Skip page header and navigation

Astudiaethau Caethwasiaeth Fodern (Rhan amser) (MA)

Dysgu o Bell
3 Blynedd Rhan amser

Mae caethwasiaeth fodern yn drosedd sy’n effeithio ar yr hyn a amcangyfrifir yn 45 miliwn o bobl ar draws y byd. Y nod yw darparu cyfres o raglenni a fydd yn cyfuno’r sgiliau, y pwerau a’r profiad iawn i fodloni gofynion heriol atal caethwasiaeth.

Wrth i rôl y gweithlu atal caethwasiaeth gael ei hymgorffori ymhellach yn sefydliadau’r sector cyhoeddus a phreifat, mae angen sicrhau bod datblygiad proffesiynol parhaus ar gael sy’n cael ei achredu’n academaidd ac sy’n cydnabod y sgiliau a’r adnabyddiaeth o bobl sydd eu hangen ar y rôl. Mae’r portffolio MA hwn o raglenni yn darparu’r llwybr DPP achrededig hwn.  

Mae’r rhaglenni wedi’u datblygu mewn cysylltiad agos a chyson ag aelodau Grŵp Arwain Atal Caethwasiaeth Cymru. Mae’r rhaglen gychwynnol, Tystysgrif y Brifysgol, sy’n werth 40 credyd Lefel 7, yn cydnabod pwysigrwydd a chymhlethdod rôl y rheini sy’n gweithio o fewn adrannau caethwasiaeth fodern ac yn ei phroffesiynoli ymhellach.

Ar ôl cwblhau Tystysgrif y Brifysgol yn llwyddiannus mae cyfle i ddysgwyr ychwanegu at y dyfarniad hwn drwy astudio modwl 20 credyd pellach i gyflawni Tystysgrif Ôl-raddedig. Wedi hynny, gellir defnyddio’r credydau a gyflawnir i fynd ymlaen i Ddiploma Ôl-raddedig neu MA.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Dysgu o bell
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Rhan amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae buddion eglur gan y rhaglenni hyn i’r unigolyn ac i sefydliadau cyhoeddus, preifat ac nid-er-elw ehangach.
02
I’r unigolyn mae’n cydnabod ac yn adeiladu ar ei gymhwysedd a’i arfer proffesiynol drwy ddarparu rhaglen o ddatblygiad proffesiynol parhaus sy’n briodol, yn ddefnyddiol ac â ffocws.
03
I’r sefydliadau, bydd yn helpu i ddatblygu ymchwil academaidd a chan ymarferwyr ac felly gorpws o wybodaeth a fydd yn cyfoethogi cyfraniad mecanweithiau i wrthsefyll caethwasiaeth fodern er lles cymdeithasol ac yn asesu’r mecanweithiau hynny.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r rhaglenni’n defnyddio dull dysgu cyfunol gan alluogi dysgwyr seiliedig ar waith i gwblhau llawer o’r rhaglen ar-lein o bell, a chan ddarparu’r hyblygrwydd mae ei angen arnynt i ymdopi â gwaith ac astudio.

Fodd bynnag, mae digwyddiadau blynyddol wyneb yn wyneb yn caniatáu i ddysgwyr gyfuno’r dysgu cyfredol a’i ddatblygu ymhellach.  

Cynigir y rhaglenni mewn talpiau bach dilynol o ddysgu (Tystysgrif y Brifysgol, Tystysgrif Ôl-raddedig, Diploma Ôl-raddedig ac MA), gan gynnig cyfle i ddysgwyr symud ymlaen drwy’r dyfarniadau amrywiol, gan ymgymryd â gwerth rhwng 40 a 180 o gredydau o DPP. Bydd y modylau’n cynnwys dosbarthiadau meistr gan ymarferwyr cyfredol yn y maes.

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Gradd (2:2) neu brofiad proffesiynol perthnasol.

  • Defnyddir dulliau asesu ffurfiannol a chrynodol ac maent yn amrywiol, yn gyfoes a phan fo’n bosibl yn gysylltiedig ag arfer proffesiynol.

    Defnyddir asesu ffurfiannol yn helaeth gydol y rhaglenni i baratoi myfyrwyr am yr asesu crynodol; cyflawnir hyn drwy ymarferion ymarferol a gwblheir ar-lein a/neu a drafodir mewn sesiynau a amserlennir e.e. astudiaethau achos, gwaith ymarferol a chyflwyniadau gan ddysgwyr. Asesir pob modwl yn grynodol drwy dasgau asesu unigol sy’n rhoi adborth ar berfformiad dysgwr ar gyfer y modwl ond sy’n cynnwys cyfarwyddyd blaen-borth i gefnogi dysgwyr mewn modylau/dysgu dilynol.

    Defnyddir ystod o ddulliau crynodol. Ni ddefnyddir arholiadau yn y rhaglenni am fod ffocws yr asesu ar ymarfer gweithgareddau a gyflawnir yn nodweddiadol o fewn sefyllfa atal caethwasiaeth. Gwaith cwrs a gwaith ymarferol yw’r prif strategaethau asesu am eu bod yn hwyluso asesu sy’n cyfuno gwybodaeth a dealltwriaeth, sgiliau gwybyddol, ymarferol ac allweddol gan ddefnyddio dulliau sy’n briodol i’r lefel astudio ac i ofynion y gweithle. Mae’r asesu’n cynnwys aseiniadau ysgrifenedig, adroddiadau, cyflwyniadau a chynlluniau sy’n profi gwybodaeth, dealltwriaeth, sgiliau gwybyddol a’r sgiliau ymarferol ac allweddol (trosglwyddadwy) sy’n adlewyrchu’r sgiliau y bydd y dysgwyr yn eu defnyddio yn rôl eu swydd.

  • Nid oes costau ychwanegol yn gysylltiedig â’r rhaglen hon, er byddai disgwyl i fyfyrwyr fod â mynediad at offer TG a byddai’n rhaid iddynt dalu am eu costau teithio eu hun i’r campws.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Un o bryderon Grŵp Arwain Caethwasiaeth Fodern Cymru yw bod cyfle cyfyngedig i weithwyr atal caethwasiaeth proffesiynol yng Nghymru a’r DG ennill cymwysterau galwedigaethol ac academaidd yn y maes cymhleth iawn hwn o droseddu difrifol a chyfundrefnol.

    Y nod yw darparu cyfres o raglenni a fydd yn cyfuno’r sgiliau, y pwerau a’r profiad iawn i fodloni gofynion heriol atal caethwasiaeth. Wrth i rôl y gweithlu atal caethwasiaeth gael ei hymgorffori ymhellach yn sefydliadau’r sector cyhoeddus a phreifat, mae angen sicrhau bod datblygiad proffesiynol parhaus ar gael sy’n cael ei achredu’n academaidd ac sy’n cydnabod y sgiliau a’r adnabyddiaeth o bobl sydd eu hangen ar y rôl. Mae’r portffolio MA hwn o raglenni yn darparu’r llwybr DPP achrededig hwn.

    Mae’r sgiliau a enillir yn ystod y rhaglen hefyd yn gallu cael eu trosglwyddo i broffesiynau neu sefydliadau eraill.

Mwy o gyrsiau Y Gyfraith, Troseddeg a Phlismona

Chwiliwch am gyrsiau