Skip page header and navigation

Yma i'ch Cefnogi

Mae gwasanaethau cymorth myfyrwyr mewn prifysgol yn chwarae rhan ganolog wrth sicrhau bod myfyrwyr yn cael profiad academaidd llwyddiannus ac wrth eu bodd.​ Mae ein Hwb Myfyrwyr wedi’i greu i fod yn bwynt cyswllt cyntaf er mwyn darparu gwasanaeth gwybodaeth cynhwysfawr ar bopeth sy’n ymwneud â myfyrwyr.

Mae ein tîm gwasanaethau myfyrwyr proffesiynol a phrofiadol wrth law i roi’r wybodaeth, y cyngor, yr arweiniad a’r cymorth i chi er mewn eich helpu i wneud yn fawr o’ch profiad yn y brifysgol - a gwneud eich taith mor esmwyth â phosibl. O gefnogaeth academaidd sy’n rhoi arweiniad ar fodiwlau a sut i gofrestru i wasanaethau myfyrwyr sy’n cynnig cefnogaeth emosiynol ac iechyd meddwl i fyfyrwyr.​

Gwasanaethau Myfyrwyr

Mae bywyd prifysgol yn gyfle anhygoel i ddysgu pethau newydd a dod i adnabod eich hun, ond gall ddod â rhai heriau yn ei sgil. Mae ein gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr yn cynnig gwasanaeth cymorth proffesiynol sy’n darparu gwybodaeth, cyngor, arweiniad, cymorth ymarferol ac emosiynol o ansawdd uchel i alluogi pob myfyriwr i gyrraedd ei lawn botensial.​

Mae’r adran Gwasanaethau Myfyrwyr yn gasgliad o wasanaethau proffesiynol ymarferol sydd wedi’u cynllunio i alluogi a chefnogi ein holl fyfyrwyr i gyrraedd eu llawn botensial.​  Trwy ein gwasanaethau, gall myfyrwyr gael gafael ar wybodaeth, cyngor, arweiniad, cyfleoedd a chefnogaeth o ansawdd uchel yn ymwneud â chymorth lles, cymorth ariannol, cymorth dysgu, gyrfaoedd a diogelu. 

Aelod o staff yn helpu darpar fyfyriwr mewn ffair

Cymorth Lles

Efallai eich bod yn dod i’r brifysgol a bod gyda chi ddiagnosis o gyflwr iechyd meddwl neu efallai y byddwch dangos arwyddion o anawsterau gyda’ch iechyd meddwl neu les tra byddwch yn astudio.

P’un ai a ydych chi’n dioddef o broblem tymor byr gyda straen, mater cymhleth sy’n para’n hirach, neu os ydych chi’n cael trafferth ond ddim yn siŵr beth i’w wneud, yna mae’r Gwasanaeth Lles yma i’ch cefnogi. Gallwch gael mynediad at ein gwasanaeth yn rhad ac am ddim unrhyw bryd yn ystod eich astudiaethau.

Mae gennym amrywiaeth o wasanaethau cyfrinachol, proffesiynol, sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr ac sydd am ddim, a all weithio gyda chi i ddeall yn well yr hyn rydych yn ei ddioddef a’ch helpu i benderfynu sut rydych am reoli’r effaith ar eich astudiaethau.

Aelod o staff yn helpu myfyriwr

Cymorth Dysgu

Mae ein tîm Cymorth Dysgu wrth law i gefnogi eich astudiaethau. Gall pob myfyriwr gael mynediad i’n sesiynau Sgiliau Astudio ac archebu slot i weithio un-i-un gyda’n tîm sgiliau astudio.

Rydym hefyd yn darparu cymorth academaidd cynhwysfawr i Fyfyrwyr Anabl. Bydd ein tîm yn cynorthwyo myfyrwyr wrth wneud cais am y Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA), gan gynnwys mynediad at asesiad a diagnosis ar gyfer Gwahaniaeth Dysgu Penodol (SpLD) lle bo angen. Mae ein tîm proffesiynol a chymwys o Gynorthwywyr Anfeddygol wrth law i weithio gyda myfyrwyr sydd wedi cael diagnosis i gynorthwyo gyda’u dysgu ac i’w helpu i gyflawni eu potensial.

Beth bynnag yw eu statws o ran y Lwfans Myfyrwyr Anabl, mae’r tîm Cymorth Dysgu wrth law i gefnogi myfyrwyr drwy amgylchiadau annisgwyl a chyfnodau anodd sydd wedi effeithio ar eu hastudiaethau. Gall myfyrwyr ofyn am gymorth gan y tîm ac mae modd iddynt wneud cais am Amgylchiadau Esgusodol lle bo’n briodol.

Aelodau staff mewn ffair yrfaoedd

Gwasanaeth Gyrfaoedd

Ydych chi’n barod i fynd amdani er mwyn ceisio cyrraedd eich nod? P’un ai a ydych wedi gosod eich bryd ar astudiaeth bellach, gyrfa lwyddiannus neu sefydlu eich busnes eich hun hyd yn oed, byddwn yn eich cefnogi wrth i chi ddilyn eich breuddwydion.​ 

Ac os nad ydych chi’n siŵr beth rydych am ei wneud eto, bydd ein Cynghorwyr Gyrfa profiadol a chyfeillgar yn rhoi’r cyngor a’r arweiniad sydd eu hangen arnoch i ddod o hyd i lwybr sy’n addas i chi. 

Trwy apwyntiadau un-i-un, neu sesiynau galw heibio, cewch gyfle i nodi eich cryfderau naturiol a’ch sgiliau, darganfod mwy am chwilio am swydd yn effeithiol, dysgu sut i ysgrifennu CVs effeithiol, gwella eich sgiliau cyfweliad a gwneud cais am swyddi i raddedigion.​ Byddwn hefyd yn eich helpu gyda datganiadau personol a cheisiadau ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig. 

Yn ogystal â’n Cynghorwyr Gyrfa, bydd gennych fynediad i MyCareer, platfform gyrfaoedd ar-lein y Brifysgol, sydd ar gael i chi mewn partneriaeth ag Abintegro. Gydag offer arbenigol fel bwrdd swyddi, cynllunydd gyrfa, gwiriwr CV360 awtomataidd, Interview 360 a mwy, gallwch ddechrau paratoi ar gyfer eich dyfodol ar eich telerau eich hun. 

Ydych chi’n barod i gymryd y cam nesaf? Byddwn ni yma i’ch helpu chi i ddod o hyd i brofiad gwaith, lleoliadau gwaith â thâl neu swydd ran-amser - felly byddwch chi’n graddio gyda’r sgiliau a’r hyder i greu’r dyfodol rydych chi wedi breuddwydio amdano erioed. Mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn trefnu gweminarau i gyflogwyr a ffeiriau gyrfaoedd ar bob campws drwy gydol y flwyddyn academaidd.

Cysylltwch â Ni

Cysylltwch â Ni

E-bost: hwb@uwtsd.ac.uk

Rhif: 0300 131 3030

Oriau Agor: 

Dydd Llun 8.30 – 5.00

Dydd Mawrth 8.30 – 5.00 

Dydd Mercher 8.30 – 5.00 

Dydd Iau 8.30 – 5.00 

Dydd Gwener 8.30 – 4.30