Profiad Nathanael y yn PCYDDS
Profiad Nathanael ar BEng Peirianneg Beiciau Modur
Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?
Roedd y cyfleusterau oedd ar gael i fyfyrwyr i roi theori ar brawf yn cynnig cyfleoedd ymarferol gwych i wneud tasgau peirianneg yn y byd go iawn
Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Dewisais i PCYDDS oherwydd y cyfleoedd ymarferol sydd ar gael yn y brifysgol.
Beth ydych chi’n mwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?
Fe wnes i fwynhau bod yn rhan o Greenpower, gan gefnogi fy hen ysgol uwchradd ar benwythnosau rasio.Rydw i hefyd yn gerddor ac yn mwynhau gwneud cerddoriaeth.
Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut wnaethoch chi gyrraedd ble ydych chi nawr a sut mae eich cwrs wedi’ch helpu yn eich gyrfa?
Ar ôl graddio, cefais gynnig swydd gan gwmni Morgan Motor o fewn y tîm peirianneg. Rydw i wedi bod gyda Morgan Motor er 2023 fel peiriannydd dylunio yn gweithio ar amrywiaeth o agweddau gwahanol ar y cerbyd.
Rhoddodd y cwrs yr holl hanfodion a’r wybodaeth gefndir i mi i weithio’n effeithiol yn fy rôl yn ogystal â’r sgiliau ymarferol a ddefnyddir wrth weithio ar gerbydau prototeip a cherbydau cynhyrchu.
Beth oedd eich hoff beth am BEng Peirianneg Fodurol?
Fy hoff ran o’r cwrs oedd y prosiect blwyddyn olaf, cyfle i ymgolli mewn prosiect yn y byd go iawn a llunio adroddiad terfynol oedd yn cyflwyno’r holl ganfyddiadau.
A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?
Yn bendant. Mae’r cydbwysedd rhwng gwaith ymarferol a theori yn gwneud y cwrs nid yn unig yn ddiddorol a llawn mewnwelediad ond hefyd yn fwynhad pur. Mae’r darlithwyr yn rhan allweddol o hynny, gan ddangos angerdd wrth ddarlithio a bob amser yn ceisio gwneud amser i gefnogi ac ateb cwestiynau. Mae’n lle sy’n ysbrydoli.