Skip page header and navigation

Y Gyfraith a Throseddeg (Llawn amser) (BA Anrh)

Abertawe
3 Blynedd Llawn amser
96 o Bwyntiau UCAS

Nod y rhaglen hon yw datblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o Gyfundrefn Gyfreithiol Lloegr, meysydd allweddol o fewn y cyfundrefnau hyn a Sylfeini Gwybodaeth Gyfreithiol yn benodol. Cewch baratoi ar gyfer gyrfa yng nghyd-destun y gyfraith a throseddeg trwy ddatblygu sgiliau proffesiynol a sgiliau deallusol, gan gynnwys meddwl yn feirniadol, datrys problemau cymhleth, creadigrwydd a myfyrio.

Byddwch yn datblygu gwybodaeth systematig a dealltwriaeth feirniadol o’r sefydliadau, yr arferion, y polisïau a’r prosesau’n ymwneud â’r gyfraith, cyfiawnder a chosb sy’n esblygu mewn ymateb i droseddau a sut mae’r rhain wedi datblygu.

Bydd y radd hon yn rhoi sylfeini’r gyfraith i chi ochr yn ochr â disgyblaeth arall, gan fod cwmnïau cyfreithiol yn ei gwneud yn ofynnol i raddedigion feddu ar ddealltwriaeth ehangach o’r byd y maent yn gweithredu ynddo, ac rydym am roi gwybodaeth a dealltwriaeth o ddisgyblaeth arall i chi er mwyn ehangu eich opsiynau cyflogaeth. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol os ydych yn dymuno dilyn gyrfa yn y system cyfiawnder troseddol ehangach, fel yr heddlu, carchardai, y gwasanaeth prawf a chyfiawnder ieuenctid.

Mae’r cwrs hefyd yn anelu at wella eich sgiliau trosglwyddadwy, sef ymchwil, dehongli, gwerthuso beirniadol a’ch gallu i roi theori ar waith.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
861G
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
96 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa yn y system cyfiawnder cyfreithiol neu'r rhai sydd â diddordeb mewn gweithio yn y sector cyhoeddus, er enghraifft, yr Heddlu.
02
Mae'r cwrs wedi datblygu cysylltiadau cryf â sefydliadau lleol i ganiatáu profiad gwaith perthnasol a phroffesiynol, gan roi ein graddedigion yn y sefyllfa orau bosibl i neidio o'r byd academaidd i'r byd gwaith.
03
Bydd rhai o'r cyfleoedd gwaith gwirfoddol sydd wedi'u datblygu yn caniatáu i fyfyrwyr chwarae rhan hanfodol mewn amgylchedd gwaith proffesiynol a bydd yn rhoi cipolwg clir a manwl iddynt ar y proffesiwn.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r cwrs yn cyfuno astudiaeth o Droseddeg lle bydd y myfyrwyr yn astudio trosedd, pam fod pobl yn troseddu, beth sy’n atal pobl rhag troseddu, plismona trosedd a’r system gosb gyfreithiol, gan ddysgu hanfodion egwyddorion cyfreithiol megis Contract, Camwedd Cyhoeddus, Eiddo, a Chyfraith Droseddol.

Mae’r cwrs yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ddilyn amrywiaeth o broffesiynau gwahanol yn y system cyfiawnder cyfreithiol, er enghraifft mae’r modwl plismona gweithredol yn ymgorffori’r Dystysgrif mewn Gwybodaeth o Blismona (CKP), cymhwyster lefel 3 sy’n ofyniad mynediad ar gyfer sawl Heddlu yn y DU ar hyn o bryd.

Gorfodol 

Sgiliau Astudio

(10 credydau)

Cyfraith Droseddol

(20 credydau)

Proses Gyfreithiol

(20 credydau)

Cyfraith Gyhoeddus

(20 credydau)

Dynameg Ymddygiad

(20 credydau)

Paratoi ar gyfer Cyflogaeth

(20 credydau)

Gorfodol 

Cyfraith ac Ymarfer Teulu

(20 credydau)

Cyfraith Contract

( credydau)

Cyfraith Camwedd

(20 credydau)

Deall Trosedd, Cyfiawnder a Chosb

(20 credydau)

Paratoi ar gyfer Ymchwil Troseddegol

(20 credydau)

Gorfodol 

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Trosedd a Bregusrwydd

(20 credydau)

Rhywedd, Hil, Crefydd a Throsedd

(20 credydau)

Ecwiti ac Ymddiriedolaethau

(20 credydau)

Cyfraith Eiddo

(20 credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • 80 Pwynt UCAS

  • Asesir y cwrs trwy gymysgedd o waith cwrs ysgrifenedig ac arholiadau. Mae pob modwl yn werth 20 credyd a fyddai’n cyfateb i ddau asesiad fesul modwl gyda’r hyn sydd gyfwerth ag aseiniad 2,000 o eiriau neu arholiad fesul 10 credyd.

  • Nid oes gan y cwrs hwn unrhyw gostau ychwanegol.

  • Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau.

  • Mae tîm y cwrs wedi datblygu cysylltiadau agos iawn â nifer o sefydliadau proffesiynol yn y sector cyhoeddus a meysydd y gwasanaethau cyfreithiol. Mae hyn wedi caniatáu ymgynghori agos ar ddatblygu cynnwys y cwrs ac argaeledd cyfleoedd profiad gwaith unigryw.

    I’r myfyrwyr hynny sy’n dymuno dilyn gyrfa gyda’r Heddlu, mae’r cwrs yn gweithio’n agos gyda Heddlu De Cymru a Heddlu Dyfed Powys ac wedi datblygu rhaglen waith gwirfoddol i’r myfyrwyr gael profiad gwerthfawr a chipolwg ar y proffesiwn.

    Mae’r cwrs yn cynnwys yr opsiwn o Blismona Gweithredol sy’n ymgorffori’r Dystysgrif Gwybodaeth o Blismona (CKP).

    Erbyn hyn, mae cael CKP yn ofyniad hanfodol gan sawl Heddlu cyn ymgeisio.

    Bydd hyn yn rhoi’r myfyrwyr mewn sefyllfa fwy manteisiol i gael cyflogaeth yn eu dewis broffesiwn.

    Mae’r cwrs yn rhoi cyfle da i fyfyrwyr a fyddai â diddordeb yn y llwybr Carlam i’r Heddlu.

    Mae’r cwrs yn gweithio’n agos â sefydliadau eraill yn y sector Cyhoeddus, y mae gan bob un ohonynt adrannau cyfreithiol, a byddai’r cyfuniad o ddealltwriaeth a gwybodaeth am y sector cyhoeddus a chyfreithiol yn cael ei ystyried yn fantais ar gyfer swydd o’r fath.

    Mae’r tîm wedi datblygu perthynas agos â chwmnïau cyfreithiol lleol ac yn datblygu cyfleoedd profiad gwaith a fyddai o fudd i’r myfyrwyr pe baent yn dewis parhau i astudiaethau cyfreithiol pellach.

Mwy o gyrsiau Y Gyfraith, Troseddeg a Phlismona

Chwiliwch am gyrsiau