Skip page header and navigation

Mae dau academydd o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi cymryd y llwyfan yn nigwyddiad TEDx Abertawe i archwilio un o gwestiynau pwysicaf ein hoes: wrth i ddeallusrwydd artiffisial ddod yn fwyfwy pwerus, pwy sy’n gyfrifol yn y pen draw am y penderfyniadau y mae’n dylanwadu arnyn nhw?

Three people standing against a branded backdrop.

Ymunodd Laura Hutchings, Arweinydd Digidol y Gyfadran Addysg a’r Dyniaethau, a Robyn Griffiths, Rheolwr Rhaglen Rheoli Busnes, â Naveen Kumar KK, technolegydd ac arbenigwr llywodraethu AI, ar gyfer sgwrs i ysgogi meddwl a oedd yn archwilio’r berthynas rhwng deallusrwydd artiffisial, gwneud penderfyniadau moesegol, a chyfrifoldeb dynol.

Mae’r tri siaradwr yn aelodau o’r tîm gweithredol yn Ethos Institute CIC, sef sefydliad sydd â ffocws ar arweinyddiaeth foesegol, arloesi cyfrifol, a dulliau sy’n canolbwyntio ar bobl ym maes egin dechnolegau. Gan ddefnyddio eu profiad ar draws addysg, busnes a thechnoleg, dyma nhw’n archwilio sut y gall cymdeithas gofleidio’r cyfleoedd a gyflwynir gan AI wrth sicrhau ar yr un pryd fod ei ddatblygiad a’i ddefnydd yn parhau’n seiliedig ar werthoedd dynol.

Anogodd y sgwrs gynulleidfaoedd i edrych y tu hwnt i’r hyn y mae deallusrwydd artiffisial yn gallu ei gyflawni ac ystyried y dewisiadau, gwerthoedd a chyfrifoldebau dynol sy’n llunio sut y caiff y technolegau hyn eu datblygu a’u defnyddio.

Wrth fyfyrio ar y cyfleoedd a’r heriau yn sgil AI, meddai Laura Hutchings: “Mae deallusrwydd artiffisial yn newid y byd o’n cwmpas ni ar gyflymder gwyllt, gan greu cyfleoedd a fyddai wedi bod yn anodd eu dychmygu ychydig flynyddoedd yn ôl. Ond gyda’r cyfleoedd hynny daw cyfrifoldeb pwysig i feddwl yn feirniadol am sut rydyn ni’n defnyddio’r technolegau hyn a’r effaith y maen nhw’n ei chael ar bobl.

“Yr her go iawn yw nid yn unig ddeall beth y gall AI ei wneud, ond hefyd gofyn beth dylai ei wneud, pwy sy’n elwa a phwy sy’n parhau i fod yn atebol. Rhaid bod cyfrifoldeb dynol yn dal i fod yn ganolog i’r sgwrs.”

Ychwanegodd: “Mae gan brifysgolion rôl bwysig i’w chwarae wrth helpu pobl i lywio’r cyfleoedd a’r heriau y mae ddeallusrwydd artiffisial yn eu creu. Dyw hi ddim yn fater o ddatblygu sgiliau digidol yn unig, ond hefyd annog chwilfrydedd, meddwl beirniadol, a’r hyder i gwestiynu sut mae’r technolegau hyn yn dylanwadu ar ein bywydau ni.

“Mae angen i’r sgyrsiau hyn ymestyn y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Trwy ymgysylltu â’n cymunedau, gallwn ni helpu i sicrhau bod pobl yn teimlo’n wybodus, wedi’u grymuso ac yn gallu gwneud dewisiadau cyfrifol am y technolegau sy’n llunio eu dyfodol.”

Wrth i AI gael ei ymgorffori’n fwyfwy mewn addysg, gweithleoedd a bywyd pob dydd, pwysleisiodd y siaradwyr bwysigrwydd sicrhau bod cynnydd technolegol yn cyd-fynd â meddwl beirniadol, atebolrwydd ac ymwybyddiaeth foesegol.

Archwiliodd Robyn Griffiths oblygiadau AI i sefydliadau ac arweinyddiaeth, yn enwedig wrth i fusnesau fabwysiadu technolegau deallus fwyfwy i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau, gwella effeithlonrwydd, a gyrru arloesedd.

Meddai: “Mae gan ddeallusrwydd artiffisial botensial enfawr i gefnogi arloesi a thrawsnewid sefydliadau, ond all technoleg ei hun ddim cymryd cyfrifoldeb am y penderfyniadau a wnawn ni. Ni sy’n gyfrifol am hyn o hyd.

“Fel arweinwyr, addysgwyr, ac aelodau o gymdeithas, mae angen i ni sicrhau bod ein gwerthoedd yn llywio sut y defnyddir AI. Mae’n golygu gwneud dewisiadau ymwybodol, gwybodus a moesegol sy’n rhoi pobl yn gyntaf, yn hytrach na chaniatáu i dechnoleg benderfynu ar y cyfeiriad rydyn ni’n ei gymryd.”

Ychwanegodd Robyn: “Mae AI yn newid sut mae sefydliadau’n gweithredu, ac mae’n bwysig bod busnesau’n teimlo eu bod nhw wedi’u paratoi i gofleidio’r datblygiadau hyn yn gyfrifol. Mae gwneud penderfyniadau moesegol yn hanfodol i adeiladu ymddiriedaeth a sicrhau bod arloesedd o fudd i bawb.

“Trwy ddod ag addysg, busnes a’r gymuned ehangach at ei gilydd, gallwn ni helpu i lunio dyfodol lle mae technoleg yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.”

Mae’r drafodaeth hefyd yn archwilio pwysigrwydd cynyddol atebolrwydd wrth i systemau AI ddod yn fwyfwy annibynnol, gan symud y tu hwnt i ddarparu gwybodaeth i gyflawni tasgau a chymryd camau ar ran unigolion a sefydliadau.

Esboniodd Naveen Kumar KK: “Wrth i AI symud y tu hwnt i ddim ond ateb cwestiynau gan ddechrau cymryd camau ar ein rhan ni, mae atebolrwydd yn bwysicach fyth. Mae angen i ni wybod pwy greodd system AI, pa awdurdod sydd wedi’i roi iddi, a chael cofnod clir o’r camau y mae’n eu cymryd.

“Gallwn ni ddirprwyo tasgau, penderfyniadau ac yn fwy ac yn fwy, gweithredoedd hyd yn oed, i ddeallusrwydd artiffisial, ond allwn ni ddim dirprwyo cyfrifoldeb. Efallai y daw AI yn fwy annibynnol, ond mae’n rhaid cadw atebolrwydd dynol.”

Trwy eu safbwyntiau ategol, tynnodd y siaradwyr sylw at yr angen i sgyrsiau am AI ymestyn y tu hwnt i arbenigwyr technoleg, gan ddod ag addysgwyr, arweinwyr busnes a chymunedau ynghyd i sicrhau bod arloesedd yn cael ei lywio gan safbwyntiau amrywiol a gwneud penderfyniadau cyfrifol.

I PCYDDS, mae cyfrannu i’r trafodaethau hyn yn adlewyrchu ymrwymiad y Brifysgol i gysylltu arbenigedd academaidd â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu unigolion, sefydliadau a chymdeithas. Trwy ymgysylltu â sgyrsiau cyhoeddus ehangach, mae ei hacademyddion yn helpu i hyrwyddo gwell dealltwriaeth o sut y gellir defnyddio egin dechnolegau yn gyfrifol ac mewn ffyrdd sydd o fudd i gymdeithas.

Roedd platfform TEDx Abertawe yn gyfle i rannu’r syniadau hyn â chynulleidfa ehangach, gan annog unigolion, sefydliadau a chymunedau i ystyried eu rolau eu hunain wrth lunio dyfodol sy’n cael ei yrru gan AI.

Wrth wraidd y sgwrs roedd neges glir: er y gall deallusrwydd artiffisial drawsnewid sut rydyn ni’n byw, yn dysgu ac yn gweithio, rhaid i gyfrifoldeb am y dewisiadau a wnawn ni a’r technolegau a ddefnyddiwn ni aros yn bendant yn nwylo pobl.

Ynglŷn â TEDx

Yn ysbryd syniadau sy’n werth eu lledaenu, mae TEDx yn rhaglen o ddigwyddiadau lleol, sydd wedi’u trefnu eu hunain ac sy’n dod â phobl at ei gilydd i rannu profiad tebyg i TED. Mewn digwyddiad TEDx, mae fideos TED Talks a siaradwyr byw yn cyfuno i sbarduno trafodaeth a chysylltiad dwfn. Mae’r digwyddiadau lleol sy’n eu trefnu eu hunain wedi eu brandio TEDx, lle x = digwyddiad TED wedi’i drefnu’n annibynnol. Mae’r Gynhadledd TED yn darparu canllawiau cyffredinol ar gyfer y rhaglen TEDx, ond mae digwyddiadau TEDx unigol yn eu trefnu eu hunain (yn amodol ar reolau a rheoliadau penodol).


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon