Profiad Dylan yn PCYDDS
Profiad Dylan ar BSc Pensaernïaeth
Beth yw eich hoff beth am gampws Abertawe?
Fy hoff beth am astudio yn Abertawe oedd yr awyrgylch. Roedd y campws yn teimlo’n groesawgar ac yn gefnogol bob amser a bod yn agos i ganol y ddinas a’r glannau wedi creu amgylchedd gwych i astudio a chymdeithasu ynddo. Roedd diwylliant y stiwdio yn arbennig o bwysig, gan ei fod yn annog cydweithio, creadigrwydd a rhannu syniadau rhwng myfyrwyr o grwpiau blwyddyn gwahanol. Roedd yn hawdd siarad â’r darlithwyr ac roedd ganddynt ddiddordeb go iawn mewn helpu myfyrwyr i lwyddo, a wnaeth y profiad hyd yn oed yn fwy pleserus.
Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Dewisais i PCYDDS oherwydd ei henw da am ddysgu creadigol ac ymarferol. Cynigiodd y cwrs Pensaernïaeth y cyfle i ddatblygu sgiliau technegol a dylunio wrth weithio ar brosiectau yn y byd go iawn. Yn ogystal, roedd y dosbarthiadau llai yn apelio ataf, gan eu bod wedi caniatáu mwy o gefnogaeth unigol a pherthnasoedd agosach â’r darlithwyr. Roedd gallu astudio’n agos at fy nghartref wrth dderbyn addysg o ansawdd uchel wedi gwneud PCYDDS yn ddewis perffaith i mi.
Beth ydych chi’n mwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?
Pan nad ydw i’n astudio, rwy’n mwynhau mynd i’r gampfa, gwrando ar gerddoriaeth, chwarae gemau cyfrifiadurol a threulio amser gyda ffrindiau. Rwyf hefyd yn mwynhau archwilio pensaernïaeth a dylunio y tu allan i brosiectau’r brifysgol, boed hynny trwy ymweld â llefydd newydd, ymchwilio adeiladau, neu ddod o hyd i ysbrydoliaeth gan ffilmiau, celf, a cherddoriaeth. Roedd y diddordebau hyn wedi fy helpu i gynnal cydbwysedd iach rhwng gwaith academaidd a bywyd personol yn ystod fy amser yn astudio’r radd.
Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?
Ar ôl graddio, rwy’n gobeithio dechrau fy ngyrfa broffesiynol mewn pensaernïaeth a pharhau i ddatblygu fy sgiliau’n ymarferol. Fy nod tymor hir yw ddod yn bensaer cymwysedig a gweithio ar brosiectau sy’n cael effaith gadarnhaol ar gymunedau. Roedd cael fy magu yng Nghastell Nedd wedi fy ysbrydoli i ddilyn gyrfa mewn pensaernïaeth a hoffwn gyfrannu at greu llefydd gwell i bobl fyw, gweithio a chymdeithasu ynddynt. Mae diddordeb arbennig gen i mewn dylunio mannau sy’n gynaliadwy, cynhwysol, ac yn fuddiol i gymunedau lleol.
Beth yw eich hoff beth am y cwrs?
Fy hoff agwedd o’r cwrs oedd y cyfle i fynd o gysyniad syml i ddyluniad wedi’i ddatblygu’n llawn. Fe wnes i fwynhau’r cyfuniad o greadigrwydd a datrys problemau technegol y mae pensaernïaeth yn gofyn amdanynt. Roedd prosiectau stiwdio wedi ein hannog i feddwl yn greadigol am sut mae adeiladau’n effeithio ar bobl a chymunedau, gan hefyd ddatblygu sgiliau ymarferol sy’n uniongyrchol berthnasol i arfer proffesiynol. Roedd gweld prosiectau’n esblygu dros amser yn brofiad hynod werthfawr.
A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?
Rwyf wir wedi mwynhau astudio yn Abertawe a PCYDDS. Mae wedi bod yn lle gwych i dyfu, nid yn unig yn academaidd, ond hefyd yn bersonol. Roedd y darlithwyr cefnogol, y gymuned groesawgar, a’r dull ymarferol at ddysgu wedi creu amgylchedd lle roeddwn i’n gallu datblygu hyder a chyflawni fy nodau. Darparodd y cwrs brofiad gwerthfawr yn y byd go iawn ac wedi fy mharatoi’n dda ar gyfer cam nesaf fy ngyrfa. Byddwn yn argymell PCYDDS i unrhyw un sy’n chwilio am brofiad prifysgol cefnogol ac addysg o ansawdd uchel.
Profiad o glirio
Ymunais i â PCYDDS drwy’r broses Clirio a oedd yn llawer llai o straen nag oeddwn i’n ei ddisgwyl. Roedd y tîm derbyniadau’n gyfeillgar, yn gefnogol ac roedd yn hawdd gysylltu â nhw trwy gydol y broses. Roedden nhw wedi esbonio pob cam yn glir ac wedi ateb unrhyw gwestiynau oedd gen i, gan wneud y newid i fywyd yn y brifysgol yn syml ac yn galonogol. Rhoddodd y cymorth a gefais hyder i mi fy mod i wedi gwneud y dewis cywir, ac o’m cysylltiad cyntaf â’r brifysgol, teimlais i groeso a fy mod i’n cael fy ngwerthfawrogi fel myfyriwr.
Dylan Longman is the winner of the Starki Architecture Prize and is graduating with from the BSc in Architecture this year. Dylan came to UWTSD three years ago via the Clearing route. His experiences were really positive from day one and he recommends Clearing to anyone who is in a similar position of deciding to go to University at the last minute.