Anelir y Radd BA Addysg Gynhwysol at fyfyrwyr sydd wedi cwblhau’r Radd Sylfaen Addysg Gynhwysol.
Lluniwyd y rhaglen ar gyfer myfyrwyr sy’n gweithio fel Cynorthwywyr Addysgu / Cynorthwywyr Cymorth Dysgu neu staff eraill sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli gydag amgylcheddau dysgu eraill. Nod y radd dysgu seiliedig ar waith hon yw cysylltu sefyllfaoedd y byd go iawn â dysgu, yn ogystal â’r cysylltiadau rhwng damcaniaeth, polisi ac arfer.
Cyflwynir y BA Addysg Gynhwysol nid yn unig ar ein campysau, mae ar gael hefyd mewn lleoliadau cymunedol ehangach fel Ysgol Priordy Cil-maen yn Sir Benfro.
Mae gan y rhaglen ethos cryf o gefnogi myfyrwyr mewn dysgu cydweithredol, ac o ddatblygu cyfleoedd i ymwneud â chymuned ddysgu ehangach drwy ddeialog broffesiynol.
Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i gyflwyno eu gwaith naill ai yn Gymraeg neu Saesneg.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Mae'r rhaglen hon yn amodol ar ailddilysu.
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Gan adeiladu ar y Radd Sylfaen mewn Addysg Gynhwysol, lluniwyd y rhaglen BA atodol hon, sy’n flwyddyn o hyd, i ddwysau dealltwriaeth o addysg yn yr 21ain Ganrif ac i ddatblygu ymhellach sgiliau myfyrwyr o ran ysgrifennu academaidd, cyfathrebu a meddwl yn yr oes ddigidol.
Mae gan y rhaglen yr amcanion addysgol cyffredinol a phenodol canlynol:
- Rhoi i fyfyrwyr wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth o addysg mewn byd cyfnewidiol
- Cynnig gwybodaeth a dealltwriaeth eang a chytbwys o brif nodweddion addysg mewn cyd-destunau amrywiol
- Cael myfyrwyr i ofyn cwestiynau sylfaenol ynghylch y dibenion a’r gwerthoedd sy’n sail i addysg
- Helpu myfyrwyr i ddod yn ymwybodol o faterion a phroblemau sy’n gysylltiedig â theori, polisi ac arfer addysg
- Cael myfyrwyr i gymryd rhan mewn disgyrsiau am brosesau addysgol
- Annog myfyrwyr i gaffael ystod o sgiliau academaidd trosglwyddadwy ac i weithio’n annibynnol ac yn gydweithredol
- Mae’r rhaglen yn cefnogi cyflogadwyedd drwy gynnwys meysydd astudio eang sy’n adlewyrchu anghenion dysgwyr o fewn y sectorau yn ogystal ag agendâu cenedlaethol a rhyngwladol ehangach
- Datblygu gallu myfyrwyr i lunio dadleuon rhesymegol ar faterion addysgol mewn modd clir a chydlynol
- Hyrwyddo ystod o rinweddau personol yn cynnwys annibyniaeth, hyblygrwydd, meddwl yn adfyfyriol ac ymgysylltu beirniadol.
Mae’r rhaglen BA hefyd yn anelu at ddatblygu darpariaeth sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm i sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y wybodaeth, y sgiliau a’r agweddau a fydd yn eu paratoi i gyfrannu yn y dyfodol i addysg, i’r economi, i’r gymuned ac i’r amgylchedd, o fewn a’r tu hwnt i’w gweithle.
** Mae pum Safon Broffesiynol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cynorthwyo Addysgu (Cynorthwywyr Addysgu), sef Addysgeg, Dysgu Proffesiynol, Arloesi, Arweinyddiaeth a Chydweithredu, wedi’u hymgorffori yn y modwl hwn. Bydd myfyrwyr yn mynd i’r afael yn weithredol â dysgu proffesiynol gyda’r bwriad o ddatblygu arbenigedd unigol a chyfunol i gael effaith gydweithredol, gydlynol, arloesol a chynaliadwy a arweinir gan ymchwil ar bob dysgwr.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(40 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Caerfyrddin
Mae amrywiaeth o lety yng Nghaerfyrddin ac rydym yn gwarantu llety ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn 1af, gyda llety ar gael i fyfyrwyr yr 2il a’r 3edd flwyddyn hefyd. Wedi’ch lleoli ar gampws Caerfyrddin byddwch chi reit ynghanol popeth, gydag opsiynau sy’n addas i bob cyllideb.
Gwybodaeth allweddol
-
Mae’r rhaglen hon yn denu ymgeiswyr o amrywiaeth o gefndiroedd a phrofiadau o ran cyflogaeth a chymwysterau academaidd ffurfiol.
Nid yw’r rhaglen hon yn gofyn i ymgeiswyr feddu ar gymwysterau ffurfiol; bydd yr adran derbyniadau’n asesu addasrwydd ymgeiswyr trwy gyfweliad trylwyr a phrawf ysgrifenedig.
-
Gosodir gwaith cwrs a phrofion ymarferol mewn amrywiaeth o fformatau. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Ymarferion gosod ymarferol yn y dosbarth
- Chwarae rôl (e.e. ffug gyfweliadau)
- Cyflwyniadau (e.e. cynlluniau busnes)
- Portffolios o waith
- Prosiectau ymchwil
- Traethodau
- Adroddiadau
Gan fod y rhaglen yn denu dysgwyr o ystod o gefndiroedd, gydag amrywiaeth o brofiad gwaith a phersonol, mewn llawer o achosion mae’r asesiadau’n darparu hyblygrwydd i’r myfyriwr ddefnyddio eu cefndir a’u profiad i wneud y dysgu’n berthnasol i’w profiad gwaith blaenorol; bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i ddatblygu prosiectau sy’n berthnasol i’w dyheadau gyrfa.
-
Mae’r holl gostau ychwanegol a restrir yn yr adran yn ddangosol.
Costau angenrheidiol
Bydd angen mynediad ar ddysgwyr i galedwedd a meddalwedd cyfrifiadurol addas: tua £500.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.
-
Mae cysylltiadau gydag amrywiaeth o sefydliadau yn y trydydd sector, y sector cyhoeddus a’r sector preifat a siaradwyr gwadd a chyfleoedd mentora rheolaidd wedi’u hymgorffori yn y rhaglenni TystAU a BA i amlygu’r ystod o swyddi a llwybrau gyrfa sydd ar agor i’r myfyrwyr.
Mae cymryd rhan yn nigwyddiadau ‘Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd’ a ‘Gŵyl Dechrau Busnes yr Haf’ yn ogystal â mynychu a chysylltiadau gyda sesiynau Modelau Rôl Syniadau Mawr Cymru yn galluogi myfyrwyr i siarad gyda, a dysgu gan entrepreneuriaid llwyddiannus.