Cynaliadwyedd - Cymryd Rhan
Cymryd Rhan
Os ydych chi’n fyfyriwr sydd â diddordeb mewn cymryd rhan mewn prosiectau cynaliadwyedd, neu efallai eich bod am wneud y byd ychydig yn fwy gwyrdd, edrychwch ar yr holl gyfleoedd y gallwch fynd i’r afael â nhw isod!
Dechrau’r sgwrs yw hyn ac, os hoffech gymryd rhan fel pencampwr myfyrwyr neu staff, e-bostiwch sustainability@pcydds.ac.uk a chadw llygad ar y dudalen hon lle bydd diweddariadau rheolaidd ynglŷn â gwirfoddoli a sut y gallwch ein helpu ni i wneud y Brifysgol a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu yn fwy cynaliadwy. Gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth.
Ffyrdd o gymryd rhan
-
Mae mannau rhandiroedd wedi’u lleoli y tu ôl i adeilad yr Egin yng Nghaerfyrddin. Mae hyn yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr dyfu perlysiau a llysiau o hadau gan leihau milltiroedd bwyd a’r ôl troed carbon. Anfonwch e-bost at sustainability@uwtsd.ac.uk i gymryd rhan
-
Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnig llu o gyfleoedd i chi gymryd rhan, o gymdeithasau i wirfoddoli!
-
Mae’r rôl hon yn bodoli i hyrwyddo materion moesegol ac amgylcheddol, ochr yn ochr â chynaliadwyedd, ymgysylltu myfyrwyr â gweithgarwch cynaliadwy, ac ymgyrchu dros Brifysgol a chymuned ehangach fwy moesegol, ecogyfeillgar, a chynaliadwy.
Os oes diddordeb gennych roi cynnig am y rôl Swyddog Rhan Amser hon, cysylltwch â su.elections@uwtsd.ac.uk
-
Mae PCYDDS yn cynnig cyfle i staff ym mhob adran i yrru gwelliannau o ran cynaliadwyedd ac ailgylchu ar draws y safle. Gan weithredu fel cydwybod amgylcheddol adrannau a hyrwyddo arferion cynaliadwy ar y campws.
-
Mae cymdeithasau cynaliadwyedd ar gael y gallwch ymuno â nhw, ond os ydych chi eisiau dechrau un mewn rhyw faes penodol, neu os nad oes un ar eich campws chi, gallwch ddechrau eich cymdeithas eich hun i gael myfyrwyr eraill i gymryd rhan! Darllenwch ragor am gymdeithasau yma ar wefan Undeb y Myfyrwyr, neu cysylltwch â’r Tîm Cyfleoedd i Fyfyrwyr yn su.opps@uwtsd.ac.uk
-
A oes gennych syniad sut i wneud eich profiad myfyrwyr yn fwy cynaliadwy? Beth am gyflwyno Syniad Mawr?!
Gall unrhyw fyfyriwr gyflwyno syniad, a fydd wedyn yn mynd trwy Gyngor y Campws a Chyngor yr Undeb i bleidleisio arno fel polisi! Gall hyn roi mandad i’ch Swyddogion Etholedig lobïo am newid, neu i redeg ymgyrch! Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Syniadau Mawr, gallwch edrych ar y wefan yma neu e-bostio’r Tîm Llais Myfyrwyr ar StudentVoice@uwtsd.ac.uk.
-
Ydych chi am i’ch traethawd hir wneud gwahaniaeth? Mae Dissertations for Good gan Undeb Genedlaethol y Myfyrwyr yn rhoi’r cyfle i chi gwblhau prosiect traethawd hir mewn cydweithrediad â sefydliad anacademaidd, gan olygu y gall eich prosiect gyfrannu at faes ymchwil blaengar!
Dysgwch ragor a chofrestru ar wefan NUS For Good neu anfonwch e-bost at sustainabilty@uwtsd.ac.uk os hoffech ffocysu aseiniad, prosiect neu draethawd hir ar bwnc cynaliadwyedd ymarferol.
-
Mae PCYDDS wedi cyflawni statws Cyfaill Gwenyn sy’n rhan o gynllun cenedlaethol arloesol sydd wedi’i gydlynu i wneud Cymru yn fwy cyfeillgar i bryfed peillio. Ar ein campws ni rydym wedi bod yn datblygu dolydd blodau gwyllt, sypiau cynefin pren a thywod ac wedi lleihau ein defnydd o blaladdwyr trwy ddewis chwynnu a strimio â llaw.
Cymerwch ran drwy wirfoddoli i blannu blodau, ewch am dro trwy un o’n campysau ar ‘Daith Cerdded Llesiant’ i weld ein cynefinoedd pryfed peillio. neu rhowch gynnig ar arddio un o’r lotments ar y safle.
Rhoi’n ôl
Mae gwirfoddoli gyda sefydliad lleol yn gyfle gwych i roi rhywbeth yn ôl i’ch cymuned, gwella eich cymuned leol, cwrdd â phobl o’r un anian a chael profiad gwerthfawr sy’n edrych yn wych ar eich CV!
Isod ceir rhai dolenni i’ch rhoi ar ben ffordd, ond mae cyfoeth o gyfleoedd allan yno i chi gymryd rhan felly cymerwch olwg!
Cymru
| Sefydliad | Disgrifiad |
|---|---|
| Gwirfoddolwyr Cadwraeth Caerdydd | Ymunwch â Gwirfoddolwyr Cadwraeth Caerdydd wrth iddynt fynd o gwmpas y lle yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gefn gwlad! |
| Sgiliau a Gwirfoddoli Cymru | Ar gyfer yr holl brosiectau gwirfoddoli yn Ne Cymru, gan gynnwys cyfleoedd cynaliadwy ac amgylcheddol yng Nghaerdydd. |
| Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru | Ar y wefan hon cewch wybodaeth am waith Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru gan gynnwys: camau gweithredu ac amcanion cenedlaethol a lleol; newyddion a digwyddiadau yn ymwneud â bioamrywiaeth; a sut gallwch chi helpu bioamrywiaeth. |
| Cadwch Gymru’n Daclus | Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn gweithio ar draws Cymru i warchod ein hamgylchedd. Maent yn darparu cyfleoedd gwirfoddoli sy’n rhoi cyfle i chi weithredu a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eich cymuned. |
| Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr (CAVS) | Mae CAVS yn cefnogi gwaith gwirfoddol ar draws Sir Gaerfyrddin ac mae ganddynt restr o gyfleoedd cyfredol ar eu gwefan. |
| Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe (SCVS) | Edrychwch ar wefan SCVS am gyfleoedd gwirfoddoli lleol yn Abertawe. |
| Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO) | Gallwch ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli lleol yng Ngheredigion ar wefan CAVO. |
| Gwirfoddoli Cymru | Mae Gwirfoddoli Cymru yn gyfeiriadur o gyfleoedd gwirfoddoli ledled Cymru. |
Lloegr
| Sefydliad | Disgrifiad |
|---|---|
| Eco Birmingham | Mae Eco Birmingham yn edrych ar gynaliadwyedd yn gyfannol ac yn gallu darparu cyfleoedd gwirfoddoli cyffrous i fyfyrwyr i dyfu a datblygu mewn amrywiaeth o feysydd. Cysylltwch â nhw i gael gwybod rhagor! |
| Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Birmingham | Ar gyfer yr holl gyfleoedd gwirfoddoli yn Birmingham. |
| Gwirfoddolwyr Cadwraeth (TCV) | Gwirfoddolwch i gefnogi mannau gwyrdd Llundain ar draws y ddinas. O sgiliau adeiladu a chwrdd â phobl newydd, mae gan TCV doreth o gyfleoedd. |
| Thames 21 | Mae Thames 21 yn edrych i wella afonydd a chamlesi Llundain drwy weithio gyda chymunedau. Os oes gennych ychydig o amser i’w cefnogi nhw a’u cenhadaeth i lanhau’r dyfrffyrdd, cysylltwch â nhw! |