyd-fyfyrwyr a’u tiwtoriaid.

Bydd dysgwyr yn cymryd rhan mewn ail-greu syniadau mewn gwahanol gyfryngau fel unigolion ac mewn cydweithrediad â’u cyd-fyfyrwyr a’u tiwtoriaid mewn grwpiau llai.

Plismona Ymatebol

(20 credydau)

Sgiliau Academaidd a Chyfathrebu ar gyfer Plismona

(20 Credits)

Plismona a Gwneud Penderfyniadau ar sail Tystiolaeth

(20 credydau)

Troseddau Sylfaenol

(20 Credydau)

Plismona a’r System Cyfiawnder Troseddol

(20 Credydau)

Deall rôl Cwnstabl

(20 Credydau)

Plismona Cymunedol ac yn y Gymdogaeth

(20 Credydau)

Troseddau Cymhleth

(20 Credydau)

Plismona Pobl Fregus a Grwpiau Risg

(20 Credydau)

Paratoi ar gyfer Ymchwil o fewn Plismona

(20 Credydau)

Plismona Cymru

(20 Credydau)

Plismona Ymatebol a Phlismona Ffyrdd

(20 Credydau)

Plismona Digidol a Gweithredol

(20 credydau)

Cynnal Ymchwiliadau Heddlu

(20 Credydau)

Amddiffyn y Cyhoedd a Gwrthderfysgaeth

(20 Credydau)

Paratoi ar gyfer Rôl Cwnstabl

(20 Credydau)

Prosiect Ymchwil Plismona

(40 Credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • 80 pwynt UCAS neu gyfwerth. 

  • Mae’r asesiadau wedi’u cynllunio ar y cyd gan dîm y rhaglen, i sicrhau eu bod yn ffurfio cyfanwaith cydlynol ac yn bodloni gofynion cwricwlwm Fframwaith Cymwysterau Addysg Plismona (PEQF) y Coleg Plismona ar gyfer y radd Plismona Proffesiynol Cyn Ymuno.

    Prif bwrpas y cynllun asesu yw galluogi myfyrwyr i ddangos yn unigol eu bod wedi bodloni nodau’r rhaglenni ac wedi cyflawni’r deilliannau dysgu i’r safon sy’n ofynnol ar gyfer lefel yr astudiaeth.  Bydd asesu hefyd yn cael ei ddefnyddio i roi adborth i fyfyrwyr i’w cynorthwyo gyda dysgu dilynol. 

    Bydd pob modiwl yn cael ei asesu’n grynodol drwy amrywiaeth o dasgau asesu unigol ond defnyddir dulliau ffurfiannol hefyd. Cynhelir asesiad ffurfiannol trwy ymarferion ymarferol sy’n cael eu cynnal a’u trafod yn y dosbarth, chwarae rôl, trafodaethau, cyflwyniadau gan fyfyrwyr a’r sesiynau sydd wedi’u neilltuo i adolygu’r arholiadau ar ôl iddynt gael eu marcio.

    Bydd amrywiaeth o ddulliau asesu crynodol yn cael eu defnyddio. Defnyddir arholiadau yn bennaf (ond nid yn unig) i brofi gwybodaeth a dealltwriaeth.

    Mae gwaith cwrs ac asesiadau ymarferol hefyd yn profi gwybodaeth a dealltwriaeth, ond maen nhw’n dueddol o ganolbwyntio mwy ar ddatblygu sgiliau gwybyddol, ymarferol ac allweddol. Mae dulliau o’r fath yn hynod briodol i natur y ddisgyblaeth blismona gan eu bod yn hwyluso asesu ac arfer dilys sy’n berthnasol i’r gweithle. Bydd gwaith cwrs a gwaith ymarferol yn cael eu gosod mewn amrywiaeth o ffurfiau; mae’r rhain yn cynnwys:

    • Traethodau
    • Adroddiadau
    • Portffolios
    • Prosiectau Ymchwil
    • Cyflwyniadau.
  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai y bydd myfyrwyr yn dymuno prynu gwerslyfrau ar gyfer modiwlau fel y Prosiect Annibynnol, ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni fydd yn cael unrhyw effaith ar y radd derfynol.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.

  • Fel darparwr cymeradwy, bydd heddluoedd yn gallu cydnabod y radd fel un sy’n addas i’r diben a bydd hynny o blaid y myfyrwyr wrth iddynt wrth wneud cais.

    Mae’r Brifysgol yn cydweithio â Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent. Yn hanesyddol, mae nifer o’n graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio gyda’r heddluoedd hyn oherwydd y cysylltiadau sydd wedi’u gwneud. O ganlyniad i’r cydweithio hwn, mae nifer o hyfforddwyr yr heddlu yn gweithio gyda’r tîm i gyflwyno arfer proffesiynol ychwanegol a darparu sesiynau ymarferol HYDRA i’r myfyrwyr.

    Mae’r rhaglen heddlu gwirfoddol sydd wedi’i chynnal rhwng PCYDDS a Heddlu De Cymru ers 2012 yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael profiad gwerthfawr o blismona ymarferol sydd hefyd yn gwella eu cyfleoedd wrth gamu ymlaen. 

Mwy o gyrsiau Y Gyfraith, Troseddeg a Phlismona

Chwiliwch am gyrsiau