Llety Llundain
Llety yn Llundain
Os ydych yn bwriadu byw oddi cartref tra byddwch yn y brifysgol, mae’n debyg mai llety sydd ar frig eich rhestr o ystyriaethau. Mae poblogaeth enfawr o fyfyrwyr yn byw yn Llundain, ac felly bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn rhoi digon o ddewis i chi.
Darperir llety yn Llundain gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich tywys drwy eich opsiynau a chynnig cefnogaeth i chi trwy gydol eich cyfnod fel myfyriwr gyda ni.
Bydd myfyrwyr sy’n aros mewn llety nad yw’n eiddo i’r brifysgol yn dal i allu defnyddio gwasanaethau fel y tîm iechyd meddwl, cyngor ariannol a mwy.
Bydd y swyddfa lety ar gael i gefnogi a rhoi cyngor ynghylch ble mae myfyrwyr PCYDDS yn aros er mwyn i chi allu bod o gwmpas myfyrwyr sy’n astudio gyda ni.
Beth sydd gan y Llety Preifat yn Llundain i'w gynnig
-
Os ydych chi’n chwilio am lety myfyrwyr, mae’r wefan hon yn cynnig amrywiaeth eang o opsiynau tai wedi’u gwirio i gyd-fynd â gwahanol gyllidebau a dewisiadau. Maent yn darparu llety myfyrwyr wedi’i adeiladu at y diben, fflatiau rhannol, a stiwdios, gan eich helpu i ddod o hyd i le sy’n bodloni’ch anghenion cyn i chi symud.
-
Unwaith y byddwch wedi cael ystafell mewn neuadd, efallai y bydd arnoch eisiau dechrau meddwl am beth i’w ddod gyda chi i’r campws.
Siop ar-lein yw UniKitOut sy’n cynnig arbedion ENFAWR ar lawer o’r eitemau a ganlyn:
- Pecynnau Dillad Gwely
- Pecynnau Cegin
- Pecynnau Ystafell Ymolchi a Thyweli
- Pecynnau Cyfun Myfyrwyr
- Offer Trydanol
- Ategolion a llawer iawn mwy!
Unwaith y byddwch yn prynu eitemau, gallwch ofyn iddynt gael eu hanfon yn uniongyrchol i’ch ystafell fel eu bod yn aros yno amdanoch chi pan fyddwch yn cyrraedd.
-
Mae’r Tîm Bywyd Preswyl yn darparu gwasanaeth dan arweiniad cyfeiriadau, i fyfyrwyr sy’n byw mewn llety rhent preifat a llety preifat pwrpasol i fyfyrwyr (PBSA).
Pwrpas y cymorth hwn yw sicrhau bod myfyrwyr yn ymwybodol o’r gwasanaethau prifysgol a’r sefydliadau allanol sydd ar gael iddyn nhw, wrth hyrwyddo ymdeimlad o berthyn, diogelwch a llesiant ar draws y gymuned fyfyrwyr ehangach.
Gallai cymorth gynnwys:
- Adolygu’r contract ynghyd â thelerau ac amodau i helpu i egluro i fyfyrwyr beth ydyn nhw neu beth maen nhw wedi ymrwymo iddo yn unol â deddfwriaeth y Llywodraeth.
- Darparu gwybodaeth gyffredinol a chyfeirio at wasanaethau prifysgol a sefydliadau allanol priodol.
- Galluogi myfyrwyr i gael mynediad at ddigwyddiadau a mentrau Bywyd Preswyl presennol, yn amodol ar gapasiti.
- Rhannu canllawiau cyffredinol sy’n ymwneud â llesiant, diogelwch personol a byw yn y gymuned.
Ni fydd y Tîm Bywyd Preswyl yn rheoli cwynion llety preifat, yn cysylltu â landlordiaid neu ddarparwyr llety ar ran myfyrwyr, yn ymchwilio i anghydfodau tenantiaeth, yn cynnal archwiliadau eiddo nac yn rheoli achosion parhaus.
Bydd myfyrwyr a gaiff anawsterau sy’n gysylltiedig â llety yn cael eu cyfeirio at eu landlord, asiant gosod, tîm rheoli PBSA, Gwasanaeth Cyngor Undeb y Myfyrwyr neu sefydliad priodol arall, yn dibynnu ar natur eu pryder.
Caiff unrhyw bryderon diogelu neu amddiffyn uniongyrchol eu rheoli yn unol â gweithdrefnau sefydledig y Brifysgol.
contact
Cysylltu â'r Tîm Llety
Mae ein tîm llety yma i’ch helpu chi i wneud y dewis cywir er mwyn helpu i greu’r profiad prifysgol rydych chi’n ei ddymuno. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am lety boed yn ymwneud â hygyrchedd, opsiynau llety neu gwestiynau penodol am eich sefyllfa mae ein tîm llety wrth law i helpu.