Skip page header and navigation

Canolfan Sophia

Archwilio ein lle yn y Cosmos

Croeso i Ganolfan Sophia ar gyfer astudio cosmoleg mewn diwylliant, canolfan addysgu ac ymchwil ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Mae gan y ganolfan gylch gwaith eang i astudio’r holl ffyrdd y mae bodau dynol yn ymwneud â’r awyr, y planedau a’r sêr trwy hanes a diwylliant seryddiaeth, astroleg, a chosmoleg.

Mae’r ganolfan wedi ymrwymo i bersbectif amlddiwylliannol. Mae’n archwilio damcaniaethau ac arferion astroleg ym mhob diwylliant o’r hen amser i’r byd modern, ynghyd â’r berthynas rhwng seryddiaeth a chymdeithas, gwleidyddiaeth, crefydd a’r celfyddydau, yn y gorffennol a’r presennol.

The Earth seen from Apollo 17

Ein cyrsiau

Mae’r ganolfan yn addysgu dau gwrs MA (Meistr) ar-lein. Mae’r ddau gwrs ar gael yn rhan-amser neu’n llawn amser.

Mae’r Ganolfan hefyd yn:

  • goruchwylio graddau PhD
  • cynnal cynadleddau
  • cyhoeddi ymchwil
  • addysgu cyrsiau byr

I gael yr holl wybodaeth, gweler ein tudalen allanol ar brosiect Sophia.

Cysylltu â Chanolfan Sophia

Ar gyfer pob ymholiad, cysylltwch â Chyfarwyddwr y ganolfan, Dr Nicholas Campion.