Aelodau’r Cyngor PCYDDS
-
Yn raddedig o Brifysgol Cymru (Bangor) a PCYDDS, cafodd Emlyn Dole yrfa gynnar yng ngweinidogaeth y Bedyddwyr ac yn y celfyddydau cyn dod yn Gynghorydd Sir etholedig. Gwasanaethodd am saith mlynedd fel Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin lle bu’n gyfrifol am weledigaeth a strategaeth gorfforaethol y Cyngor. Roedd yn un o brif benseiri Bargen Ddinesig Bae Abertawe ynghyd â llwyddiant y Cyngor i ddenu cyllid Ffyniant Bro gan Lywodraeth y DU. Mae’n un o ymddiriedolwyr Undeb Bedyddwyr Cymru ac yn parhau i weithio’n rhan amser fel gweinidog hunan-gyflogedig.
-
Yr Athro Elwen Evans, KC, yw Is-Ganghellor Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Astudiodd yr Athro Evans y Gyfraith yng Ngholeg Girton, Caergrawnt, gan raddio â gradd dosbarth cyntaf ddwbl: M.A. (Cantab). Ar ôl graddio aeth ymlaen i Ysgol y Gyfraith Ysbytai’r Frawdlys ac fe’i galwyd i’r Bar gan Gray’s Inn yn 1980. Fe’i penodwyd yn Gwnsler y Frenhines yn 2002.
Mae’r Athro Evans wedi mwynhau gyrfa lwyddiannus iawn yn fargyfreithiwr gan ddewis ymarfer yng Nghymru yn bennaf. Mae wedi ymgymryd ag amrywiaeth eang o waith cyfreithiol, ac wedi arbenigo mewn cyfraith trosedd ar lefelau treial ac apeliadau. Mae ei gwaith wedi cynnwys llawer o achosion difrifol, cymhleth, sensitif ac uchel eu proffil, megis arwain y tîm erlyn yn achos April Jones a’r tîm amddiffyn yn achos trychineb Glofa Gleision. Mae hi’n Gofiadur Llys y Goron ers cael ei phenodi yn 2001. Bu’n Bennaeth Iscoed Chambers am dros 15 mlynedd cyn ei phenodi i rôl Pennaeth Coleg y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Abertawe yn 2015 lle sefydlodd Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton. Yn 2020, fe’i penodwyd yn Ddirprwy Is-Ganghellor a Deon Gweithredol ar gyfer Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol a bu’n gyfrifol am arwain twf llwyddiannus y Gyfadran yn ystod y cyfnod hwn. Roedd ei phortffolio hefyd yn cynnwys cynnig arweiniad strategol i weithgareddau cenhadaeth ddinesig y Brifysgol a datblygu perthnasoedd y Brifysgol yn llwyddiannus gyda phartneriaid allweddol gan gynnwys cyn-fyfyrwyr a chymwynaswyr.
Gyda’r Gymraeg yn iaith gyntaf iddi, mae hi’n Feinciwr yn ei Hysbyty, fe’i hanrhydeddwyd gan Orsedd y Beirdd am ei gwasanaethau i’r Gyfraith yng Nghymru a bu’n Gomisiynydd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru. Mae hi wedi gwasanaethu ar amrywiaeth eang o gyrff a phwyllgorau allanol, gan adlewyrchu ei meysydd profiad a diddordeb proffesiynol. Yn 2018, roedd ymhlith y 10 uchaf ar restr yn dathlu 100 o fenywod mwyaf ysbrydoledig Cymru.
-
Wedi’i eni a’i addysgu yng Nghaerfyrddin, mae gan Timothy Llewelyn gefndir mewn bancio. Roedd ganddo uwch swyddi rheolaethol ym Manc Lloyds tan 2018, ac yn fwyaf diweddar, bu’n Rheolwr Gweithrediadau Rhanbarthol dros Gymru a’r Rhanbarth Gorllewinol. Mae ganddo bellach nifer o swyddi anweithredol: ar hyn o bryd, ef yw Cadeirydd Cymdeithas Tai Bro Myrddin; mae’n aelod Lleyg o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru ac yn Gadeirydd ei Bwyllgor Sefydlog; yn Is-gadeirydd Bwrdd Cyllid Esgobaeth Tyddewi; ac yn Drysorydd Eglwys Sant Pedr yng Nghaerfyrddin.
-
Mae cefndir gan Nigel Roberts ym maes bancio ac mae wedi dal swyddi rheoli gyda Banc Midland/HSBC tan 2010, yn fwyaf diweddar fel Pennaeth Bancio Masnachol ar gyfer Gorllewin Cymru. Bellach mae’n gweithio fel ymgynghorydd i Clay Shaw Butler, Cyfrifyddion Siartredig ac mae’n dal nifer o swyddi anweithredol o fewn Esgobaeth Tyddewi. Mae rolau cyfredol eraill yn cynnwys Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Wirfoddol Eglwysig y Model ac Ymddiriedolwr ar gyfer Canolfannau Teulu Caerfyrddin. Mae hefyd yn aelod o’r Panel Benthyciadau ar gyfer Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru.
-
Iwan Thomas yw Cadeirydd presennol y Corff Llywodraethol yng Ngholeg Sir Benfro. Mae’n Brif Weithredwr PLANED, elusen datblygu cymunedol ranbarthol sy’n gweithio ar draws Gorllewin Cymru ac yn Aelod Annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Yn ogystal, mae Iwan yn gwasanaethu mewn rôl wirfoddol ar nifer o gyrff a sefydliadau allweddol, gan gynnwys fel aelod o Gyngor Partneriaeth Trydydd Sector Cymru, Cyfarwyddwr Croeso Sir Benfro a Chadeirydd Cyngor Eglwys Llanllwch y Santes Fair. Yn ei amser hamdden mae’n cefnogi nifer o sefydliadau cymunedol gyda chodi arian a gweithgareddau.
-
Mae Geraint Evans MBE wedi bod yn Gadeirydd Corfforaeth Coleg Caerdydd a’r Fro ers 2011. Mae’n gyfreithiwr sydd wedi treulio dros ugain mlynedd yn gweithio fel rheolwr gyfarwyddwr cwmni manwerthu. Mae wedi rhedeg sawl busnes llwyddiannus ac wedi gweithio mewn sawl swydd wirfoddol yn y sectorau busnes ac addysg sy’n gwasanaethu cymunedau lleol ledled Caerdydd a’r Fro.
Tan yn ddiweddar, ef oedd Cadeirydd Business in Focus – y cwmni cymorth busnes a menter lle mae’n parhau i fod yn gyfarwyddwr. Mae’n Is-gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, ar ôl treulio deuddeg mlynedd fel Cadeirydd. Mae’n gefnogwr brwd o chwaraeon, yn enwedig rygbi a chriced, ac mae wedi chwarae i’r MCC yn y gorffennol.
Penodwyd gan y Staff Academaidd
-
Dr Stuart Robb
Ymunodd Stuart Robb â Phrifysgol Cymru yn 2012, ar ôl dal swyddi mewn gweinyddu, addysgu a gofal bugeiliol mewn nifer o brifysgolion eraill. Tra ym Mhrifysgol Cymru, mae Stuart wedi cymryd rolau arweiniol mewn rheoli partneriaethau trawswladol, sicrhau ansawdd, polisi a rheoleiddio sefydliadol, a gwella academaidd. Fe’i penodwyd yn Bennaeth Partneriaethau Cydweithredol (Cysylltiadau Partneriaeth) yn 2018 ac mae’n arwain yn y maes hwn ar gyfer Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae ganddo ddoethuriaeth mewn Cerddoleg.
Clerc y Cyngor
-
Clerc y Cyngor yw:
Sarah Clark
Ysgrifennydd y Brifysgol
E-bost: s.clark@uwtsd.ac.uk