Plismona Proffesiynol (Llawn amser) (BSc Anrh)
Nod ein cwrs gradd Plismona Proffesiynol yw datblygu gallu myfyrwyr mewn ystod eang o sefyllfaoedd, cyd-destunau a safonau proffesiynol plismona trwy ddysgu a datblygu gan wella gallu cwnstabl yr heddlu i berfformio’n effeithiol mewn meysydd allweddol penodol sy’n ymwneud â chyfrifoldebau plismona proffesiynol. Bydd eich datblygiad a’r hyn yr ydych yn ei ddysgu yn benodol ac yn uniongyrchol berthnasol i berfformiad a gweithredu proffesiynol ym meysydd craidd plismona.
Bydd myfyrwyr ar y cwrs BSc Plismona Proffesiynol yn dysgu am brosesau gwleidyddol a chymdeithasol erledigaeth a throseddoli wrth ystyried damcaniaethau troseddegol, ac amrywiaeth ac anghydraddoldeb cymdeithasol a’u heffaith mewn perthynas â throsedd, erledigaeth ac ymatebion i droseddau a gwyredd.
Byddwch yn cael eich cyflwyno i broblemau cymdeithasol cymhleth sy’n ymwneud â throsedd, dosbarth, ac erledigaeth a chewch ddysgu am yr ymatebion i drosedd a gwyredd, gan ddatblygu’r sgiliau i adnabod cryfderau a gwendidau’r defnydd o gymhariaeth mewn perthynas â throseddu, erledigaeth ac ymatebion i droseddu a gwyredd.
Byddwch yn ymchwilio i strategaethau a dulliau amrywiol ac yn gwerthuso pa mor briodol yw’r defnydd ohonynt. Byddwch hefyd yn cael eich cyflwyno i arferion asiantaethau cyfiawnder troseddol a datblygiadau o ran newid mewn gwerthoedd a pherthnasoedd rhwng unigolion, grwpiau, ac asiantaethau cyhoeddus a phreifat mewn gwahanol leoliadau.
Gradd mewn plismona proffesiynol sy’n seiliedig ar wybodaeth yw hon. Mae’r cwrs gradd yn addas i fyfyrwyr ei gwblhau cyn iddynt ymuno â’r heddlu a chyn mynd drwy broses recriwtio ffurfiol.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Cyfunol (ar y campws)
- Llawn amser
- Saesneg
Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Mae'r rhaglen hon yn amodol ar ailddilysu.
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd strategaethau dysgu sy’n canolbwyntio ar y myfyrwyr yn cael eu defnyddio drwy gydol y rhaglen er mwyn sicrhau cydbwysedd rhwng agweddau theori ac arfer personol a chydweithredol.
Mae disgwyl i fyfyrwyr fyfyrio’n feirniadol ar amrywiaeth o gyd-destunau ac achosion yn ymwneud â phlismona a gallu ymgorffori a rhoi gwybodaeth newydd ar waith mewn sefyllfaoedd newydd.
Bydd myfyrwyr yn ffurfio cymuned ddysgu ac yn trafod a rheoli tasgau dysgu, ac yn cael profiad ymarferol o weithgareddau arfer plismona allweddol, gyda nifer ohonynt yn ymwneud â phroblemau ac achosion go iawn, yn y byd go iawn.
Bydd myfyrwyr yn gyfrifol am ddewis pynciau cyfoes, ac weithiau dadleuol, o faes disgyblaeth arfer proffesiynol yr heddlu sy’n peri pryder i gymdeithas er mwyn ymestyn safbwyntiau myfyrwyr ac ystyriaethau ymchwil sy’n ymwneud â’r heddlu. Mae hyn yn caniatáu i fyfyrwyr gymryd cyfrifoldeb am eu haddysg drwy roi cyfle iddynt ddewis meysydd sydd o ddiddordeb iddyn nhw wrth iddynt ddatblygu eu dysgu annibynnol a magu hyder wrth ffurfio dadleuon a mynegi safbwyntiau cryf.
Mae disgwyl i fyfyrwyr archwilio cysyniadau ac egwyddorion damcaniaethol gan ystyried ystod amrywiol o gyd-destunau cyfreithiol a phlismona. Bydd myfyrwyr yn mynd i’r afael yn feirniadol â safbwyntiau a chysyniadau athronyddol gwahanol sy’n sail i ymagweddau tuag at y maes pwnc.
Gan ystyried dylanwadau a phrofiadau, bydd myfyrwyr yn llunio eu dadleuon eu hunain, gan ddefnyddio tystiolaeth sydd wedi’i dethol yn briodol ac wedi trafodaeth feirniadol gyda’u cyd-fyfyrwyr a’u tiwtoriaid.
Bydd dysgwyr yn cymryd rhan mewn ail-greu syniadau mewn gwahanol gyfryngau fel unigolion ac mewn cydweithrediad â’u cyd-fyfyrwyr a’u tiwtoriaid mewn grwpiau llai.
(20 credydau)
(20 Credits)
(20 credydau)
(20 Credydau)
(20 Credydau)
(20 Credydau)
(20 Credydau)
(20 Credydau)
(20 Credydau)
(20 Credydau)
(20 Credydau)
(20 Credydau)
(20 credydau)
(20 Credydau)
(20 Credydau)
(20 Credydau)
(40 Credydau)
Course Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Abertawe
Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.
Gwybodaeth allweddol
-
80 pwynt UCAS neu gyfwerth.
-
Mae’r asesiadau wedi’u cynllunio ar y cyd gan dîm y rhaglen, i sicrhau eu bod yn ffurfio cyfanwaith cydlynol ac yn bodloni gofynion cwricwlwm Fframwaith Cymwysterau Addysg Plismona (PEQF) y Coleg Plismona ar gyfer y radd Plismona Proffesiynol Cyn Ymuno.
Prif bwrpas y cynllun asesu yw galluogi myfyrwyr i ddangos yn unigol eu bod wedi bodloni nodau’r rhaglenni ac wedi cyflawni’r deilliannau dysgu i’r safon sy’n ofynnol ar gyfer lefel yr astudiaeth. Bydd asesu hefyd yn cael ei ddefnyddio i roi adborth i fyfyrwyr i’w cynorthwyo gyda dysgu dilynol.
Bydd pob modiwl yn cael ei asesu’n grynodol drwy amrywiaeth o dasgau asesu unigol ond defnyddir dulliau ffurfiannol hefyd. Cynhelir asesiad ffurfiannol trwy ymarferion ymarferol sy’n cael eu cynnal a’u trafod yn y dosbarth, chwarae rôl, trafodaethau, cyflwyniadau gan fyfyrwyr a’r sesiynau sydd wedi’u neilltuo i adolygu’r arholiadau ar ôl iddynt gael eu marcio.
Bydd amrywiaeth o ddulliau asesu crynodol yn cael eu defnyddio. Defnyddir arholiadau yn bennaf (ond nid yn unig) i brofi gwybodaeth a dealltwriaeth.
Mae gwaith cwrs ac asesiadau ymarferol hefyd yn profi gwybodaeth a dealltwriaeth, ond maen nhw’n dueddol o ganolbwyntio mwy ar ddatblygu sgiliau gwybyddol, ymarferol ac allweddol. Mae dulliau o’r fath yn hynod briodol i natur y ddisgyblaeth blismona gan eu bod yn hwyluso asesu ac arfer dilys sy’n berthnasol i’r gweithle. Bydd gwaith cwrs a gwaith ymarferol yn cael eu gosod mewn amrywiaeth o ffurfiau; mae’r rhain yn cynnwys:
- Traethodau
- Adroddiadau
- Portffolios
- Prosiectau Ymchwil
- Cyflwyniadau.
-
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.
Efallai y bydd myfyrwyr yn dymuno prynu gwerslyfrau ar gyfer modiwlau fel y Prosiect Annibynnol, ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni fydd yn cael unrhyw effaith ar y radd derfynol.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.
-
Fel darparwr cymeradwy, bydd heddluoedd yn gallu cydnabod y radd fel un sy’n addas i’r diben a bydd hynny o blaid y myfyrwyr wrth iddynt wrth wneud cais.
Mae’r Brifysgol yn cydweithio â Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent. Yn hanesyddol, mae nifer o’n graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio gyda’r heddluoedd hyn oherwydd y cysylltiadau sydd wedi’u gwneud. O ganlyniad i’r cydweithio hwn, mae nifer o hyfforddwyr yr heddlu yn gweithio gyda’r tîm i gyflwyno arfer proffesiynol ychwanegol a darparu sesiynau ymarferol HYDRA i’r myfyrwyr.
Mae’r rhaglen heddlu gwirfoddol sydd wedi’i chynnal rhwng PCYDDS a Heddlu De Cymru ers 2012 yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael profiad gwerthfawr o blismona ymarferol sydd hefyd yn gwella eu cyfleoedd wrth gamu ymlaen.