Skip page header and navigation

Chwaraeodd academyddion o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewis Sant (PCYDDS) rôl ganolog wrth lunio trafodaethau rhyngwladol ar Ddeallusrwydd Artiffisial, addysg, a ffyniant dynol yn 10fed Cyngres Ryngwladol Cadeiryddion Scholas Occurrente, a gynhaliwyd yn Rhufain rhwng 17-19 Tachwedd 2025.

Group photo of UWTSD Academis with some delegates at the Scholas Chairs Congress in Rome.

Roedd cynrychiolwyr o dros 50 o ysgolion yn y gynhadledd a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Drefol y Pontifical. Archwiliwyd y pwnc “Deallusrwydd Heb Ystyr neu Ystyr Deallusrwydd Artiffisial?”  

Cyfrannodd dirprwyaeth PCYDDS, Dr Jeremy Smith, Deon Athrofa Addysg a’r Dyniaethau, a’r Athro Scherto Gill, Cadeirydd Gweithredol Athrofa Dynoliaeth Fyd-eang er Heddwch y Brifysgol, yn sylweddol i’r dialog drwy gydol y rhaglen dros y ddau ddiwrnod. 

Arwain gyda Phwrpas mewn Byd a Yrrir gan AI 

Pwysleisiodd Dr Jeremy Smith, y cyfrifoldeb brys y mae prifysgolion yn ei wynebu mewn cyfnod lle mae AI yn trawsnewid pob agwedd ar waith, cymdeithas a rhyngweithio dynol mewn cyfraniad allweddol o’r enw “Arwain gyda Phwrpas mewn Byd a Yrrir gan AI”.

Dadl Dr Smith oedd, er bod AI yn cynyddu ar gyflymder digynsail, rhaid i brifysgolion sicrhau bod ystyr dynol, creadigrwydd a phwrpas moesol yn parhau wrth wraidd addysg. 

Dywedodd Dr Smith wrth y cyfranogwyr, “Nid yw Deallusrwydd Artiffisial yn ddatblygiad technolegol yn unig.  Mae’n trawsnewid y cyd-destunau y mae creadigrwydd dynol, cydweithredu, a chyfrifoldeb yn datblygu ynddynt. Ein rôl fel prifysgolion yw cyd-fynd â’n myfyrwyr – eu helpu i aros yn addasadwy, adfyfyriol, ac yn foesegol fel bod systemau AI yn gwasanaethu llesiant dynol, nid ei lunio.”

Gan dynnu ar strategaeth sefydliadol PCYDDS a yrrir gan werthoedd, amlinellodd Dr Smith nifer o fentrau mawr sydd ar waith eisoes ar draws y Brifysgol, gan gynnwys hyfforddi bron i 400 o staff i ddefnyddio offer AI cynhyrchiol ac arfer cyfrifol, ymgorffori rhaglenni llythrennedd AI i fyfyrwyr ar draws disgyblaethau. Yn ogystal, mae’r Brifysgol wedi cyflwyno, ers 2024 ganllawiau clir, penodol i’r disgyblaethau ar y defnydd moesegol a chreadigol o AI ym mhob asesiad.  Yn ogystal, disgrifiodd ddatblygiad model “Dysgu-Addasu-Mabwysiadu-Datblygu” y Brifysgol sy’n llunio’r broses o integreiddio sefydliadol AI, ochr yn ochr â sefydlu rhwydwaith o Bencampwyr AI ar draws cyfadrannau er mwyn meithrin arloesi, cefnogi staff, a rhannu arfer da.

Pwysleisiodd Dr Smith fod dull PCYDDS wedi’i wreiddio mewn urddas dynol, creadigrwydd, a stiwardiaeth foesegol, gan gyd-fynd yn agos â ffocws y gyngres ar ystyr dyfnach deallusrwydd. 

Daeth i’r casgliad fod “dyfodol addysg yn gorwedd nid mewn algorithmau, ond mewn meddyliau a chalonnau’r rheiny sy’n dysgu”.“Gall AI lywio ein gwaith, ond ni all byth ddisodli dyfnder y profiad dynol.  Ein cyfrifoldeb yw arloesi gyda doethineb y galon.”

Four girls in discussion during the Young Changemakers Programmethe 10th International Congress of Scholas Occurrentes Chairs in Rome

Archwilio Deallusrwydd Dynol a Grymuso Ysgogwyr Ifanc 

Cynigiodd yr Athro Scherto Gill fyfyrdodau athronyddol ac addysgol ar natur deallusrwydd. Mae hi’n awgrymu na ellir lleihau deallusrwydd dynol i berfformiad tasgau swyddogaethol neu ddefnyddioldeb, ond ei fod yn cynnwys y person cyfan, wedi’i ymgorffori a’i leoli, wedi’i gyfeirio at ystyr - gwirionedd, daioni a harddwch. Mae deallusrwydd yn integreiddio’r dimensiynau gwybyddol, perthynol, asiantaidd ac ysbrydol mewn ymgysylltiad gwirioneddol â realiti.

Gan gymhwyso’r ddealltwriaeth hon mewn addysg, parhaodd Sefydliad Dynoliaeth Byd-eang dros Heddwch a’r sefydliad Pontifical Scholas â’u partneriaeth ar Raglen Newidwyr Ifanc. Archwiliodd pobl ifanc o bob cwr o bum cyfandir gwestiynau gan gynnwys: Pwy ydw i/ydym ni? O ble rydyn ni’n dod? Ble rydyn ni nawr? Ble rydyn ni’n mynd? Sut y gallem ni gyrraedd yno? gan ffurfio arc taith y rhaglen. Canolbwyntiodd y grŵp eu profiad, eu deialog a’u creadigrwydd ar oblygiadau cymdeithasol a moesegol technolegau sy’n dod i’r amlwg, a mynegi eu dyheadau ar gyfer creu ystyr cydweithredol fel sail ar gyfer gwneud newid trawsnewidiol. Myfyriodd yr Athro Gill ar arwyddocâd canoli llais ieuenctid ledled y Gyngres:

“Os yw deallusrwydd yn wirioneddol berthynol, wedi’i ymgorffori, ac wedi’i gyfeirio at y daioni, yna rhaid i addysg feithrin y galluoedd hyn, ac mae’r rhai ifanc sy’n newid pethau wedi dangos i ni sut. Mae eu dewrder, eu dychymyg moesol, a’u hymrwymiad i gyd-greu yn cynnig yn union y math o arweinyddiaeth y galwodd Dr Smith amdani: wedi’i seilio ar bwrpas, urddas dynol a doethineb calon.”


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon