Skip page header and navigation

Gall gradd-brentisiaethau gynnig gwerth arbennig o dda am arian.

Dysgu Cost-effeithiol: Mae gradd-brentisiaethau’n werth am arian ardderchog, sy’n darparu addysg a phrofiad gwaith am gostau is trwy gyllid gan y llywodraeth. Er y bydd cost prentisiaeth yn amrywio, lluniwyd y cynllun ariannu i’w gwneud yn hawdd ac yn fforddiadwy i gyflogwyr ei ddefnyddio.

Os ydych chi’n gyflogwr â bil cyflog o dros £3 miliwn y flwyddyn, byddwch wedi bod yn talu’r Ardoll Brentisiaethau er 6 Ebrill 2017 trwy’r broses Talu wrth Ennill; fe’i cyfrifir fel 0.5% o’r cyfanswm costau staff.  Os ydych chi’n gyflogwr llai, ni fyddwch yn talu’r Ardoll ond gallwch gael mynediad at y rhaglen o hyd.  

Mae darparu hyfforddiant prentisiaethau yn fater sydd wedi’i ddatganoli, ac mae Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi datblygu ffyrdd gwahanol o alluogi cyflogwyr i gael mynediad at raglenni. Bydd cwmnïau’n cael mynediad at y rhaglenni perthnasol lle mae eu gweithwyr wedi’u lleoli.  

Mae cyllid yn amodol ar ble mae’r Brentisiaeth wedi’i lleoli

Staff a myfyrwyr prentisiaeth wedi gosod eu hunain ar gyfer tynnu llun
  • Nid yw maint y cwmni yn effeithio ar fynediad at brentisiaethau yng Nghymru.Mae Llywodraeth Cymru’n ariannu Gradd-brentisiaethau a Phrentisiaethau Uwch sy’n rhan o Fframwaith trwy dalu’r darparwr hyfforddiant dan gontract yn uniongyrchol.
  • Pennir y cyllid gan flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
  • Nid yw’n ofynnol i gyflogwyr gyfrannu at gost darparu’r brentisiaeth.n. 
Prentis yn gweithio ar brosiect gwydr
    • Gallwch roi eich cyfraniadau ardoll tuag at gost y radd-brentisiaeth.
    • Mae’r Ardoll Brentisiaethau yn rhoi rheolaeth i gyflogwyr yn Lloegr dros eu hyfforddiant, gan ganiatáu iddynt gytuno ar gyfanswm pris ar gyfer pob prentisiaeth, sy’n cynnwys costau hyfforddi ac asesu.
    • Ar gyfer pob Safon Brentisiaeth yn Lloegr, mae Band Cyllido wedi’i bennu sy’n gosod cap ar faint o gyllid y gall y cyflogwr ei dynnu i lawr.
    • Os yw’r gost i’r Drindod Dewi Sant o ddarparu’r brentisiaeth yn uwch na’r band cyllido, bydd y brifysgol yn cytuno ar gyfraniad ychwanegol gyda’r Cwmni i wneud iawn am y gwahaniaeth, i’w dalu mewn rhandaliadau blynyddol.
    • Bydd y Llywodraeth yn cyfrannu o leiaf 95% o’r ffioedd dysgu a’r costau asesu ar gyfer unrhyw brentis.
    • Mae’r llywodraeth yn mynnu bod y cyflogwyr hyn yn talu cyfraniad ariannol o 5% tuag at y gost, a delir yn uniongyrchol i’r darparwr, ac mae’r llywodraeth yn talu’r gweddill (hyd at uchafswm y band cyllido a gytunwyd).
    • Mewn rhai achosion gall fod ffioedd atodol ychwanegol yn daladwy i’r brifysgol – trafodir y rhain yn y cyfarfodydd ymgysylltu cychwynnol. Mae taliadau atodol yn daladwy mewn rhandaliadau blynyddol.Bydd y Drindod Dewi Sant yn gweithio gyda’r cwmnïau hyn i hwyluso ariannu’r rhaglen brentisiaeth.
Two Students Smiling

A yw'ch Busnes yn "Barod ar Gyfer y Dyfodol"?

Gwnewch fuddsoddiad yn natblygiad eich gweithwyr gyda Phrentisiaethau Uwch a Gradd-brentisiaethau a arweinir gan ddiwydiant a thrawsnewid eich busnes.

Rydym yn deall yr heriau bob-dydd mae eich busnes yn wynebu ac o ganlyniad, mewn partneriaeth gyda chyflogwyr, gwnaethom greu Rhaglen Brentisiaeth dan arweiniad Diwydiant. Pan gaiff hon ei chyfuno gyda chymorth profiad ymarferol bydd myfyrwyr yn cymhwyso’r wybodaeth a geir yn uniongyrchol i’r gweithle.

Prentisiaethau Gradd yng Nghymru

Fel arfer, swydd â thâl am dair i bum mlynedd ynghyd ag astudio’n rhan-amser yn y brifysgol, wedi’i hariannu’n llawn gan gyflogwyr a Llywodraeth Cymru drwy law Medr.

Rhaid bod yn 16 oed neu’n hŷn, yn gweithio yng Nghymru o leiaf hanner yr amser, a meddu ar gymwysterau Lefel 3 (e.e. Safon Uwch neu gyfwerth).

 

Dim ffioedd dysgu - rydych chi’n cael eich cyflogi ac yn ennill cyflog; y cyflogwyr sy’n  talu costau eich ffioedd dysgu.


 

Ennill cyflog, osgoi dyled, ennill profiad - ond gall cydbwyso gwaith, astudio, tai a chostau byw fod yn anodd, yn enwedig mewn ardaloedd drud.

Dyma'r cymorth sydd ar gael gan Gyllid Myfyrwyr Cymru (SFW) ar gyfer cyrsiau safonol (nad ydyn nhw’n brentisiaethau):

Ffioedd Dysgu a Chostau Byw

Benthyciadau dysgu: Fel preswylydd yng Nghymru, rydych chi’n gymwys i gael benthyciad ffioedd dysgu llawn (hyd at £9,790 y flwyddyn) ni waeth ble rydych chi’n astudio yn y DU.

Costau Cynnal (Byw)

Hyd at £12,345 y flwyddyn drwy gyfuniad o grantiau nad oes angen eu had-dalu a benthyciadau. (Mae pawb yn cael grant o £1,000 o leiaf; gall aelwydydd isaf eu hincwm gael hyd at £8,100 o grant.)
 

Cymorth ychwanegol
  • Grantiau gofal plant (85% o’r costau, hyd at £192–£329 yr wythnos)
  • Lwfans Dysgu Rhieni (£53–£1,945 y flwyddyn)
  • Grant Oedolion Dibynnol (hyd at £3,407),
  • Lwfans Myfyrwyr Anabl (yn seiliedig ar angen), Grant Cymorth Arbennig i hawlwyr budd-daliadau, ac ati.

Sut mae Cyllid Prentisiaethau + Rhyngweithio Cyllid Myfyrwyr yn gweithio

Ffioedd dysgu: Yn achos prentisiaeth gradd, eich cyflogwr a Llywodraeth Cymru sy’n talu am eich hyfforddiant - felly does dim angen benthyciad ffioedd dysgu arnoch chi, a ddylech chi ddim gwneud cais am un.

Cyllid cynnal: Fel arfer, nid hwn yw ar gael i brentisiaid, oherwydd eich bod chi’n wedi’ch cyflogi ac yn cael eich talu. Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr nad ydyn nhw’n derbyn incwm cyflogaeth.

Cyllid sy’n gwrthdaro: Allwch chi ddim cael prentisiaeth gradd ar yr un pryd â hawlio cymorth llawn gan Gyllid Myfyrwyr Cymru - na chynnal dau gwrs amser llawn ar yr un pryd.

Cyllid sy’n gwrthdaro: Allwch chi ddim cael prentisiaeth gradd ar yr un pryd â hawlio cymorth llawn gan Gyllid Myfyrwyr Cymru - na chynnal dau gwrs amser llawn ar yr un pryd.

Sefyllfa Benthyciad Dysgu Cyllid Myfyrwyr Cymru Cymorth Cynnal  Cyflog
Myfyrwyr gradd amser llawn traddodiadol ✔ Yn talu ffioedd dysgu  Grant a benthyciad hyd at £12k
Myfyrwyr Prentisiaethau Gradd yng Nghymru ✘ Ddim yn gymwys; rydych chi’n ennill cyflog ✘ Ddim yn gymwys; rydych chi’n ennill cyflog ✔ Cyflog + y cyflogwr yn talu’r ffioedd dysgu

Os ydych chi'n ystyried Prentisiaeth Gradd

  1.  Dim angen gwneud cais am fenthyciadau ffioedd dysgu drwy Gyllid Myfyrwyr Cymru mae costau’r radd wedi eu hariannu gan lwybrau eraill.
  2. Fyddwch chi ddim yn gymwys i gael grantiau/benthyciadau cynnal gan y byddwch chi’n ennill ac yn derbyn cyflog.
  3. Gallwch chi wneud cais am lwfansau penodol (ee gofal plant, anabledd) yn seiliedig ar amgylchiadau bywyd.
  4. Gwiriwch gyda’ch cyflogwr a’ch prifysgol am gymhwysedd ar gyfer grantiau ac eithriadau rhag treth gyngor.

Gwybodaeth a Chymorth

Os ydych chi am wneud cais am Gyllid Myfyrwyr am y cymorth ychwanegol (e.e. oherwydd bod gennych chi blant neu oedolyn dibynnol) gallwch chi wneud cais ar-lein: www.student.financewales.co.uk 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â’r tîm Cymorth Ariannol yn y brifysgol: moneysupport@pcydds.ac.uk