Y Gyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol (Rhan amser) (DipAU)
Nod ein gradd yn y Gyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol yw helpu i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o Gyfundrefn Gyfreithiol Lloegr, meysydd allweddol o fewn y cyfundrefnau hyn, a Sylfeini Gwybodaeth Gyfreithiol yn benodol, wrth roi sylfaen gyffredinol i chi ar gyfer ymarfer cyfreithiol.
Byddwch yn ennill dealltwriaeth systematig o agweddau allweddol ar y gyfraith ac ymarfer cyfreithiol, gan gynnwys gwybodaeth gydlynol a manwl, rhai sydd ar flaen y gad yn y ddisgyblaeth, neu a lywir ganddi. Mae hyn yn cynnwys:
- Cyfreithiau cyhoeddus a phreifat o fewn cyd-destun sefydliadol, cymdeithasol, cenedlaethol a byd-eang;
- Cyd-destun meysydd o sylwedd o’r gyfraith a chyfiawnder;
- Egwyddorion Rheoleiddio a Chod Ymddygiad yr SRA a’i ofynion moesegol;
- Materion athrawiaethol a pholisi;
- Ecwiti ac ymddiriedolaethau;
- Cyfraith eiddo;
- Trawsgludo;
- Cyfraith busnes; ac
- Ymarfer Profiant.
Byddwch yn dysgu dod o hyd i, gwerthuso a rhoi sylwadau ar ymchwil, neu ysgolheictod cyfatebol, yn y gyfraith ac ymarfer cyfreithiol, gan werthfawrogi ansicrwydd, amwysedd a therfynau gwybodaeth, a dangos meddwl cysyniadol a beirniadol, dadansoddi, syntheseiddio a gwerthuso rhagdybiaethau, cysyniadau a data haniaethol.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Cyfunol (ar y campws)
- Rhan amser
- Saesneg
Cartref: 240 o gredydau am £35 fesul credyd.
Rhyngwladol: 240 o gredydau am £99 fesul credyd.
Mae'r rhaglen hon yn amodol ar ailddilysu.
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r Gyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol wedi’i gynllunio i gwmpasu hanfodion y gyfraith a’r meysydd ymarfer cyfreithiol cysylltiedig sy’n ofynnol er mwyn ymuno â’r proffesiwn cyfreithiol.
Bydd y rhaglen newydd hon yn paratoi myfyrwyr i sefyll yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr ac mae wedi’i chynllunio’n seiliedig ar y fframwaith cenedlaethol hwn. Mae’n canolbwyntio’n llwyr ar gyflogaeth neu hunan-gyflogaeth ym maes ymarfer cyfreithiol. Ni all hyn ond cyfoethogi rhagolygon y myfyrwyr a rhoi mantais gystadleuol iddynt yn rhaglenni recriwtio’r proffesiwn cyfreithiol.
Bûm eisoes yn ymgysylltu â sefydliadau proffesiynol ar gyfer y rhaglenni cyfraith presennol ac mae’r ymgysylltu hwn yn parhau drwy gydol y flwyddyn. Ymgynghorwyd â chwmnïau cyfreithiol lleol fel
Peter Lynn a’i Bartneriaid, Graham Evans a’i Bartneriaid, JCP a DJM, ac maent yn gweithio gyda’r tîm i greu cyfleoedd ar gyfer lleoliadau ac interniaethau i’r myfyrwyr. Mae nifer o raddedigion wedi mynd ymlaen i gael eu cyflogi ganddynt.
Gorfodol
(10 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Gorfodol
(20 credydau)
( credydau)
(20 credydau)
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Course Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Abertawe
Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.
Gwybodaeth allweddol
-
32 pwynt UCAS neu gyfwerth.
-
Asesir y cwrs trwy gymysgedd o waith cwrs ysgrifenedig, efelychiadau, llyfrau gwaith, cyflwyniadau ac arholiadau. Mae pob modwl yn werth 20 credyd a fyddai’n cyfateb i ddau asesiad fesul modwl gyda’r hyn sydd gyfwerth ag aseiniad 2,000–3,500 o eiriau neu arholiad fesul 10 credyd, yn dibynnu ar y lefel astudio.
-
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.
Efallai y bydd myfyrwyr am brynu gwerslyfrau ar gyfer modylau, megis y Prosiect Ymchwil, ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni fydd yn effeithio ar y radd derfynol.
Efallai y bydd teithiau maes dewisol hefyd a allai olygu rhai costau.
-
Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau.
-
Mae tîm y cwrs wedi datblygu cysylltiadau agos iawn â nifer o sefydliadau proffesiynol yn y sector cyhoeddus a meysydd y gwasanaethau cyfreithiol. Mae hyn wedi caniatáu ymgynghori agos ar ddatblygu cynnwys y cwrs ac argaeledd cyfleoedd profiad gwaith unigryw.
Mae’r cwrs yn gweithio’n agos â sefydliadau eraill yn y sector Cyhoeddus, a byddai’r cyfuniad o ddealltwriaeth a gwybodaeth am y sector cyfreithiol a chyhoeddus yn cael ei ystyried yn fanteisiol i’r proffesiynau Cyfiawnder cyfreithiol ehangach.
Mae’r tîm wedi datblygu perthynas agos â chwmnïau a sefydliadau cyfreithiol lleol ac yn datblygu cyfleoedd profiad gwaith a fyddai o fudd i’r myfyrwyr pe baent yn dewis parhau i astudiaethau cyfiawnder cyfreithiol pellach.