Gwneud cais drwy Glirio
Gallwch wneud cais trwy Glirio os nad ydych wedi dod o hyd i gwrs a hoffech gymryd y cam nesaf. Os nad ydych yn barod eto, gallwch siarad gyda ni o hyd am gymorth.
Cysylltu â ni
Mae Clirio ar agor i unrhyw un nad oes ganddynt le mewn prifysgol, gan gynnwys y rhai sy’n dychwelyd i addysg.
Fe wnawn ni eich tywys drwy bob cam – nid oes raid i bopeth fod yn ei le gennych.
Sut y byddwch yn gwneud cais
Unwaith y byddwch wedi derbyn cynnig gennym ar lafar, fe wnawn ni eich helpu i’w wneud yn swyddogol.
Fe wnawn ni eich tywys drwy bob cam.
Beth sy’n digwydd ar ôl i chi wneud cais
Ar ôl i chi wneud cais trwy Clirio, byddwn yn:
- Adolygu eich cais.
- Gofyn i chi ddarparu gwybodaeth ychwanegol os oes angen.
- Cysylltu â chi gyda phenderfyniad.
Byddwn yn cadw mewn cysylltiad gyda chi trwy gydol y broses.
Cyllid a llety myfyrwyr
Gallwch wneud cais o hyd am gyllid myfyrwyr os byddwch chi’n gwneud cais trwy Glirio.
-
Os ydych chi wedi gwneud cais yn barod am gyllid myfyrwyr, efallai y byddwch yn gallu diweddaru manylion y cwrs ar ôl i chi dderbyn cynnig.
Gall ein hymgynghorwyr esbonio:
- beth i’w wneud nesaf
- pryd i wneud cais
- ble i gael cymorth pellach
Nid oes rhaid i’ch cyllid myfyriwr fod yn ei le cyn i chi siarad gyda ni.
Dysgwch sut i wneud cais am gyllid myfyrwyr ac osgoi problemau oedi cyffredin.
Efallai bod llety ar gael o hyd os fyddwch chi’n gwneud cais trwy Glirio.
-
Gall argaeledd newid, felly mae’n syniad gofyn yn gynnar.
Gallwn ni drafod y canlynol gyda chi:
- pa opsiynau llety sydd ar gael
- pryd i wneud cais
- beth sy’n digwydd ar ôl i chi dderbyn lle
Nid yw gwneud cais trwy Glirio yn effeithio ar eich hawl i gael eich ystyried ar gyfer llety.
Gallwch weld enghreifftiau o’n llety myfyrwyr a darganfod beth sydd ar gael.
Nid ydych chi’n ymrwymo i unrhyw beth eto
Nid yw siarad gyda ni yn golygu eich bod yn gwneud cais.
Chi fydd yn rheoli eich penderfyniad.
Cael help gyda’ch cais
Cael help gyda’ch cais
Os ydych chi’n barod i wneud cais, neu eisiau trafod pethau, rydyn ni yma i helpu.