Academi Chwaraeon PCYDDS yn Dathlu Llwyddiant Eithriadol Myfyrwyr mewn Noson Wobrwyo Flynyddol
Dathlodd Academi Chwaraeon Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) flwyddyn ryfeddol arall o gyflawniad ym maes chwaraeon yn ei Noson Wobrwyo Flynyddol, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Dylan Thomas ar gampws Abertawe.
Roedd y digwyddiad yn nodi pedwerydd tymor yr Academi yn ôl yng nghystadlaethau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) a ddaeth â myfyrwyr, staff, partneriaid a chefnogwyr ynghyd i gydnabod cyflawniadau rhagorol timau chwaraeon ac athletwyr unigol PCYDDS trwy gydol blwyddyn academaidd 2025/26.
Roedd y noson yn cynnwys amrywiaeth o wobrau yn dathlu rhagoriaeth, ymroddiad a chyflawniad ym maes chwaraeon ar draws rhaglen yr Academi Chwaraeon.
Roedd enillwyr y gwobrau yn cynnwys:
Chwaraewr Pêl-droed Dynion y Flwyddyn PCYDDS – Owain Davies
Chwaraewr Pêl-rwyd Merched y Flwyddyn PCYDDS – Emily Hopkins
Chwaraewr Rygbi Dynion y Flwyddyn PCYDDS – Cerith Davies
Myfyriwr Staff Cymorth y Flwyddyn PCYDDS – Cynyr Llewelyn-Jones
Myfyriwr y Flwyddyn Academi Chwaraeon PCYDDS – Iestyn Wood
Mabolgampwr Chwaraeon Unigol y Flwyddyn PCYDDS – Bekka Pratt
Roedd y noson hefyd yn cydnabod cyfres o gyflawniadau tîm eithriadol. Sicrhaodd tîm Rygbi’r Dynion ddyrchafiad am y drydedd flwyddyn yn olynol ar ôl cwblhau ymgyrch heb golli gêm i ddod yn Bencampwyr Haen 3 BUCS y Gorllewin. Parhaodd tîm Pêl-rwyd y Merched i adeiladu ar ddyrchafiad y tymor diwethaf trwy gystadlu mewn adran uwch a gorffen y tymor gyda thrydydd safle canmoladwy yng Nghynghrair Haen 5 BUCS y Gorllewin.
Yn y cyfamser, cafodd tîm Pêl-droed y Dynion dymor hanesyddol, a hwythau heb eu curo drwy gydol yr ymgyrch a chwblhau cyflawniad dwbl rhyfeddol trwy ennill teitl Cynghrair Haen 5 Gorllewinol BUCS a Thlws Cynhadledd Gorllewinol BUCS.
Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Lee Tregoing, Pennaeth Academi Chwaraeon PCYDDS:
“Ers lansio’r Academi Chwaraeon ar ddechrau blwyddyn academaidd 2022/23, a thrwy weithio mewn partneriaeth ag Undeb Myfyrwyr PCYDDS, rydym bellach yn cymryd rhan yn ein pedwerydd tymor o gystadlaethau, cynghreiriau a chwpanau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS).
“Mae wedi bod yn anhygoel gweld myfyrwyr yn ffynnu eleni wrth gystadlu mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau BUCS. Roedd ein pedwaredd noson wobrwyo flynyddol yn achlysur hyfryd ac yn rhoi cyfle i fyfyrwyr a staff ddod at ei gilydd, dathlu llwyddiant ac adfyfyrio ar flwyddyn nodedig arall.”
Cyflwynwyd y gwobrau gan Brif Swyddog Gweithredu PCYDDS, Peter Manion, Pennaeth Gweithredol Gwasanaethau Myfyrwyr, Kelly Williams, Rheolwr Cyfleoedd Myfyrwyr Undeb y Myfyrwyr PCYDDS, Emma Morgan, a’r noddwr Andrew Bury o IntroTeach.
Gan edrych nôl ar gyflawniadau’r flwyddyn, ychwanegodd Lee Tregoning:
“Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr, staff ac wrth gwrs enillwyr ein gwobrau. Hoffwn hefyd ddiolch i bawb a gyfrannodd at noson a blwyddyn gofiadwy o lwyddiannau. Mae datblygiad a chyflawniadau parhaus ein myfyrwyr sy’n athletwyr yn rhywbeth y gall holl gymuned y Brifysgol fod yn falch ohono.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476