Skip page header and navigation

Charlotte Malpass - Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd (BSc)

Profiad Charlotte yn PCYDDS

Profiad Charlotte ar y BSc Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd

Ochr allanol adeilad IQ sydd wedi’i wneud o frics coch a gwydr.

Beth yw eich hoff beth am gampws Abertawe?

Fy hoff beth am gampws Abertawe oedd pa mor fodern, agored a chroesawgar oedd yn teimlo. Roedd digon o fannau astudio cyfforddus, a threulies i lawer o amser yn y llyfrgell yn gweithio ar aseiniadau wrth fwynhau’r golygfeydd gwych ar draws Bae Abertawe. Roedd awyrgylch cyfeillgar i’r campws ac roedd hi’n hawdd llywio fy ffordd o gwmpas. Roedd y maint llai hefyd yn golygu fy mod i’n gweld tiwtoriaid a chydfyfyrwyr o gwmpas y campws yn rheolaidd, gan fy helpu i deimlo bod gen i gysylltiad a chymorth trwy gydol fy astudiaethau.

Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?

Dechreues i astudio Daearyddiaeth Ddynol mewn prifysgol arall yn wreiddiol ond roedd y darlithfeydd mawr a’r mynediad cyfyngedig at gymorth yn anodd i mi. Ar ôl penderfynu nad oedd hwn yn addas, dyma fi’n mynd i ddiwrnod agored yn PCYDDS a chael croeso ar unwaith. Cymerodd tiwtor yr amser i drafod y cwrs, y modylau a’r broses ymgeisio, gan dawelu fy meddwl a rhoi hyder i mi yn fy mhenderfyniad. Hefyd caniataodd PCYDDS i mi drosglwyddo’n uniongyrchol i’r ail flwyddyn gan ddefnyddio credydau o’m hastudiaethau blaenorol. Roedd yr amgylchedd cefnogol, maint dosbarthiadau llai a’r dull personol yn ei gwneud hi’n glir mai PCYDDS oedd y dewis iawn i mi.

Beth ydych chi’n mwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?

Y tu allan i’m hastudiaethau, roeddwn i’n mwynhau heicio, pobi a threulio amser gyda ffrindiau. Abertawe oedd y lle perffaith ar gyfer hyn, gyda mynediad hawdd i harddwch arfordir Gŵyr a Bannau Brycheiniog, lle treulies i lawer o benwythnosau yn archwilio llwybrau cerdded. Fe wnes i hefyd fwynhau sîn gymdeithasol Abertawe a chwrdd â ffrindiau am fwyd a choctels. Mae cael cydbwysedd da rhwng astudio a mwynhau’r ardal leol wedi gwella fy mhrofiad prifysgol ac wedi fy helpu i wneud yn fawr o’m hamser i yno.

Gyrfa Gyfredol a Nodau Dyfodol

Ar hyn o bryd rwy’n gweithio i’m Cyngor lleol yn yr adran Refeniw, lle rwy’n defnyddio llawer o’r sgiliau a ddatblyges i yn ystod fy ngradd, gan gynnwys ymchwil, datrys problemau, cyfathrebu a darllen deddfwriaeth. Mae fy astudiaethau wedi fy helpu i adeiladu hyder wrth reoli llwythi gwaith, cwrdd â dyddiadau cau a chyfathrebu. Roedd Gwasanaeth Gyrfaoedd PCYDDS hefyd yn hynod o ddefnyddiol, gan ddarparu ymarfer cyfweliadau a chymorth gyrfaoedd a helpodd i fagu hyder yn fy ngalluoedd a pharatoi ar gyfer ceisiadau am swyddi. Parhaodd y cymorth ar ôl graddio, a oedd yn amhrisiadwy i mi wrth ddechrau fy ngyrfa. Yn y dyfodol, rwy’n gobeithio symud ymlaen i rôl ym maes Iechyd yr Amgylchedd yn y Cyngor, lle gallaf gyfuno fy niddordeb mewn cynaliadwyedd a diogelu’r amgylchedd wrth wneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymunedau lleol.

Beth yw eich hoff beth am BSc Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Newid yn yr Hinsawdd?

Un o’m hoff agweddau ar y cwrs oedd yr amrywiaeth o fodylau a’r cyfleoedd i gwblhau gwaith maes a gwaith labordy. Roedd pwnc Deddfwriaeth amgylcheddol a’r economi gylchol yn arbennig o bleserus, a ches i flas arbennig ar ysgrifennu aseiniad ar Smog Mawr Llundain a defnyddio egwyddorion yr economi gylchol yn y diwydiant ffasiwn. Roedd y teithiau maes hefyd yn uchafbwynt, gan ddarparu profiad ymarferol gwerthfawr. Fy hoff ymweliad oedd â chyfleuster adfer ynni Caerdydd, lle roedd hi’n ddiddorol dros ben gweld sut roedd y cyfleuster yn gweithredu ac yn cyfrannu i reoli gwastraff.

Charlotte Malpass

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?

Byddwn i’n argymell PCYDDS yn fawr. Roedd y dosbarthiadau llai yn caniatáu i mi feithrin perthynas gref â thiwtoriaid a chyd-ddisgyblion, a wnaeth wahaniaeth enfawr i’m hyder a’m llwyddiant academaidd. Roedd y cymorth gan diwtoriaid yn rhagorol; roedd hi’n hawdd mynd atyn nhw, a hwythau bob amser yn barod i helpu gyda gofal go iawn dros y fyfyrwyr. Roedd yr aseiniadau wedi’u hegluro’n glir ac roedd yr adborth yn fanwl, adeiladol ac yn fy helpu i wella’n barhaus.

Charlotte Malpass 2

Profiad o glirio

Trosglwyddes i PCYDDS trwy Glirio ar ôl cwblhau fy mlwyddyn gyntaf mewn Daearyddiaeth Ddynol mewn prifysgol arall. Roedd y broses yn un syml a di-straen, gyda chyfathrebu rhagorol drwy’r amser. Cydnabu PCYDDS y credydau roeddwn i eisoes wedi’u cwblhau a chaniatáu imi ymuno â’r ail flwyddyn, gan wneud y pontio yn ddi-dor. Cyn dechrau, es i’r wythnos sefydlu lle cwrddes i â thiwtoriaid a chydfyfyrwyr, cymeres i ran mewn gweithgareddau adeiladu tîm a chwblhau rhywfaint o waith maes. O’r cychwyn, roeddwn i’n teimlo bod gen i groeso a chymorth. Wrth edrych yn ôl, trosglwyddo i PCYDDS oedd un o’r penderfyniadau gorau i mi ei wneud a chafodd effaith gadarnhaol iawn ar fy mhrofiad prifysgol.

Gwybodaeth Gysylltiedig